bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 6
Acts 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
1
Ac yn y dyddiau hyn, a'r dysgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iuddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, oblegyd fod eu gwragedd gweddwon yn cael eu hesgeuluso yn y gweinyddiad dyddiol.
2
A'r Deuddeg, wedi galw y lliaws dysgyblion atynt, a ddywedasant, Nid yw yn ddymunol i ni i roddi gair Duw i fyny á gwasanaethu byrddau.
3
Ond edrychwch allan, frodyr, am saith o wyr o'ch plith eich hunain, i'r rhai y dygir tystiolaeth dda, llawn o'r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ni ar y gorchwyl hyn.
4
Eithr nyni a ddyfalbarhawn yn y Weddi ac yn ngweinidogaeth y Gair.
5
A'r ymadrodd oedd ddymunol yn ngolwg yr holl liaws: a hwy a etholasant Stephan, gwr llawn o ffydd ac o'r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia:
6
y rhai a osodasant hwy gerbron yr Apostolion: ac wedi iddynt weddïo hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt.
7
A Gair Duw oedd yn cynyddu, ac yr oedd rhifedi y dysgyblion yn Jerusalem yn amlhau yn ddirfawr; hefyd tyrfa fawr o'r offeiriaid oeddent yn ufuddhau i'r ffydd.
8
A Stephan, yn llawn o ras a gallu, oedd yn gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion mawrion yn mhlith y bobl.
9
Ond cyfododd rhai o'r Synagog a elwir eiddo'r Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia ac Asia, gan ymddadleu â Stephan.
10
Ac nid oeddent hwy yn alluog i wrth‐sefyll y doethineb a'r Yspryd trwy yr Hwn y llefarai.
11
Yna yn ddirgelaidd y cymhellasant ddynion, y rhai a ddywedasant, Nyni ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd pethau cableddus mewn perthynas i Moses a Duw.
12
Hefyd, hwy a gynhyrfasant y bobl a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, a chan ddyfod arno, hwy a'i cipiasant ef gyda hwynt, ac a'i dygasant i'r Sanhedrin;
13
hefyd gosodasant dystion gau, y rhai a ddywedasant, Nid yw y dyn hwn yn peidio a dywedyd pethau yn erbyn y lle Sanctaidd, a'r Gyfraith.
14
Oblegyd yr ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd y dystrywiai yr Iesu, y Nazaread hwn, y lle hwn, ac y cyfnewidiai y defodau a draddododd Moses i ni.
15
A phawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin, gan edrych yn graff arno, a welent ei wyneb ef fel gwyneb angel.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28