bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 18
Acts 18
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
1
Ar ol y pethau hyn, efe a ymadawodd o Athen, ac a ddaeth i Corinth;
2
ac wedi iddo gael rhyw Iuddew o'r enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi newydd ddyfod o'r Eidal, a Priscilla ei wraig, am orchymyn o Claudius i'r holl Iuddewon ymadael o Rufain, efe a ddaeth atynt.
3
Ac o herwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arosodd gyda â hwynt, ac a weithiasant; canys yr oeddent yn wneuthurwyr pebyll wrth eu celfyddyd.
4
Ac efe a ymresymodd yn y Synagog bob Sabbath, ac a argyhoeddodd Iuddewon a Groegiaid.
5
A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Macedonia, yr oedd Paul yn cael ei ddirgymhell gan y Gair, gan dystiolaethu i'r Iuddewon mai Iesu oedd y Crist.
6
Ac a hwy yn gosod eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu, efe a ysgydwodd allan ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Y mae eich gwaed ar eich pen eich hun: glân wyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd.
7
Ac efe a symudodd oddiyno, ac a aeth i dy un o'r enw Titius Justus, un yn addoli Duw, ty yr hwn oedd yn cyffwrdd a'r Synagog.
8
A Crispus yr Arch‐synagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ynghyd a'i holl deulu; a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant ac a fedyddiwyd.
9
A'r Arglwydd a ddywedodd yn y nos trwy weledigaeth wrth Paul, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw: canys yr wyf fi gyda thi,
10
ac ni ymesyd neb arnat fel i'th ddrygu: canys pobl lawer sydd genyf yn y Ddinas hon.
11
Ac efe a arosodd yno flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu yn eu plith Air Duw.
12
A phan oedd Gallio yn Rhaglaw Achaia, cyfododd yr Iuddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a dygasant ef at y frawd‐le, gan ddywedyd,
13
Y mae hwn yn darbwyllo dynion i addoli Duw yn groes i'r Gyfraith.
14
A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Gallio wrth yr Iuddewon, Pe buasai yn wir yn fater o gam neu o ddrwg ystryw, O Iuddewon, wrth reswm mi a gyd‐ddygaswn a chwi;
15
eithr os cwestiynau ydynt am Ymadrodd ac Enwau a Chyfraith sydd yn perthyn i chwi, edrychwch eich hunain: ni ewyllysiaf fi fod yn farnwr y pethau hyn.
16
Ac efe a'u gyrodd hwynt oddiwrth y frawdle.
17
A hwynt oll, wedi cymeryd gafael yn Sosthenes, yr Arch‐synagogydd, a'i curasant ef o flaen y frawdle. Ac nid oedd Gallio yn gofalu am ddim o'r pethau hyn.
18
Eithr Paul, wedi aros yn mlaen ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscilla ac Acwila, wedi iddo yn Cenchrea gneifio ei ben, canys yr oedd arno adduned.
19
A hwy a gyrhaeddasant i Ephesus, ac efe a'u gadawodd hwynt yno: eithr efe ei hun a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ymresymodd a'r Iuddewon;
20
a phan ofynasant iddo aros am fwy o amser, ni chydsyniodd,
21
ond gan ganu yn iach iddynt, a dywedyd, Drachefn mi a ddychwelaf atoch, os Duw a'i myn, hwyliodd ymaith o Ephesus.
22
A phan laniodd efe yn Cesarea, a myned i fyny a chyfarch yr eglwys, efe a aeth i waered i Antioch.
23
Ac wedi iddo dreulio talm o amser, efe a aeth ymaith, gan fyned trwy wlad Galatia a Phrygia mewn trefn, gan gadarnhau yr holl ddysgyblion.
24
A rhyw Iuddew, o'r enw Apollos, Alexandriad o genedl, gwr ymadroddus, a ddaeth i Ephesus, gan fod yn alluog yn yr Ysgrythyrau:
25
yr hwn oedd wedi ei egwyddori yn ffordd yr Arglwydd; a chan fod yn danbaid yn yr yspryd llefarai a dysgai yn gywir y pethau am yr Iesu, gan fod yn gydnabyddus a Bedydd Ioan yn unig.
26
Hwn hefyd a ddechreuodd lefaru yn hyf yn y Synagog: a phan glywodd Priscilla ac Acwila ef, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a esboniasant iddo ffordd Duw yn fwy cywir.
27
A phan yr oedd efe yn ewyllysio myned trosodd i Achaia, y brodyr a'i cymhellasant yn mlaen, ac a ysgrifenasant at y dysgyblion i'w roesawu ef; ac efe, wedi cyrhaedd, a gynorthwyodd lawer ar y rhai oeddent wedi credu, trwy ras;
28
canys yn egniol y profodd yn drwyadl yn erbyn yr Iuddewon yn gyhoeddus, gan ddangos trwy yr Ysgrythyrau mai Iesu yw y Crist.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28