bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 23
Acts 23
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
1
A Phaul, gan edrych yn graff ar y Sanhedrin, a ddywedodd, O Wyr Frodyr, yr wyf fi wedi byw fel dinesydd i Dduw, mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd hwn.
2
A'r Arch‐offeiriad Ananias a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ef ar ei enau.
3
Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw sydd ar fedr dy daro di, bared wedi ei wyn‐galchu: ac a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ol y Gyfraith, a chan droseddu'r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i?
4
A'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl a ddywedasant, A ddifenwi di Archoffeiriad Duw?
5
A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, ei fod yn Arch‐offeiriad; canys y mae yn ysgrifenedig, Am benaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg.
6
A Phaul, yn gwybod fod un rhan o'r Saduceaid, a'r llall o'r Phariseaid, a waeddodd yn y Sanhedrin, O wyr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Phariseaid: am y Gobaith ac Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i.
7
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd ymryson rhwng y Phariseaid a'r Saduceaid: a rhanwyd y lluaws.
8
Canys y Saduceaid yn wir a ddywedant nad oes Adgyfodiad, nac angel nac yspryd; eithr y Phariseaid ydynt yn addef y ddau.
9
A bu gwaedd fawr, a chododd i fyny rai o'r Ysgrifenyddion oedd o ran y Phariseaid, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr pa beth os yspryd a lefarodd wrtho neu angel?
10
A therfysg mawr wedi cyfodi, y Milwriad, yn ofni y tynid Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i'r llu fyned i waered, a'i gipio ef o'u canol hwynt, a'i ddwyn i'r Gwersyll‐dy.
11
A'r nos ganlynol, yr Arglwydd a safodd yn ei ymyl, a dywedodd, Ymgalonoga,; canys megys y tystiolaethaist am danaf i Jerusalem, felly y mae yn rhaid i ti dystiolaethu hefyd i Rufain.
12
A phan aeth hi yn ddydd, yr Iuddewon a wnaethant gytundeb, ac a rwymasant eu hunain drwy lw, gan ddywedyd na fwytaent ac nac yfent hyd nes y lladdent Paul.
13
Ac yr oedd mwy na deugain a wnaethant y cynghrair hwn.
14
A'r cyfryw a ddaethant at yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, ac a ddywedasant, Yr ydym wedi tynghedu ein hunain trwy lw nad archwaethwn ddim hyd nes y lladdem Paul.
15
Yn awr, gan hyny, gwnewch chwi ynghyd a'r Sanhedrin egluro i'r Milwriad, fel y dygo ef i waered atoch, fel pe buasech ar fedr cael gwybod yn gywirach y pethau yn ei gylch ef; a ninau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef.
16
A phan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn, wedi cyrhaedd a myned i mewn i'r Gwersyll‐dy, efe a fynegodd i Paul.
17
A Paul, wedi galw un o'r Canwriaid ato, a ddywedodd, Dwg y gwr ieuangc hwn at y Milwriad, canys y mae ganddo beth i'w fynegu iddo.
18
Efe gan hyny a'i cymerodd ac a'i dyg at y Milwriad, ac a ddywedodd, Paul y carcharor a'm galwodd i ato, ac a ofynodd i mi ddwyn y gwr ieuangc hwn atat, a chanddo rywbeth i'w ddywedyd wrthyt.
19
A'r Milwriad a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth o'r neilldu, ac a ofynodd iddo yn ddirgel, Beth yw yr hyn sydd genyt i'w fynegu i mi?
20
Ac efe a ddywedodd, Yr Iuddewon a gytunasant i ofyn i ti ddwyn Paul i waered yfory i'r Sanhedrin, fel pe baet ar fedr ymofyn yn gywirach yn ei gylch.
21
Am hyny na pherswadier di ganddynt, canys y mae yn cynllwyn yn ei erbyn fwy na deugain gwr o honynt, yn gyfryw ag a rwymasant eu hunain drwy lw na fwytaent, nac yfent nes ei ladd: ac yn awr y maent yn barod, gan ddisgwyl am yr addewid oddiwrthyt.
22
Y Milwriad gan hyny a ollyngodd ymaith y gwr ieuangc, wedi gorchymyn na ddywedai i neb i ti hyspysu y pethau hyn i mi.
23
Ac wedi galw ato ryw ddau o'r Canwriaid, dywedodd, Parotowch ddau gant o filwyr, fel yr elont hyd Cesarea, a deg a thri‐ugain o wyr meirch, a dau gant o bicellwyr, ar y drydedd awr o'r nos:
24
hefyd dywedodd wrthynt ddarparu anifeiliaid, gan osod Paul arnynt, i'w ddwyn yn ddyogel at Ffelix y Rhaglaw.
25
Ac efe a ysgrifenodd lythyr yn ol y ffurf hon:
26
Claudius Lysias at yr Ardderchocaf Raglaw Ffelix, bydd wych.
27
Y gwr hwn wedi ei ddal gan yr Iuddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, a achubais i, gan ddyfod ar eu gwarthaf gyda llu, wedi dysgu mai Rhufeiniwr oedd.
28
Ac yn ewyllysio gwybod yr achos ar gyfrif yr hwn y cyhuddent ef, mi a'i dygais ef i waered i'w Sanhedrin hwynt.
29
A chefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynghylch cwestiynau o'u Cyfraith hwy, heb un cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau.
30
A phan hyspyswyd i mi fod cynllwyn yn erbyn y gwr, allan o law danfonais ef atat ti, gan erchi i'w gyhuddwyr ef hefyd i lefaru yn ei erbyn ger dy fron di.
31
Y milwyr yn wir gan hyny, megys y gorchymynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a'i dygasant ar hyd nos i Antipatris.
32
A thranoeth, hwy a adawsant i'r gwyr meirch fyned gydag ef, ac a ddychwelasant i'r Gwersyll‐dy.
33
Y cyfryw, wedi dyfod i Cesarea, a rhoddi i fyny y llythyr i'r Rhaglaw, a gyflwynasant Paul hefyd iddo.
34
Ac wedi darllen y llythyr, a gofyn o ba fath dalaeth yr ydoedd, a deall ei fod o Cilicia:
35
Mi a'th wrandawaf trwodd, eb efe, pan gyrhaeddo dy gyhuddwyr hefyd, gan orchymyn ar ei gadw yn mhalasdy swyddogol Herod.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28