bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 27
Acts 27
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
1
A phan benderfynwyd i ni hwylio ymaith i'r Ital, traddodasant Paul a rhai carcharorion eraill i Ganwriad o'r enw Julius, o fintai Augustaidd.
2
Ac wedi myned i long o Adramyttium, yr hon oedd ar fedr hwylio i leoedd ar lanau Asia, ni a aethom i'r môr, a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica.
3
A thranoeth ni a ddaethom i Sidon: a Julius a ymddygodd yn ddyngarol tu ag at Paul, ac a ganiataodd iddo i fyned at ei gyfeillion i gael o'u caredigrwydd.
4
Ac wedi myned oddiyno, ni a hwyliasom dan Cyprus, o herwydd fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.
5
Ac wedi i ni hwylio dros y môr ar lanau Cilicia a Pamphylia, daethom i Myra sydd yn Lycia.
6
Ac yno y Canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi.
7
Ac wedi hwylio yn araf lawer o ddyddiau, a dyfod trwy anhawsder gyferbyn a Cnidus, am na adawai y gwynt i ni, ni a hwyliasom dan Creta gyferbyn a Salmone;
8
ac wedi morio heibio iddi gydag anhawsder, daethom i ryw le a elwir Porthladdoedd Prydferth, i'r hwn yr oedd dinas Lasea yn agos.
9
Ac wedi treulio llawer o amser, a'r fordaith eisoes yn beryglus, o herwydd fod yr Ympryd eisoes wedi myned heibio, Paul a gynghorodd,
10
gan ddywedyd wrthynt, O wyr, yr wyf yn gweled y bydd y fordaith gyda rhyfyg a llawer o golled, nid yn unig o'r llwyth a'r llong, eithr o'n bywydau ni hefyd.
11
Eithr y Canwriad a ddarbwyllwyd gan lywydd a pherchen y llong yn hytrach na chan y pethau a lefarwyd gan Paul.
12
A chan fod y porthladd yn anghyfleus er gauafu, y mwyrif a roisant gynghor i forio oddiyno, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phœnix, i auafu yno, porthladd yn Creta sydd yn edrych tua'r gogledd‐ddwyrain a'r deheu‐ddwyrain.
13
A phan chwythodd y deheu‐wynt yn fwynaidd, a hwy yn tybied eu bod wedi enill eu hamcan, wedi codi, yr angor, moriasant yn mlaen yn agosach i Creta.
14
Ond nid ar ol llawer o amser curodd i lawr oddiwrthi wynt tymhestlog yr hwn a elwir Euracwilo.
15
A phan gipiwyd y llong, a hi heb allu i wrth‐wynebu y gwynt, ni a roisom i fyny, ac a yrwyd o'i flaen.
16
Ac wedi rhedeg dan ryw ynys fechan a elwir Cauda, gydag anhawsder y buom alluog i sicrhau y bâd;
17
ac wedi ei godi i fyny, hwy a ddefnyddiasant gynorthwyon, gan wregysu y llong oddi dani; ac yn ofni y bwrid hwynt ar y Syrtis, hwy a ostyngasant y ger, ac felly a yrwyd yn mlaen.
18
A ni yn cael ein blino yn enbyd gan y dymhestl, tranoeth hwy a ysgafnhasant y llong;
19
a'r trydydd dydd hwy a fwriasant allan â'u dwylaw eu hunain daclau y llong.
20
A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am ddyddiau lawer, a thymhestl nid bychan yn pwyso arnom, o hyny allan pob gobaith o'n cadw a ddygwyd ymaith.
21
Ac wedi bod lawer o amser heb ymborth, yna y safodd Paul yn eu canol, ac a ddywedodd, O wyr, Yr oedd yn wir yn anghenrheidiol i chwi ufyddhâu i mi, a pheidio morio o Creta, ac felly osgoi y rhyfyg a'r golled hon.
22
Ac yr awrhon yr wyf yn eich anog i fod yn galonog: canys ni fydd dim colled am einioes yn eich plith ond am y llong.
23
Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel y Duw yr Hwn a'm pïau, a'r Hwn yr wyf yn ei wasanaethu,
24
gan ddywedyd, Nac ofna, Paul: rhaid i ti sefyll ger bron Cesar: ac wele, y mae Duw wedi rhoddi i ti yr holl rai sydd yn hwylio gyda thi.
25
Mewn canlyniad, O wyr, ymgalonogwch, canys yr wyf yn credu i Dduw mai felly y bydd yn ol y modd y dywedwyd i mi.
26
Ac ar ryw ynys y mae yn rhaid ein bwrw allan.
27
A phan ddaeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ni yn cael ein gyru yma ac acw yn Adria, tua haner nos yr oedd y morwyr yn lled‐dybied eu bod yn neshâu at ryw wlad;
28
ac wedi plymio hwy a' i cawsant yn ugain gwrhyd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a' i cawsant yn bumtheg gwrhyd.
29
A chan ofni rhag dygwydd i ni syrthio ar hyd lleoedd geirwon, hwy a fwriasant allan bedair angor o'r pen ol, ac yr oeddent yn dymuno ei myned hi yn ddydd.
30
A'r llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bâd i waered i'r môr, mewn rhith fel ar fedr estyn allan angorau o'r pen blaen,
31
dywedodd Paul wrth y Canwriad a'r milwyr, Oni erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.
32
Yna y milwyr a dorasant ymaith raffau y bâd, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.
33
Ac hyd nes oedd y dydd ar fedr dyfod, yr oedd Paul yn anog pawb gyda'u gilydd i gyfranogi o luniaeth, gan ddywedyd, Hwn yw y pedwerydd diwrnod ar ddeg yr ydych yn disgwyl ac yn parhau heb fwyd, heb gymeryd dim.
34
Am hyny yr wyf yn eich anog i gyfranogi o luniaeth, canys hyn sydd er eich dyogelwch: canys blewyn o ben un o honoch ni chollir.
35
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a chymeryd bara, efe a ddiolchodd i Dduw yn eu gwydd hwynt oll, ac wedi ei dori efe a ddechreuodd fwyta.
36
A hwy oll wedi dyfod yn galonog, hwy eu hunain hefyd a gymerasant luniaeth.
37
Ac yr oeddem yn y llong, yr holl eneidiau, yn ddau cant ac un‐ar‐bumtheg a thri‐ugain.
38
Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw allan y gwenith i'r môr.
39
A phan aeth hi yn ddydd nid oeddent yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a thraeth iddi, i'r hon y cynghorasant, os gallent, wthio y llong.
40
A chan fwrw ymaith yr angorau, hwy a'u gadawsant yn y môr, gan ollwng ar yr un pryd rwymau y llywiau: A chan godi y flaenhwyl i'r awel, hwy a gyfeiriasant at y traeth.
41
Ond wedi syrthio i le deufôr‐gyfarfod, hwy a redasant y llong i dir; a'r pen blaen a darawodd ac a arosodd yn ddiysgog, ond y pen ol a ymddatodai gan ruthr y tonau.
42
A chynllun y milwyr ydoedd lladd y carcharorion rhag i neb o honynt, trwy nofio allan, ddianc.
43
Ond y Canwriad, yn dymuno cadw Paul, a'u rhwystrodd yn eu dymuniad; ac a archodd i bawb a fedrai nofio ymfwrw i'r môr, a myned yn gyntaf i'r tir;
44
ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar bethau o'r llong. Ac felly y darfu i bawb ddyfod yn ddyogel i'r tir.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28