bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 34
Job 34
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 35 →
1
Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,
2
Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch.
3
Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd.
4
Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda.
5
Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf: a DUW a ddug ymaith fy marn.
6
A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd.
7
Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr?
8
Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol.
9
Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â DUW.
10
Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth DDUW fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.
11
Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.
12
Diau hefyd na wna DUW yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn.
13
Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd?
14
Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a'i anadl ef;
15
Pob cnawd a gyd‐drenga, a dyn a ddychwel i'r pridd.
16
Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion.
17
A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol?
18
A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion?
19
Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.
20
Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a'r cadarn a symudir heb waith llaw.
21
Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef.
22
Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio.
23
Canys ni esyd DUW ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â DUW.
24
Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.
25
Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.
26
Efe a'u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg:
27
Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o'i ffyrdd ef:
28
Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.
29
Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig:
30
Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl.
31
Ond wrth DDUW, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;
32
Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.
33
Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a'i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost.
34
Gwŷr call, dywedant i mi; a'r gŵr doeth, clywed fi.
35
Job a ddywedodd yn annoeth; a'i eiriau ydynt heb ddoethineb.
36
Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir.
37
Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn DUW.
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 35 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→