bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 1
Acts 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
1
Y Traethawd cyntaf a wnaethum, O Theophilus, am bob peth a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu,
2
hyd y dydd y cymerwyd Ef i fyny, wedi iddo roddi gorchymyn trwy yr Yspryd Glân i'r Apostolion, y rhai a etholasai Efe:
3
i'r rhai hefyd y dangosodd ei hun yn fyw ar ol ei Ddyoddefaint trwy lawer o arwyddion sicr, gan ymddangos iddynt ar hyd deugain niwrnod, a dywedyd y pethau am Deyrnas Dduw,
4
a chan ymgynull gyda hwynt, gorchymynodd iddynt nad ymadawent o Jerusalem, eithr disgwyl o honynt am Addewid y Tad, yr hon, eb efe, a glywsoch genyf fi:
5
canys Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir yn yr Yspryd Glân, nid ar ol llawer o'r dyddiau hyn.
6
Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, a wyt ti yn yr amser hwn yn adferu y Deyrnas i Israel?
7
Dywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd neu'r prydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn cylch ei awdurdod ei hun.
8
Eithr chwi a dderbyniwch allu, pan ddelo yr Yspryd Glân arnoch, a chwi a fyddwch fy nhystion i yn Jerusalem, ac yn holl Judea a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.
9
Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a gymerwyd i fyny, a chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg.
10
Ac fel yr oeddent yn edrych yn ddyfal i'r Nef, ac efe yn myned, wele, dau wr oedd yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd gwynion,
11
y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wyr o Galilea, paham yr ydych yn sefyll yn edrych i'r Nef? Yr Iesu hwn, yr hwn a dderbyniwyd i fyny oddiwrthych i'r Nef, a ddaw felly yn y modd y gwelsoch ef yn myned i'r Nef.
12
Yna y dychwelasant i Jerusalem o Fynydd a elwir yr Olew‐wydd, yr hwn sydd yn agos i Jerusalem, taith diwrnod Sabbath.
13
A phan ddaethant i mewn, hwy a aethant i fyny i'r Oruwch‐ystafell, lle yr oeddent yn aros; Petr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Matthew, Iago mab Alpheus, a Simon y Zelotiad, a Judas mab Iago.
14
Y rhai hyn oll oedd yn dyfal‐barhau yn unfryd mewn gweddi, gyda rhai gwragedd, a Mair, mam yr Iesu, a chyda'i frodyr ef.
15
Ac yn y dyddiau hyny Petr a gyfododd i fyny yn nghanol y brodyr, ac a ddywedodd, (ac yr oedd lliaws o bersonau yn yr un lle, ynghylch cant ac ugain),
16
O Frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr ysgrythyr a rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Judas, yr hwn a aeth yn arweinydd i'r rhai a ddaliasant yr Iesu.
17
Canys cyfrifwyd ef yn ein plith ni, a derbyniodd ei ran o'r weinidogaeth hon.
18
(Hwn yn wir ddaeth i feddiant o faes trwy wobr ei anwiredd; ac wedi syrthio yn wysg ei ben, a ymholltodd yn ei ganol, a'i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan.
19
Ac aeth hyn yn hyspys i bawb oedd yn preswylio yn Jerusalem; yn gymaint ag y gelwid y maes hwnw yn eu hiaith eu hunain, Acheldamach, hyny yw, Maes y Gwaed.)
20
Canys y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y Salmau, Aed ei drigfan yn anghyfanedd, Ac na fydded a breswylio ynddi; Ac hefyd, Cymered arall ei oruchwyliaeth
21
O'r gwyr gan hyny a fu yn cydymdaith â ni drwy yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan o'n blaen,
22
gan ddechreu o Fedydd Ioan hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny oddiwrthym — y mae yn rhaid i un o'r rhai hyn i fod gyda ni yn dyst o'i Adgyfodiad.
23
A hwy a osodasant ddau ger bron, Joseph yr hwn a elwid Barsabbas, yr hwn a gyfenwid Justus, a Matthias.
24
A chan weddïo hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, adnabyddwr calonau pawb, dangos o'r ddau hyn yr hwn a ddewisaist
25
i gymeryd y lle yn y weinidogaeth a'r Apostolaeth hon, o'r hon y syrthiodd Judas ymaith i fyned i'w le ei hun.
26
A hwy a fwriasant goelbrenau drostynt, a syrthiodd y coelbren ar Matthias, ac efe a gyfrifwyd gyda'r un Apostol ar ddeg.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28