bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 16
Acts 16
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
1
Ac efe a gyrhaeddodd i Derbe a Lystra, ac wele, yr oedd rhyw ddysgybl yno, o'r enw Timotheus, mab i wraig Iuddewig grediniol, ond i dâd o Roegwr,
2
i'r hwn y tystiolaethid gan y brodyr yn Lystra ac Iconium.
3
Paul a ewyllysiai hwn i fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerodd ac a'i henwaedodd ef o achos yr Iuddewon y rhai oedd yn y lleoedd hyny, canys yr oeddent oll yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad ef.
4
Ac fel yr ymdeithient trwy y dinasoedd, traddodent iddynt y gorchymynion i'w cadw, ar y rhai y penderfynwyd gan yr Apostolion a'r Henuriaid y rhai oedd yn Jerusalem.
5
Gan hyny yn wir yr eglwysi a gadarnhawyd yn y Ffydd, ac a amlhasant mewn rhifedi yn ddyddiol.
6
A hwy a dramwyasant trwy Phrygia a gwlad Galatia, wedi iddynt gael eu rhwystro gan yr Yspryd Glân i lefaru y Gair yn Asia;
7
a phan ddaethant gyferbyn a Mysia, hwy a gynygiasant fyned i Bithynia, ond ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt.
8
Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Troas.
9
A gweledigaeth yn ystod y nos a ymddangosodd i Paul: Rhyw wr o Macedonia oedd yn sefyll, ac yn deisyfu arno ac yn dywedyd, Tyred trosodd i Macedonia, a chymhorth ni.
10
A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Macedonia, gan gasglu yn sicr alw o Dduw nyni i efengylu iddynt hwy.
11
Wedi hwylio gan hyny o Troas, ni a redasom yn syth i Samothracia, a thranoeth i Neapolis;
12
ac oddiyno i Philippi, dinas o Macedonia, y gyntaf o'r rhan‐barth, ac yn drefedigaeth: ac ni a fuom yn y ddinas hon yn treulio rhai dyddiau.
13
Ac ar y Dydd Sabbath ni a aethom tu allan i'r porth, at lan afon, lle y tybiem yr oedd Lle Gweddi; ac wedi eistedd ni a lefarasom wrth y gwragedd oedd wedi dyfod ynghyd.
14
A rhyw wraig o'r enw Lydia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thyatira, un yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal sylw ar y pethau a leferid gan Paul.
15
A phan fedyddiwyd hi a'i thy, hi a ddeisyfodd, gan ddywedyd, Os ydych wedi barnu fy mod i yn gredadyn yn yr Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac aroswch. A hi a'n cymhellodd yn daer.
16
A bu, fel yr oeddem yn myned i'r Lle Gweddi, i ryw lances, a chanddi yspryd dewiniaeth, gyfarfod a ni; yr hon a ddygai elw mawr i'w meistriaid trwy ddewinio.
17
Hon, gan ddylyn Paul a ninau, a lefodd allan, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw Goruchaf, y rhai sydd yn mynegu i chwi ffordd Iachawdwriaeth.
18
A hyn hi a wnaeth dros ddyddiau lawer. Ond Paul, wedi ei flino allan, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr yspryd, Yr wyf yn gorchymyn i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi. Ac efe a ddaeth allan yr awr hono.
19
A'i meistriaid hi yn gweled fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u llusgasant i'r farchnadfa o flaen penaethiaid;
20
a phan ddygasant hwynt at y llywodraethwyr milwrol, hwy a ddywedasant, Y dynion hyn sydd yn llwyr‐gythryblu ein dinas, a hwy yn Iuddewon,
21
a chyhoeddasant ddefodau, y rhai nid yw gyfreithlon i ni eu derbyn a'u gwneuthur, a ni yn Rufeinwyr.
22
A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn: a'r llywodraethwyr milwrol, gan rwygo eu dillad hwynt, a orchymynasant eu curo hwy â gwiâil.
23
Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialenodiau hwy a'u bwriasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddyogel:
24
yr hwn wedi derbyn y fath orchymyn, a'u bwriodd i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed yn sicr yn y cyffion.
25
A thua haner nos, Paul a Silas pan yn gweddio a ganent hymnau i Dduw, a'r carcharorion oeddent yn gwrando arnynt;
26
ac yn ddisymwth, y bu daear‐gryn mawr, fel y siglwyd sylfaeni y carchardy, ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a ryddhawyd.
27
A cheidwad y carchar wedi deffro o gwsg, a gweled drysau y carchar wedi eu hagoryd, wedi tynu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied fod y carcharorion wedi ffoi.
28
Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni oll yma.
29
Ac wedi galw am oleu, efe a neidiodd i mewn, a than grynu efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,
30
ac a'u harweiniodd hwynt y tu allan, ac a ddywedodd, O Feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig?
31
A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu, a chadwedig fyddi di a'th dŷ.
32
A hwy a lefarasant wrtho Air yr Arglwydd, ynghyd a phawb oedd yn ei dŷ.
33
Ac efe a'u cymerodd hwy gydag ef yr awr hono o'r nos, ac a olchodd eu briwiau hwynt; ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn ebrwydd.
34
Hefyd, efe a'u harweiniodd hwy i fyny i'w dŷ, ac a osododd fwyd ger eu bron, ac a orfoleddodd gyda'i holl dŷ, gan eu bod wedi credu yn Nuw.
35
A'r dydd wedi dyfod, y llywodraethwyr milwrol a anfonasant y rhingyllwyr, gan ddywedyd, Gollwng yn rhyddion y dynion hyn.
36
A Cheidwad y Carchar a fynegodd y geiriau wrth Paul, Danfonodd y Llywodraethwyr milwrol am eich gollwng yn rhyddion: yn awr gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch.
37
Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Y maent wedi ein fflangellu yn gyhoeddus, heb ein heuog‐farnu, a ninau yn Rufeinwyr, a bwriasant ni i garchar; ac yn awr, a ydynt yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond bydded iddynt ddyfod eu hunain, a'n dwyn ni allan.
38
A'r rhingyllwyr a fynegasant i'r Llywodraethwyr milwrol y geiriau hyn, a hwy a ofnasant pan glywsant, Rhufeinwyr ydynt;
39
a hwy a ddaethant ac a ddeisyfasant arnynt; ac wedi eu harwain allan, gofynasant iddynt fyned ymaith o'r ddinas.
40
Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia; ac wedi iddynt weled y brodyr, hwy a'u calonogasant, ac a aethant allan.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28