bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 3
Acts 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
1
A Phetr ac Ioan oeddynt yn myned i fyny i'r Deml ar yr Awr Weddi, y nawfed.
2
A rhyw wr yr hwn oedd gloff o groth ei fam oedd yn cael ei ddwyn, yr hwn a arferent osod bob dydd wrth Borth y Deml, yr hwn a gyfenwid, Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai oeddynt yn myned i mewn i'r Deml;
3
yr hwn, pan welodd Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r Deml, a ofynodd gael elusen.
4
A Phetr gan edrych yn graff arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni.
5
Ac efe a ddaliodd arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.
6
A dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes i mi, eithr yr hyn sydd genyf, hyn yr wyf yn ei roddi i ti: yn enw Iesu Grist y Nazaread, rhodia.
7
Ac wedi cymeryd gafael ynddo gerfydd ei ddeheulaw, efe a'i cyfododd: ac yn y man ei draed ef a'i fferau a gryfhawyd.
8
A chan neidio i fyny, efe a safodd ac a rodiodd o ddeutu; ac a aeth gyda hwynt i'r Deml, yn rhodio o ddeutu, a neidio, a moli Duw.
9
A'r holl bobl a'i gwelsant ef yn rhodio o ddeutu ac yn moli Duw:
10
ac yr oeddent hwy yn ei adnabod ef, mai efe oedd yr hwn oedd yn eistedd am elusen wrth y Prydferth, Porth y Deml; a hwy a lanwyd â syfrdandod a syndod am yr hyn oedd wedi dygwydd iddo.
11
Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, yr holl bobl a gyd‐redasant atynt i'r Cyntedd a elwir Cyntedd Solomon, wedi eu syfrdanu.
12
A Phetr yn gweled hyn, a atebodd i'r bobl, O wyr o Israeliaid, paham y rhyfeddwch at y dyn hwn? neu paham yr edrychwch yn graff arnom ni, fel pe trwy ein gallu neu ein duwioldeb ein hunain yr ydym wedi gwneyd i hwn i rodio?
13
Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein Tadau, a ogoneddodd ei Was Iesu, yr hwn yn wir a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch i wyneb Pilat, ac efe wedi barnu ei ollwng yn rhydd.
14
Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfiasoch roddi i chwi wr oedd lofrudd,
15
ac Awdwr y Bywyd a laddasoch; yr hwn a gyfododd Duw o feirw; o'r hyn yr ydym ni yn dystion.
16
Ac ar sail y ffydd yn ei Enw ef y gwnaeth ei Enw y dyn yma yn gryf, yr hwn yr ydych yn ei weled ac yn ei adnabod: a'r ffydd sydd trwyddo ef a roddodd iddo yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll.
17
Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai yn ol eich anwybodaeth y gweithredasoch, yr un modd hefyd eich penaethiaid.
18
Eithr y pethau a rag‐fynegodd Duw trwy enau ei holl brophwydi, y dyoddefai ei Grist ef, a gyflawnodd efe fel hyn.
19
Edifarhewch gan hyny a thröwch, fel y dilëer eich pechodau, fel y delo y tymhorau o adloniant o wyneb yr Arglwydd;
20
ac yr anfono efe y Crist, yr hwn sydd wedi ei benodi i chwi, sef Iesu:
21
yr hwn sydd raid i'r Nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau y llefarodd Duw am danynt trwy enau ei brophwydi sanctaidd erioed.
22
Canys Moses a ddywedodd, Yr Arglwydd Dduw a gyfyd i chwi brophwyd o blith eich brodyr, fel myfi; arno ef y gwrandewch yn yr holl bethau a lefaro wrthych.
23
A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr‐ddyfethir o blith y bobl.
24
Ac hefyd yr holl brophwydi o Samuel a'r rhai dylynol, cynifer ag a lefarasant a fynegasant hefyd am y dyddiau hyn.
25
Chwychwi ydych feibion y prophwydi, ac o'r Cyfamod a wnaeth Duw a'ch Tadau, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl deuluoedd y ddaear.
26
I chwi yn gyntaf Duw, wedi iddo gyfodi ei Was, a'i hanfonodd ef i'ch bendithio chwi, mewn troi pob un o honoch oddiwrth eich anwireddau.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28