bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 8
Acts 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
1
A Saul oedd yn cydsynio i'w ladd ef. A bu y dydd hwnw erlid mawr ar yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Judea a Samaria, oddi gerth yr Apostolion.
2
A gwyr duwiol‐frydig a hebryngasant Stephan i'w fedd, ac a wnaethant alar mawr am dano ef.
3
Eithr Saul oedd yn anrheithio yr Eglwys, gan fyned i mewn i bob ty, a chan lusgo allan wyr a gwragedd, efe a'u traddododd i garchar.
4
Y rhai a wasgarwyd, gan hyny, a dramwyasant, gan bregethu y Gair.
5
A Philip a aeth i waered i Ddinas Samaria, ac a bregethodd iddynt y Crist.
6
A'r tyrfaoedd yn unfryd a dalasant sylw i'r pethau a ddywedid gan Philip, pan yn clywed a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur.
7
Canys llawer o'r rhai a berchenogid gan ysprydion aflan (y rhai gan waeddu â llef uchel, a ddaethant allan), a llawer o'r rhai oedd wedi eu parlysu, ac o'r cloffion, a iachawyd.
8
Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas hono.
9
Eithr rhyw wr o'r enw Simon oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn synu pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhyw Un Mawr;
10
i'r hwn yr oedd pawb, o fychan hyd fawr, yn talu sylw, gan ddywedyd, Hwn yw Gallu Duw yr hwn a elwir Mawr.
11
A hwy a dalasant sylw iddo, o herwydd ei fod am gryn amser wedi eu synu hwy â'i swynion:
12
ond pan gredasant Philip yn pregethu ynghylch Teyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd yn wyr ac yn wragedd.
13
A Simon, yntau hefyd a gredodd, ac, wedi ei fedyddio a ddyfalbarhaodd gyda Philip: ac wrth weled yr arwyddion a'r galluoedd mawrion a wnelid, efe a synodd.
14
A phan glybu yr Apostolion oedd yn Jerusalem fod Samaria wedi derbyn Gair Duw, hwy a anfonasant atynt Petr ac Ioan:
15
y cyfryw rai, wedi dyfod i waered, a weddiasant drostynt, fel y derbynient yr Yspryd Glân:
16
canys hyd yn hyn nid oedd wedi syrthio ar neb o honynt, ond yn unig yr oeddent wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu.
17
Yna hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Yspryd Glân.
18
A Simon, yn gweled mai trwy osodiad dwylaw yr Apostolion y rhoddid yr Yspryd Glân, a ddygodd arian iddynt,
19
gan ddywedyd, Rhoddwch i minau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynag y gosodwyf ddwylaw, y derbynio yr Yspryd Glân.
20
Eithr Petr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thydi i ddystryw, am i ti dybied y meddienid Rhodd Duw trwy arian.
21
Nid oes i ti na rhan nac etifeddiaeth yn y mater hwn: canys nid yw dy galon yn uniawn gyda Duw.
22
Edifarhâ gan hyny am dy ddrygioni hwn, a deisyf ar yr Arglwydd, os o bosibl, y maddeuir i ti feddyl‐fryd dy galon.
23
Canys yr wyf yn gweled dy fod yn mustl chwerwder ac yn rhwymyn anghyfiawnder.
24
A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Deisyfwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddel dim arnaf o'r pethau yr ydych wedi eu dywedyd.
25
Hwythau yn wir gan hyny, wedi iddynt dystiolaethu a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Jerusalem, ac a bregethasant i lawer o bentrefi y Samariaid.
26
Ond angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua'r Deheu i'r ffordd sydd yn myned i waered o Jerusalem i Gaza: yr hon sydd anial.
27
Ac efe a gyfododd ac a aeth: ac wele gwr o Ethiop, Eunuch, swyddog uchel i Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, oedd wedi dyfod i addoli i Jerusalem;
28
ac yr oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen yn hyglyw y Prophwyd Esaiah.
29
A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, Dos at a glyn wrth y cerbyd hwn.
30
A Philip a redodd ato, ac a'i clywodd ef yn darllen Esaiah y Prophwyd, ac a ddywedodd, A wyt ti o gwbl yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?
31
Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddi eithr i rywun fy nghyfarwyddo i? ac efe a wahoddodd Philip i fyned i fyny ac eistedd gydag ef.
32
A'r adran o'r Ysgrythyr yr oedd yn ei darllen oedd hon: Fel dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef; Ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, Felly nid yw yn agor ei enau:
33
Yn ei Ddarostyngiad ei farn a dynwyd ymaith: Pwy a ddesgrifia ei genedlaeth ef? Canys dygir ymaith oddiar y ddaear ei fywyd ef.
34
A'r Eunuch a atebodd Philip ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae y Prophwyd yn dywedyd hyn? am dano ei hun, neu am ryw un arall?
35
A Philip a agorodd ei enau, a chan ddechreu o'r Ysgrythyr hon, efe a bregethodd iddo yr Iesu.
36
Ac fel yr oeddent yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr; a'r Eunuch a ddywed, Wele ddwfr, beth sydd yn lluddias fy medyddio?
38
Ac efe a orchymynodd sefyll o'r cerbyd a hwy a aethant i waered ill dâu i'r dwfr, Philip a'r Eunuch, ac efe a'i bedyddiodd ef.
39
A phan ddaethant i fyny allan o'r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr Eunuch ef mwyach, canys efe a aeth ei ffordd gan lawenychu.
40
A Philip a gaed yn Azotus; a chan fyned trwodd, efe a bregethodd yr Efengyl i'r holl ddinasoedd hyd nes dyfod i Cesarea.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28