bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 4
Acts 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
1
A hwy yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid a Chadben y Deml, a'r Saduceaid, a ddaethant arnynt hwy,
2
yn flin iawn ganddynt am eu bod hwy yn dysgu y bobl, ac yn cyhoeddi yn yr Iesu yr Adgyfodiad sydd oddiwrth y meirw.
3
A hwy a osodasant ddwylaw arnynt, ac a'u dodasant mewn dalfa erbyn trannoeth: canys yr oedd hi weithian yn hwyr.
4
Ond llawer o'r rhai a glywsant y Gair a gredasant; a rhifedi y gwyr a gyrhaeddodd ynghylch pum mil.
5
A dygwyddodd drannoeth i'w Llywodraethwyr a'r Henuriaid a'u Hysgrifenyddion hwy ymgynull yn Jerusalem;
6
ac yr oedd Annas yr Arch‐offeiriad yno, a Chaiaphas, ac Ioan, ac Alexander, a chynifer ag oedd o'r tylwyth Arch‐offeiriadol.
7
Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a holasant, Yn mha allu neu yn mha enw y gwnaethoch chwi hyn.
8
Yna Petr, wedi ei lenwi â'r Yspryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Llywodraethwyr y bobl, a Henuriaid,
9
os holir ni heddyw am weithred dda i ddyn eiddil, trwy ba foddion y mae hwn wedi ei iachau;
10
bydded hyspys i chwi oll, ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Nazaread, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, yn Hwn y mae hwn yn sefyll yn eich gwydd chwi yn iach.
11
Hwn yw y maen a ddiystyrwyd genych chwi, yr adeiladwyr, wedi ei wneuthur yn ben y gongl.
12
Ac nid oes yn neb arall iachawdwriaeth: canys hefyd nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi yn mhlith dynion, yn yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.
13
A hwy yn gweled hyfder Petr ac Ioan, ac wedi dal sylw mai dynion anllythyrenog a chyffredin oeddynt, a ryfeddasant; a daethant i wybod iddynt fod gyda'r Iesu.
14
Ac wrth weled y dyn oedd wedi ei iachâu yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i wrth‐ddywedyd.
15
Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned ymaith allan o'r Sanhedrin, hwy a gyd‐ymgynghorasant a'u gilydd, gan ddywedyd,
16
Beth fedrwn ni wneyd i'r dynion hyn? Canys yn wir arwydd adnabyddus sydd wedi ei wneuthur trwyddynt hwy, amlwg i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerusalem; ac nis gallwn ei wadu.
17
Eithr fel na ledaener y peth yn mhellach yn mhlith y bobl, bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn.
18
Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant na thraethent ac na ddysgent ddim o gwbl yn enw yr Iesu.
19
Eithr Petr ac Ioan, gan ateb iddynt, a ddywedasant, Ai cyfiawn ydyw, yn mhresenoldeb Duw, i wrandaw arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch:
20
canys ni allwn ni beidio a llefaru y pethau a welsom ac a glywsom.
21
Eithr hwy, wedi eu bygwth yn mhellach a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael allan pa fodd y cospent hwynt, o achos y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi ei wneuthur.
22
Canys mwy na deugain oed oedd y dyn ar yr hwn y gwnaethpwyd yr arwydd hwn o iachâd.
23
A hwy, wedi eu gollwng yn rhyddion, a aethant at yr eiddynt, ac a fynegasant pa pethau bynag a ddywedodd yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid wrthynt.
24
A hwy, pan glywsant, yn unfryd a godasant eu llais at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, Tydi, yr hwn a wnaethost y nef a'r ddaear a'r môr, a'r oll sydd ynddynt:
25
yr hwn, trwy yr Yspryd Glân, trwy enau ein Tâd Dafydd, dy was, a ddywedaist, Paham y ffromodd cenhedloedd, Ac y dyfeisiodd pobloedd bethau ofer?
26
Brenhinoedd y ddaear a safasant yn ymyl, A'r Llywodraethwyr a gasglwyd i'r un lle Yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.
27
Canys casglwyd ynghyd, mewn gwirionedd, yn y Ddinas hon, yn erbyn dy sanctaidd Was Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat, gyda Chenhedloedd a phobloedd Israel,
28
i wneuthur pa pethau bynag a rag‐ordeiniodd dy law a'th gynghor i ddyfod i i ben.
29
Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a dyro i'th weision lefaru dy Air di gyda phob hyfder,
30
tra yr estyni di dy law er iachâd, ac y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Was Iesu.
31
Ac wedi iddynt weddio, siglwyd y lle yn yr hwn yr oeddynt wedi ymgynull, a hwy a lanwyd oll o'r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder.
32
A'r lliaws o'r rhai a gredasant oeddynt o un galon ac enaid: ac nid oedd hyd y nod un a ddywedai fod dim o'i feddianau yn eiddo iddo ei hun; eithr yr oedd pob peth yn gyffredin ganddynt.
33
A chyda gallu mawr yr oedd yr Apostolion yn rhoddi eu tystiolaeth o Adgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll.
34
Canys nid oedd chwaith un anghenus yn eu plith hwy; oblegyd cynifer ag oedd berchenogion tiroedd neu dai a'u gwerthasent, ac a ddygasent werth y pethau a werthasid,
35
ac a'u gosodasent wrth draed yr Apostolion, a chyfrenid i bob un megys yr oedd anghen arno.
36
A Joseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr Apostolion (yr hyn o'i gyfieithu yw, Mab Cynghor), Lefiad, genedigol o Cyprus,
37
a maes ganddo, ac wedi ei werthu, efe a ddygodd y swm o arian, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28