bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 33
Job 33
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 34 →
1
Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau.
2
Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau.
3
O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau; a'm gwefusau a adroddant wybodaeth bur.
4
Ysbryd DUW a'm gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a'm bywiocaodd i.
5
Os gelli, ateb fi: ymbaratoa, a saf o'm blaen i.
6
Wele fi, yn ôl dy ddymuniad di, yn lle DUW: allan o'r clai y torrwyd finnau.
7
Wele, ni'th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat.
8
Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion:
9
Pur ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf, ac heb anwiredd ynof.
10
Wele, efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo.
11
Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion; y mae yn gwylied fy holl lwybrau.
12
Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a'th atebaf, mai mwy ydyw DUW na dyn.
13
Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o'i weithredoedd.
14
Canys y mae DUW yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn.
15
Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;
16
Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt:
17
I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn.
18
Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a'i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf.
19
Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef â gofid caled:
20
Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a'i enaid fwyd blasus.
21
Derfydd ei gnawd ef allan o olwg: saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o'r blaen.
22
Nesáu y mae ei enaid i'r bedd, a'i fywyd i'r dinistrwyr.
23
Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb:
24
Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i'r clawdd: myfi a gefais iawn.
25
Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid.
26
Efe a weddïa ar DDUW, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder.
27
Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb, Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi;
28
Efe a wared ei enaid ef rhag myned i'r clawdd, a'i fywyd a wêl oleuni.
29
Wele, hyn oll a wna DUW ddwywaith neu dair â dyn,
30
I ddwyn ei enaid ef o'r pwll, i'w oleuo â goleuni y rhai byw.
31
Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf.
32
Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawnhau di.
33
Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42