bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 20
Acts 20
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
1
Ac ar ol darfod o'r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y dysgyblion, a'u cynghori a' u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Macedonia.
2
Ac wedi iddo fyned trwy y parthau hyny, a'u cynghori â llawer gair, efe a ddaeth i Groeg.
3
Ac wedi iddo dreulio tri mis, ac i gynllwyn gael ei wneyd gan yr Iuddewon yn ei erbyn pan ar fedr morio i Syria, daeth i'r penderfyniad i ddychwelyd trwy Macedonia.
4
A chydymdeithodd ag ef [hyd yn Asia], Sopater o Berea, mab Pyrrhus; ac o'r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe a Thimotheus; ac o Asia, Tychicus a Trophimus.
5
A'r rhai hyn wedi cyrhaedd yno a arosasant am danom yn Troas.
6
A ni a fordwyasom ymaith ar ol dyddiau y Bara Croyw o Philippi, ac a ddaethom atynt i Troas yn mhen pum niwrnod, lle y treuliasom saith niwrnod.
7
Ac ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, a ninau wedi ymgynull ynghyd i Dori Bara, ymresymai Paul â hwynt, ar fedr myned ymaith dranoeth, ac a barhâodd ei ymadrodd hyd haner nos.
8
Ac yr oedd llawer o oleuadau yn yr oruwch‐ystafell, lle yr oeddem wedi ymgynull ynghyd.
9
A rhyw wr ieuangc o'r enw Eutychus oedd yn eistedd yn y ffenestr, yn cael ei lethu gan drwm‐gwsg; ac fel yr oedd Paul yn ymresymu yn helaethach, efe, wedi ei lethu gan y cwsg, a syrthiodd o'r drydedd loft, ac a godwyd i fyny yn farw.
10
A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio a ddywedodd, Na therfysgwch, canys y mae ei fywyd ynddo.
11
Ac wedi iddo fyned i fyny, a thori y Bara, a bwyta, ac ymddyddan am hir amser, hyd doriad dydd, felly yr ymadawodd.
12
A hwy a ddygasant y llangc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.
13
A nyni wedi cyrhaedd hyd at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr yno cymeryd Paul i mewn; canys felly yr oedd efe wedi trefnu pan ar fedr myned ei hun ar draed.
14
A phan gyfarfu efe a ni yn Assos, ni a'i cymerasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene.
15
Ac wedi mordwyo oddiyno, dranoeth ni a ddaethom gyferbyn a Chios; ac ar y dydd arall ni a wthiasom yn groes i Samos; a'r dydd canlynol ni a ddaethom i Miletus:
16
canys yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia; canys brysiai, os oedd bosibl iddo, i fod yn Jerusalem Ddydd y Pentecost.
17
Ac o Miletus efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd ato Henuriaid yr eglwys.
18
A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch o'r dydd cyntaf y gosodais droed yn Asia, pa fodd y bum gyda chwi yr holl amser;
19
gan wasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a dagrau, a phrofedigaethau a ddygwyddasant i mi yn nghynllwynion yr Iuddewon:
20
y modd nad ateliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegu i chwi, a'ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ;
21
gan dystiolaethu i Iuddewon a Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.
22
Ac yn awr, wele myfi, yn rhwym yn yr yspryd, yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddygwyddant i mi ynddi:
23
oddieithr fod yr Yspryd Glân o ddinas i ddinas yn tystiolaethu i mi, gan ddywedyd fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.
24
Eithr nid wyf yn gwneuthur unrhyw gyfrif o' m heinioes fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y gorphenwyf fy ngyrfa a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu Efengyl gras Duw.
25
Ac yn awr, wele, mi a wn na welwch chwi oll fy wyneb i mwyach, yn mysg y rhai y tramwyais, gan bregethu y Deyrnas.
26
Gan hyny yr wyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll;
27
canys nid ymateliais rhag mynegu holl gynghor Duw i chwi.
28
Edrychwch atoch eich hunain ac at yr holl braidd, yn mhlith y rhai y gosododd yr Yspryd Glân chwi yn Arolygwyr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a brynodd Efe trwy ei briod waed.
29
Mi a wn y daw i mewn i'ch mysg ar ol fy ymadawiad fleiddiaid blinion, y rhai nad arbedant y praidd.
30
Ac o'ch plith chwi eich hunain y cyfyd gwyr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynu ymaith y dysgyblion ar eu hol eu hunain.
31
Am hyny gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais gynghori pob un gyda dagrau.
32
Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i Air ei ras, yr Hwn sydd yn alluog i adeiladu ac i roddi yr Etifeddiaeth yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
33
Arian neu aur neu wisg neb ni chwenychais.
34
Chwychwi a wyddoch i'r dwylaw hyn wasanaethu i'm cyfreidiau, ac i'r rhai oedd gyda mi.
35
Rhoddais i chwi esiampl yn mhob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo y gweiniaid, a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, iddo ei Hun ddywedyd, Gwynfydedig yw Rhoddi yn hytrach na Derbyn.
36
Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a myned ar ei liniau, efe a weddïodd gyda hwynt holl.
37
Ac wylo yn dost a wnaeth pawb, ac a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant drachefn a thrachefn,
38
gan ymofidio yn benaf am y gair a ddywedasai, na chaent dremio ar ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28