bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 24
Acts 24
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
Ac ar ol pum niwrnod, yr Arch‐offeiriad Ananias a ddaeth i waered, gyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertullus, y rhai a achwynasant wrth y Rhaglaw yn erbyn Paul.
2
A phan alwyd ef, Tertullus a ddechreuodd ei gyhuddo, gan ddywedyd,
3
Gan fod i ni lawer o heddwch trwot ti, a bod gwelliantau i'r genedl hon trwy dy rag‐ddarbodaeth di yn mhob modd ac yn mhob man, — yr ydym ni yn eu derbyn, O Ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch.
4
Eithr, fel na rwystrwyf di yn mhellach, yr wyf yn deisyf arnat, o'th hynawsedd, ein gwrando ni ar fyr eiriau.
5
Oblegyd ni a gawsom y gwr hwn yn bla, ac yn codi terfysgau yn mhlith yr holl Iuddewon trwy y byd cyfaneddol, ac yn flaenor sect y Nazareaid:
6
yr hwn a geisiodd halogi y Deml, yr hwn hefyd a ddaliasom;
8
gan yr hwn y byddi alluog, a thydi yn ei holi, i wybod am yr holl bethau hyn, o'r rhai yr ydym ni yn ei gyhuddo ef.
9
A'r Iuddewon hefyd a gyd‐ymosodasant, gan daeru fod y pethau hyn felly.
10
A Phaul a atebodd, wedi i'r Rhaglaw amneidio arno i lefaru, Gan i mi wybod dy fod yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr wyf yn siriol yn gwneyd fy ymddiffyniad,
11
a thi yn gallu gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod er pan aethum i fyny i addoli yn Jerusalem:
12
ac ni chawsant fi yn y Deml yn ymddadleu a neb, neu yn gwneyd terfysg mewn tyrfa, nac yn y Synagogau, nac yn y Ddinas.
13
Ac ni allant ychwaith brofi i ti y pethau y maent yn awr yn fy nghyhuddo o honynt.
14
Ond hyn yr wyf yn ei addef i ti, mai yn ol y Ffordd a alwant hwy yn Sect, felly yr wyf fi yn gwasanaethu Duw ein Tadau, gan gredu yr holl bethau sydd yn ol y Ddeddf a'r pethau sydd yn ysgrifenedig yn y Prophwydi:
15
a chenyf obaith tu ag at Dduw, yr hwn obaith y mae y rhai hyn eu hunain yn ei ddisgwyl, fod Adgyfodiad i fod o'r cyfiawnion a'r anghyfiawnion.
16
Ac yn hyn hefyd yr wyf fy hun yn gwneyd ymdrech i gael cydwybod ddidramgwydd tu ag at Dduw a dynion yn wastadol.
17
Ac ar ol amryw o flynyddoedd mi a gyrhaeddais i gyfranu elusenau i'm cenedl ac offrymau:
18
ac yn nghanol y gorchwylion hyn hwy a'm cawsant i, wedi fy nghlanhâu, yn y Deml, nid gyda thwrf nac ychwaith gyda therfysg:
19
ond rhai Iuddewon o Asia a'm cawsant, y rhai a ddylasent fod yn bresenol ger dy fron a gwneyd cyhuddiad, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn.
20
Neu bydded i'r rhai hyn ei hunain ddywedyd pa gamwedd a gawsant tra y sefais o flaen y Sanhedrin,
21
oddieithr yr un llef hon, yr hon a waeddais pan yn sefyll yn eu plith, Am Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i heddyw ger eich bron.
22
Eithr Ffelix a ohiriodd eu hachos, gan wybod yn gywirach y pethau ynghylch y Ffordd, gan ddywedyd, Pan ddel Lysias y Milwriad i waered, mi a benderfynaf eich materion.
23
Ac wedi gorchymyn i'r Canwriad ar iddo gael ei gadw yn rhwym, a chael esmwythyd; ac na waharddai i neb o'i gyfeillion i weini arno.
24
Ac ar ol rhai dyddiau, daeth Ffelix, gyda'i wraig Drusilla, yr hon oedd Iuddewes, ac a ddanfonodd am Paul, a gwrandawodd arno ynghylch y ffydd sydd yn Nghrist Iesu.
25
Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, diweirdeb, a'r Farn ddyfodol, Ffelix, wedi myned yn ddychrynedig, a atebodd, Am y presenol, dos ymaith; a phan y caffwyf amser cyfaddas mi a'th alwaf di ataf:
26
ar yr un pryd yr oedd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd efe a anfonodd am dano yn fynychach, ac a ymddyddanodd ag ef.
27
Ond wedi cyflawnu yspaid o ddwy flynedd, Ffelix a gafodd olynydd, Porcius Ffestus, ac yn ewyllysio enill ffafr gyda'r Iuddewon, Ffelix a adawodd Paul yn rhwym.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28