bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 21
Acts 21
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
1
A phan ddarfu i ni hwylio ymaith, wedi i ni ein gwahanu oddiwrthynt, ni a ddaethom ag union‐gyrch i Cos, a thranoeth i Rhodes, ac oddiyno i Patara.
2
Ac wedi cael llong yn croesi trosodd i Phœnicia, ni a aethom i fyny iddi, ac a hwyliasom.
3
Ac wedi cael golwg ar Cyprus, a'i gadael hi ar y llaw aswy, hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Tyrus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth.
4
Ac wedi dyfod o hyd i'r dysgyblion, arosasom yno saith niwrnod: a'r cyfryw rai a ddywedasent i Paul, trwy yr Yspryd, beidio myned o hono i'r lan i Jerusalem.
5
A phan ddarfu i ni gyflawnu y dyddiau, ni a ymadawsom ac a gychwynasom, a phawb, ynghyd a gwragedd a phlant, yn ein hebrwng, hyd tu allan i'r ddinas; ac wedi myned ar ein gliniau ar y traeth, a gweddio, ni a ganasom yn iach i'n gilydd.
6
A ni a aethom i'r llong, a hwythau a ddychwelasant i'w cartref.
7
A nyni wedi gorphen ein mordaith, o Tyrus ni a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt.
8
A thranoeth, wedi ymadael, ni a ddaethom i Cesarea; ac wedi myned i mewn i dy Philip yr Efengylydd, yr hwn oedd o'r Saith, ni a arosasom gydag ef.
9
Ac i hwn yr oedd pedair merch, gwyryfon, yn prophwydo.
10
Ac wrth aros o honom amryw ddyddiau, daeth i waered o Judea rhyw brophwyd o'r enw Agabus.
11
Ac wedi dyfod atom, a chymeryd gwregys Paul, efe a rwymodd ei draed ei hun a'i ddwylaw, ac a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Yspryd Glân, Y gwr biau y gwregys hwn, yr un modd y rhwyma'r Iuddewon ef yn Jerusalem, ac a'i traddodant i ddwylaw y Cenhedloedd.
12
A phan glywsom y pethau hyn, nyni a'r brodorion hefyd a atolygasom arno i beidio myned i fyny i Jerusalem.
13
Yna yr atebodd Paul, Beth feddyliwch wrth wylo a llethu fy nghalon? Canys parod wyf, nid yn unig i'm rhwymo, ond hefyd i farw yn Jerusalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.
14
Ac efe heb ei ddarbwyllo, ni a dawsom a sôn gyda dywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.
15
Ac ar ol y dyddiau hyn, wedi gwneyd ein parotoadau, aethom i fyny i Jerusalem.
16
Aeth hefyd gyda ni rai o'r dysgyblion o Cesarea, gan ein harwain at un Mnason, o Cyprus, dysgybl boreuol, gyda'r hwn y lletyem.
17
Ac wedi ein dyfod i Jerusalem, y brodyr a'n croesawsant yn llawen.
18
A'r dydd canlynol yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago; hefyd yr holl Henuriaid oeddent yn bresenol.
19
Ac wedi iddo eu cyfarch, efe a adroddodd bob yn un, bob un o'r pethau a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.
20
A phan glywsant, hwy a ogoneddasant Dduw; dywedasant hefyd wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd yn mhlith yr Iuddewon o'r rhai sydd wedi credu, a'r oll yn selog dros y Gyfraith o'r dechreu:
21
ac hyfforddwyd hwy am danat ti dy fod yn dysgu ymwrthodiad â Moses i'r holl Iuddewon sydd yn mysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt beidio enwaedu ar y plant na rhodio wrth y defodau.
22
Pa beth gan hyny sydd i'w wneyd? [Rhaid] yn ddios [ddyfod o luaws ynghyd]: clywant dy fod wedi dyfod.
23
Gwna gan hyny yr hyn a ddywedwn wrthyt: Y mae genym bedwar gwr a chanddynt adduned arnynt:
24
cymer y rhai hyn at at: glanhaer di gyda hwynt; a thâl y draul drostynt, fel yr eilliont eu penau; a phawb a ddeuant i wybod nad oes dim yn y pethau yn y rhai yr hyfforddwyd hwynt am danat, eithr dy fod dy hun yn rhodio gan gadw y Gyfraith.
25
Ond am y Cenhedloedd crediniol, nyni a ddanfonasom genadwri, gan farnu iddynt ymgadw rhag yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a'r hyn a dagwyd, a phuteindra.
26
Yna Paul a gymerodd y gwyr ato ei hun, a'r dydd nesaf gan ymlanhâu gyda hwynt, efe a aeth i mewn i'r Deml; gan hysbysu cyflawniad dyddiau y glanhâd, hyd nes yr offrymwyd yr offrwm dros bob un o honynt.
27
A phan yr oedd y saith niwrnod ar gael eu cyflawnu, yr Iuddewon o Asia, pan welsant ef yn y Deml, a derfysgasant yr holl dyrfa, ac a ddodasant ddwylaw arno,
28
gan waeddi, O wyr Israel, cynorthwywch: hwn yw y dyn sydd yn dysgu pawb yn mhob man yn erbyn y Bobl a'r Gyfraith a'r Lle hwn; yn mhellach, dygodd y Groegiaid hefyd i'r Deml, ac y mae wedi halogi y Lle Sanctaidd hwn.
29
Canys yr oeddent wedi dal sylw ar Trophimus, yr Ephesiad, yn y Ddinas gydag ef, yr hwn a dybient i Paul ei ddwyn i'r Deml.
30
A chynhyrfwyd y Ddinas oll, a'r bobl a redasant ynghyd; ac wedi ymaflyd yn Paul, hwy a'i llusgasant ef tu allan i'r Deml: ac yn y man y cauwyd y drysau.
31
Ac a hwy yn ceisio ei ladd ef, aeth hysbysiad i fyny at Filwriad y gatrawd fod Jerusalem oll mewn terfysg:
32
yr hwn allan o law a gymerodd filwyr a Chanwriaid, ac a redodd i waered arnynt: hwythau, pan welsant y Milwriad a'r milwyr, a beidiasant a churo Paul.
33
Yna yr agoshaodd y Milwriad, ac a'i daliodd ef, ac a orchymynodd ei rwymo â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy allai fod, a pha beth oedd wedi ei wneyd.
34
A rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod yn sicr o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i'r gwersyll‐dy.
35
A phan ddaeth efe ar y grisiau, dygwyddodd y fath, fel y darfu iddo gael ei gario gan y milwyr o achos trais y dyrfa;
36
canys yr oedd lluaws y bobl yn canlyn, gan waeddi, Ymaith ag ef!
37
Ac fel yr oedd efe ar gael ei arwain i'r gwersyll‐dŷ, Paul a ddywed wrth y Milwriad, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?
38
Nid tydi, ynte, yw yr Aiphtiwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gododd wrthryfel ac a arweiniodd i'r anialwch y pedair mil o'r Brad‐lofruddiaid?
39
Ond dywedodd Paul, Myfi yn wir wyf ddyn o Iuddew, o Tarsus, dinesydd o ddinas nid anenwog yn Cilicia; ond deisyfaf arnat ti, caniata i mi lefaru wrth y bobl.
40
Ac wedi iddo ganiatâu, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â'i law ar y bobl; ac wedi cael dystawrwydd dwfn, efe a lefarodd yn y briod‐iaith Hebraeg, gan ddywedyd,
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28