bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 14
Acts 14
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
1
A dygwyddodd yn Iconium iddynt fyned yr un pryd i Synagog yr Iuddewon, a llefaru yn y fath fodd fel y credodd lliaws mawr o'r Iuddewon ac o'r Groegiaid.
2
Ond yr Iuddewon nad ufyddasant a gyffroisant ac a gynhyrfasant i ddrwg eneidiau y Cenhedloedd yn erbyn y Brodyr.
3
Am hyny, yn wir, hwy a dreuliasant yno amser hir, gan lefaru yn hyf yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn tystiolaethu i Air ei Ras, gan genhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylaw hwynt.
4
A rhanwyd lliaws y ddinas; a rhai oedd gyda yr Iuddewon, a rhai oedd gyda yr Apostolion.
5
A phan wnaethpwyd rhuthr o'r Cenhedloedd ac o'r Iuddewon ynghyd a'u llywodraethwyr i'w sarhau a'u llabyddio,
6
a hwy yn ymwybodol o hyn, ffoisant i ddinasoedd Lycaonia, sef Lystra a Derbe, a'r wlad oddi amgylch:
7
ac yno y buont yn efengylu.
8
A rhyw wr yn Lystra, yn ddiffrwyth ei draed, a eisteddai, yn gloff o groth ei fam, yr hwn ni cherddodd erioed.
9
Hwn a glywodd Paul yn llefaru: yr hwn, gan edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i'w iachau,
10
a ddywedodd a llais uchel, Saf i fyny ar dy draed yn syth. Ac efe a neidiodd i fyny ac a ddechreuodd rodio.
11
A'r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu llais, yn iaith Lycaonia, gan ddywedyd, Y mae y duwiau yn nghyffelybiaeth dynion wedi disgyn atom ni.
12
A galwasant Barnabas Jupiter, a Paul Mercurius, gan mai efe oedd yr arweinydd mewn ymadrodd.
13
Ac offeiriad Jupiter, teml yr hwn oedd o flaen y ddinas, a ddyg deirw a dail‐blethau hyd at y pyrth, ac a fynasai gyda'r torfeydd aberthu.
14
Ond yr Apostolion, Barnabas a Paul, pan glywsant, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant allan i blith y dyrfa, gan waeddi a dywedyd,
15
O wyr, paham y gwnewch y pethau hyn? ninau hefyd ydym o gyffelyb naturiaeth a chwithau, yn ddynion, gan bregethu ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion hyn at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nefoedd a'r ddaear a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:
16
yr hwn yn y cenhedlaethau a aethant heibio a oddefodd i'r holl Genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.
17
Er hyny, ni adawodd efe ei hun yn ddidyst, gan wneuthur daioni, gan roddi i chwi wlawogydd a thymhorau ffrwythlawn, gan lenwi eich calonau â lluniaeth a llawenydd.
18
A chan ddywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y torfeydd rhag aberthu iddynt.
19
Ond daeth Iuddewon o Antioch ac Iconium; ac wedi darbwyllo y torfeydd a llabyddio Paul, hwy a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.
20
A'r dysgyblion yn ei amgylchynu, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thranoeth efe a aeth allan gyda Barnabas i Derbe.
21
A chan efengylu i'r ddinas hono, a gwneuthur dysgyblion lawer, dychwelasant i Lystra ac i Iconium ac i Antioch,
22
gan gadarnhau eneidiau y dysgyblion, gan eu cynghori i aros yn y ffydd, a dywedyd, Trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i mewn i Deyrnas Dduw.
23
Ac wedi penodi iddynt henuriaid yn mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghyd ag ymprydiau, hwy a'u cyflwynasant hwy i'r Arglwydd yn yr hwn yr oeddent wedi credu.
24
A hwy a dramwyasant trwy Pisidia, ac a ddaethant i Pamphylia.
25
Ac wedi llefaru y Gair yn Perga hwy a aethant i waered i Attalia.
26
Ac oddiyno hwy a fordwyasant i Antioch, o'r lle yr oeddent wedi eu cymeradwyo i ras Duw ar gyfer y gwaith a gyflawnasant.
27
Ac wedi iddynt gyrhaedd, a chasglu yr Eglwys ynghyd, hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.
28
A hwy a dreuliasant amser nid ychydig gyda'r dysgyblion.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28