bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 9
Acts 9
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
1
A Saul eto yn chwythu bwgwth a lladdfa i Ddysgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr Arch‐offeiriad,
2
ac a geisiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y Synagogau, fel, os caffai rai oedd o'r Ffordd, yn wyr a gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Jerusalem.
3
Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, darfu iddo neshau i Damascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r Nef:
4
ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glywodd lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?
5
A dywedodd, Pwy wyt, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid,
6
A chyfod, dos i'r Ddinas, a dywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.
7
Ond y gwyr oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais yn wir, ond heb weled neb.
8
A Saul a gyfododd oddiar y ddaear; ac wedi agoryd o'i lygaid ef, ni welai ddim; a chan ei arwain gerfydd ei law, hwy a'i dygasant i mewn i Damascus.
9
Ac yr oedd efe dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.
10
Ac yr oedd rhyw ddysgybl yn Damascus o'r enw Ananias; a dywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, Ananias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd.
11
A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Cyfod, a dos i'r heol a elwir Uniawn, ac ymofyn yn nhy Judas am un o'r enw Saul, o Tarsus: canys wele, y mae yn gweddio;
12
a gwelodd mewn gweledigaeth wr o'r enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei ddwylaw arno, fel y gwelai drachefn.
13
Ond Ananias a atebodd, Arglwydd, clywais gan lawer am y gwr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th saint di yn Jerusalem:
14
ac yma y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr Arch‐offeiriaid i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di.
15
Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, canys llestr etholedig i mi yw hwn, i ddal i fyny fy enw o flaen cenhedloedd, a brenhinoedd, a meibion Israel.
16
Canys myfi a ddangosaf iddo faint o bethau y mae yn rhaid iddo eu dyoddef er mwyn fy enw.
17
Ac Ananias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r ty, a chan ddodi ei ddwylaw arno, a ddywedodd, Frawd Saul, y mae yr Arglwydd wedi fy anfon i, sef Iesu, yr hwn a ymddangosodd i ti yn y ffordd y daethost, fel y gweli drachefn, ac y'th lanwer â'r Yspryd Glân.
18
Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef megys cèn, ac efe a welodd drachefn; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd;
19
ac wedi iddo gymeryd bwyd efe a gryfhaodd. Ac efe a fu gyda'r Dysgyblion oedd yn Damascus rai dyddiau.
20
Ac yn ebrwydd yn y Synagogau efe a ddechreuodd bregethu Iesu, mai efe yw Mab Duw?
21
A phawb a glybu a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn oedd yr un a anrheithiodd yn Jerusalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac yr oedd wedi dyfod yma i'r dyben hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym o flaen yr Arch‐offeiriaid?
22
Eithr Saul a gynyddai fwy‐fwy o nerth, ac a ddyrysai yr Iuddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan brofi mai hwn yw y Crist.
23
Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cyd‐ymgynghorodd yr Iuddewon i'w ladd ef:
24
eithr eu brad a wybuwyd gan Saul. A hwy hefyd a wyliasant y pyrth ddydd a nos,, fel y lladdent ef:
25
eithr ei Ddysgyblion a'i cymerasant ef o hyd nos, ac a'i gollyngasant i waered drwy y mur, gan ei ostwng mewn basged.
26
Ac wedi dyfod i Jerusalem, efe a geisiodd lynu wrth y Dysgyblion: ond yr oeddynt oll yn ei ofni ef, gan na chredent ei fod yn ddysgybl.
27
Eithr Barnabas a'i cymerodd, ac a'i dyg at yr Apostolion, ac a adroddodd iddynt pa fodd yn y ffordd y gwelodd yr Arglwydd, ac y llefarodd efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y pregethodd yn hyf yn enw yr Iesu.
28
Ac yr oedd efe gyda hwynt yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerusalem,
29
gan bregethu yn hyf yn enw yr Arglwydd: ac efe a lefarai ac a ymddadleuai yn erbyn yr Iuddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef.
30
A'r brodyr, pan wybuant, a'i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a'i hanfonasant ef ymaith i Tarsus.
31
Gan hyny, yn wir, yr Eglwys trwy holl Judea, a Galilea, a Samaria, a gafodd heddwch, gan gael ei hadeiladu; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn nyddanwch yr Yspryd Glân, hi a amlhawyd.
32
A bu i Petr, pan yn tramwy trwy yr holl barthau, ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn preswylio yn Lydda.
33
Ac efe a gafodd yno ryw ddyn o'r enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar ei wely, yr hwn oedd wedi ei barlysu.
34
A Phetr a ddywedodd wrtho, Aeneas, Y mae Iesu Grist yn dy iachâu di: Cyfod, a thaena dy wely. Ac yn ebrwydd efe a gyfododd.
35
A phawb ag oedd yn preswylio yn Lydda ac yn Saron a'i gwelsant ef, ac a droisant at yr Arglwydd.
36
Ac yn Joppa yr oedd rhyw ddysgybles o'r enw Tabitha, ystyr yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Dorcas: hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac o elusenau, y rhai a wnelai.
37
A bu yn y dyddiau hyny iddi glafychu a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn goruwch‐ystafell.
38
A chan fod Lydda yn agos i Joppa, y dysgyblion, wedi clywed fod Petr yno, a anfonasant ddau wr ato, gan ddeisyf: Na fydded i ti oedi dyfod trosodd atom.
39
A Phetr a gyfododd ac a aeth gyda hwynt. Hwy, wedi iddo gyrhaedd, a'i harweiniasant ef i'r Oruwch‐ystafell; a'r holl wragêdd‐gweddwon a safasant yn ei ymyl yn wylo, ac yn arddangos yr is‐wisgoedd a'r uch-wisgoedd, cynifer ag a wnaethai Dorcas, tra yr oedd hi gyda hwynt.
40
Eithr Petr, wedi eu bwrw hwynt oll allan, a myned ar ei liniau, a weddïodd; a chan droi at y corph, a ddywedodd, Tabitha, Cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd Petr, hi a eisteddodd i fyny.
41
Ac efe a roddodd iddi ei law, ac a'i cyfododd i fyny; a chan alw y saint a'r gwragedd‐gweddwon, efe a'i cyflwynodd hi ger bron yn fyw.
42
Ac aeth hyn yn hyspys trwy holl Joppa, a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.
43
A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Joppa gyda rhyw Simon, barcer.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28