bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 19
Acts 19
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
A dygwyddodd, tra yr oedd Apollos yn Corinth, wedi i Paul dramwy trwy y parthau uchaf, ddyfod o hono i Ephesus, a chael rhyw ddysgyblion;
2
ac efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Yspryd Glân pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Na, ni chawsom ni gymaint a chlywed a oes Yspryd Glân.
3
Ac efe a ddywedodd, I ba beth gan hyny y'ch bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan.
4
A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd a bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, hyny yw, yn yr Iesu
5
A phan glywsant hyn, hwy a fedyddiwyd i enw yr Arglwydd Iesu.
6
A Phaul yn gosod dwylaw arnynt, daeth yr Yspryd Glân arnynt, a llefarasant a thafodau, ac a broffwydasant.
7
Ac yr oeddent oll tua deuddeg gwr.
8
Ac efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a lefarodd yn hyf am dri mis, gan ymresymu a pherswadio ynghylch Teyrnas Dduw.
9
A phan yr oedd rhai wedi ymgaledu ac yn anufydd, gan ddywedyd yn ddrwg am Y Ffordd gerbron y lluaws, efe a ymadawodd oddiwrthynt, ac a wahanodd y dysgyblion, gan ymresymu yn ddyddiol yn Ysgol Tyrannus.
10
A bu hyn am ddwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb oedd yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iuddewon a Groegiaid hefyd.
11
A Duw a wnaeth weithredoedd nerthol anarferol trwy ddwylaw Paul:
12
hyd oni ddygid ymaith at y cleifion oddiwrth ei gorph napcynau neu arffedogau, ac yr ymadawai y clefydau â hwynt, a'r ysprydion drwg a aent allan.
13
A rhai hefyd o'r Iuddewon crwydrol, consurwyr, a ymgymerasant ag enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr wyf yn eich tynghedu trwy yr Iesu yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.
14
Ac yr oedd saith mab rhyw Scefa, Iuddew, Arch‐offeiriad, yn gwneuthur hyn.
15
A'r yspryd drwg a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaenwyf, eithr pwy ydych chwi?
16
A'r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a neidiodd arnynt, a feistrolodd y ddau, ac a orthrechodd yn eu herbyn, fel y ffoisant hwy allan o'r tŷ hwnw yn noethion ac yn archolledig.
17
A hyn a aeth yn hyspys i bawb, Iuddewon a Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.
18
A llawer o'r rhai oedd wedi credu a ddaethant gan gyffesu a dadgan eu gweithredoedd.
19
Ac amryw o'r rhai a arferasant swyn‐ddewiniaeth a gasglasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u llosgasant yn ulw yn ngwydd pawb: a hwy a gyfrifasant eu pris hwynt, ac a'i cawsant yn ddeng mil a deugain o ddarnau arian.
20
Mor rymus y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd!
21
A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr yspryd, wedi iddo dramwy trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Jerusalem, gan ddywedyd, Wedi i mi fod yno, rhaid i mi weled Rhufain hefyd.
22
Ac wedi anfon i Macedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, Timothëus ac Erastus, efe ei hun a ddaliodd yn mlaen beth amser yn Asia.
23
A dygwyddodd yn y tymhor hwnw gynhwrf nid bychan ynghylch y Ffordd;
24
canys rhyw Ddemetrius wrth ei enw, gôf arian, yn gwneuthur cysegrau arian o Diana, a roddai i'r crefftwyr waith nid ychydig;
25
y rhai a gynullodd efe ynghyd a'r rhai oeddent weithwyr y cyfryw bethau, ac a ddywedodd, O wyr, chwi a wyddoch mai allan o'r gwaith hwn y mae i ni lwyddiant;
26
a chwi a welwch ac a glywch, nid yn unig yn Ephesus, eithr bron drwy holl Asia, i'r Paul hwn ddarbwyllo a gŵyr‐droi lluaws mawr, gan ddywedyd nad ydyw y rhai a wneir â dwylaw yn dduwiau.
27
Ac nid yn unig y mae perygl fod hon, sef ein trafnidiaeth ni, yn myned yn wrthodedig, ond hefyd fod Teml y dduwies fawr Diana i gael ei chyfrif yn ddyddim, a bod hithau ar gael ei thynu i lawr o'i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a'r byd trigianol yn ei haddoli.
28
A phan glywsant, a myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid!
29
A'r ddinas a lanwyd â'r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i'r chwareu‐dy, wedi cipio gyda hwynt Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cyd‐ymdeithion Paul.
30
A Phaul yn ewyllysio myned i mewn at y bobl, ni adawodd y dysgyblion iddo.
31
A rhai hefyd o'r Asiarchiaid, y rhai oeddent gyfeillion iddo, gan anfon ato a ddeisyfent arno nad anturiai, fyned i'r chwareu‐dŷ.
32
Rhai gan hyny a waeddent un peth ac eraill beth arall, canys yr oedd y gynulleidfa wedi ei therfysgu, a'r mwyrif ni wyddent paham y daethent ynghyd.
33
Eithr hwy a gymhellasant yn mlaen Alexander o'r dyrfa, yr Iuddewon yn ei wthio ef yn mlaen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law, ac a fynasai wneuthur ymddiffyniad wrth y bobl.
34
Eithr pan wybuant mai Iuddew oedd efe, daeth un lef oddiwrth bawb, y rhai a waeddasent megys am ddwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.
35
Ac wedi i'r Cofiadur lonyddu y dyrfa, dywed, O wyr Ephesus, canys pwy un yn mhlith dynion sydd na ŵyr fod Dinas yr Ephesiaid yn geidwad Diana Fawr a'r ddelw, a syrthiodd o'r Nef.
36
Gan fod y pethau hyn gan hyny yn anwadadwy, chwi a ddylech fod yn dawel o'r dechreu, a pheidio gwneuthur dim yn fyrbwyll.
37
Canys dygasoch yma y gwyr hyn, y rhai nid ydynt nac yn yspeilwyr temlau nac yn gablwyr ein duwies ni.
38
Os oes gan hyny gan Demetrius a'r crefftwyr sydd gydag ef unrhyw fater yn erbyn neb, cynhelir brawd-lysoedd, ac y mae rhaglawiaid: bydded iddynt ddwyn achwyniad yn erbyn eu gilydd.
39
Ond os ceisiwch unrhyw beth yn mhellach, yn y Gynulleidfa gyfreithlon y penderfynir hyny.
40
Canys hyd yn nod yr ydym mewn perygl o gael ein cyhuddo o derfysg am y dydd heddyw, heb ddim achos o'r dechreu, am yr hwn ni fyddwn alluog i roddi rheswm, sef am yr ymgyrch hwn.
41
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gollyngodd ymaith y Gynulleidfa.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28