bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 11
Acts 11
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
1
A'r Apostolion a'r brodyr oedd ar hyd Judea a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd hefyd dderbyn Gair Duw.
2
A phan aeth Petr i fyny i Jerusalem, y rhai o'r Enwaediad a ymrysonasant ag ef,
3
gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wyr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt.
4
Eithr Petr a ddechreuodd ac a osododd allan yr oll iddynt mewn trefn, gan ddywedyd,
5
Yr oeddwn i yn ninas Joppa yn gweddio; a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr megys llen‐llian fawr yn disgyn, wedi ei gollwng i lawr o'r Nef, wrth ei phedair congl, ac a ddaeth hyd ataf fi:
6
i'r hon wedi edrych yn graff, mi a ddwys‐ystyriais ac a welais anifeiliaid pedwar‐troediog y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y Nef.
7
Ac mi a glywais lef hefyd yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Petr: lladd a bwyta.
8
A dywedais, Na wnaf er dim, Arglwydd, canys peth cyffredin neu aflan nid aeth erioed i mewn i'm genau.
9
Ac atebodd llais eilwaith o'r Nef, Y pethau a lanhâodd Duw na wna di yn gyffredin.
10
A hyn a wnaed dair gwaith: a thynwyd i fyny drachefn y cwbl i'r Nef.
11
Ac wele, yn ddioed safai tri o wyr wrth y ty yn yr hwn yr oeddem, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi.
12
A dywedodd yr Yspryd wrthyf am fyned gyda hwynt, heb wneuthur gwahaniaeth. A'r chwe brodyr hyn hefyd a aethant gyda mi; ac ni a aethom i mewn i dy y gwr;
13
a mynegodd i ni pa fodd y gwelodd efe yr Angel yn ei dy, yn sefyll ac yn dywedyd, Anfon i Joppa, a danfon am Simon, a gyfenwir Petr;
14
yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y'th achubir di a'th holl dy.
15
A phan yr oeddwn yn dechreu llefaru, syrthiodd yr Yspryd Glân arnynt, megys arnom ni yn y Dechreuad.
16
A mi a gofiais ymadrodd yr Arglwydd, y modd y dywedodd, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir yn yr Yspryd Glân.
17
Os rhoddodd Duw, gan hyny, y gyffelyb rodd iddynt hwy ag i ninau hefyd y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, Myfi, pwy oeddwn i? A oeddwn alluog i luddias Duw?
18
Ac wedi clywed y pethau hyn, hwy a ymdawelasant, ac a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Ac felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch i fywyd.
19
A'r rhai gan hyny yn wir a wasgarwyd mewn canlyniad i'r blinder a gyfododd ar gyfrif Stephan, a dramwyasant hyd yn Phœnicia, a Cyprus, ac Antioch, heb lefaru y Gair wrth neb ond yr Iuddewon yn unig.
20
A rhai o honynt, gwyr o Cyprus a Cyrene, yn gyfryw rai, wedi dyfod i Antioch, a lefarent hefyd wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.
21
Ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; hefyd nifer mawr y rhai a gredasant a droisant at yr Arglwydd.
22
A'r son am danynt hwy a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a hwy a anfonasant allan Barnabas hyd Antioch;
23
yr hwn pan gyrhaeddodd, a gweled gras Duw, a lawenychodd, ac a gynghorodd bawb â llwyr‐fryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd:
24
oblegyd yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o'r Yspryd Glân a ffydd: ac ychwanegwyd tyrfa fawr at yr Arglwydd.
25
Ac efe a aeth ymaith i Tarsus i chwilio am Paul,
26
ac wedi ei gael, efe a'i dyg i Antioch. A bu iddynt am flwyddyn gyfan ymgynull yn yr Eglwys, a dysgu tyrfa fawr, a galw yn gyntaf yn Antioch y dysgyblion yn Gristionogion.
27
Ac yn y dyddiau hyny y daeth prophwydi o Jerusalem i waered i Antioch.
28
Ac un o honynt, o'r enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocâodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl ddaear gyfaneddol: yr hwn a ddygwyddodd yn amser Claudius.
29
A'r dysgyblion, pob un fel yr oedd yn llwyddo, a benderfynasant anfon er gweinyddu cymhorth i'r brodyr oedd yn preswylio yn Judea:
30
yr hyn hefyd a wnaethant, trwy ddanfon at yr Henuriaid trwy law Barnabas a Saul.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28