bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 15
Job 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 16 →
1
Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
2
A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â'r dwyreinwynt?
3
A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt?
4
Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron DUW.
5
Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys.
6
Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac nid myfi: a'th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn.
7
A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied tydi o flaen y bryniau?
8
A glywaist ti gyfrinach DUW? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun?
9
Beth a wyddost ti a'r nas gwyddom ni? beth a ddeelli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau?
10
Y mae yn ein mysg ni y penllwyd, a'r oedrannus hefyd; hŷn o oedran na'th dad di.
11
Ai bychan gennyt ti ddiddanwch DUW? a oes dim dirgel gyda thi?
12
Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid,
13
Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn DUW, a gollwng y fath eiriau allan o'th enau?
14
Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a'r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn?
15
Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a'r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef.
16
Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr?
17
Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a'r hyn a welais a fynegaf.
18
Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant:
19
I'r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.
20
Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.
21
Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.
22
Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno.
23
Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.
24
Cystudd a chyfyngdra a'i brawycha ef; hwy a'i gorchfygant, fel brenin parod i ryfel.
25
Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn DUW; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd.
26
Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei darianau:
27
Canys efe a dodd ei wyneb â'i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau.
28
A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau.
29
Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear.
30
Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef.
31
Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef.
32
Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a'i gangen ni lasa.
33
Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden.
34
Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr.
35
Y maent yn ymddŵyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a'u bol sydd yn darpar twyll.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42