bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 22
Acts 22
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
1
O Wyr Frodyr a Thadau, gwrandewch fy ymddiffyn presenol wrthych.
2
Ac wedi clywed mai yn y briod‐iaith Hebraeg y llefarai wrthynt, hwy a roisant fwy o lonyddwch.
3
A dywedodd, Myfi wyf wr o Iuddew, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, wedi fy meithrin yn y Ddinas hon, wedi fy egwyddori wrth draed Gamaliel yn ol manyldeb Cyfraith ein Tadau, o'r dechreu yn un selog dros Dduw, fel, yr ydych chwithau oll heddyw:
4
yr hwn a erlidiais y Ffordd hon hyd angeu, gan rwymo a thraddodi i garcharau wyr a gwragedd hefyd,
5
megys hefyd y mae yr Archoffeiriad yn dyst i mi, a'r holl Henaduriaeth: gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr oeddwn yn myned i Damascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerusalem, fel y cospid hwynt.
6
Eithr dygwyddodd i mi wrth fyned a neshâu at Damascus ynghylch haner dydd, yn ddisymwth allan o'r nef dysglaeriodd goleuni tanbaid o'm hamgylch;
7
a syrthiais ar y llawr, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid I?
8
A minau a atebais, Pwy ydwyt, Arglwydd? A dywedodd wrthyf, Myfi wyf Iesu o Nazareth, yr hwn yr wyt ti yn Ei erlid.
9
A'r rhai oedd gyda mi yn wir a welsant y Goleuni, ond llais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf ni chlywsant.
10
A dywedais, Pa beth a wnaf, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i Damascus, ac yno y dywedir i ti ynghylch yr holl bethau sydd wedi eu penodi i ti eu gwneuthur.
11
A phan nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y Goleuni hwnw, gan gael fy arwain erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, daethum i Damascus.
12
A rhyw Ananias, gwr bucheddol yn ol y Gyfraith, a thystiolaeth dda iddo gan yr holl Iuddewon oedd yn preswylio yno,
13
a ddaeth ataf, ac a safodd uwch fy mhen, ac a ddywedodd wrthyf, Frawd Saul, edrych i fyny. A myfi, yn yr awr hono, a edrychais i fyny arno.
14
Ac efe a ddywedodd, Duw ein Tadau ni a'th benododd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn, ac i glywed llais o'i enau ef:
15
canys byddi dyst iddo wrth bob dyn o'r pethau a welaist ac a glywaist.
16
Ac yn awr paham yr oedi? Cyfod, cymer dy fedyddio, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei Enw Ef.
17
A dygwyddodd i mi, wedi dychwelyd i Jerusalem, a mi yn gweddio yn y Deml, syrthio mewn llesmair,
18
a'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos yn glau allan o Jerusalem, o herwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth am danaf fi.
19
A minau a ddywedais, Arglwydd, y rhai hyn a wyddant mai myfi oedd yn carcharu ac yn curo yn mhob Synagog y rhai sydd yn credu ynot Ti.
20
A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy dyst ti, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.
21
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos, canys myfi a'th anfonaf di yn mhell at y Cenhedloedd.
22
A hwy a'i gwrandawsant hyd y gair hwn; a chodasant eu llef, gan ddywedyd, Ymaith â'r cyfryw un oddiar y ddaear, canys nid oedd gymhwys iddo fyw.
23
Ac fel yr oeddent yn gwaeddi, ac yn taflu ymaith eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr,
24
gorchymynodd y Milwriad ei ddwyn ef i'r Gwersyll‐dy, gan orchymyn ei holi ef trwy fflangellau, fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly ei erbyn.
25
Ac wedi ei gylymu ar gyfer y fflangell, dywedodd Paul wrth y Canwriad oedd yn sefyll gerllaw, A'i cyfreithlawn i chwi fflangellu dyn sydd Rufeiniwr, ac heb ei gondemnio?
26
A phan glybu y Canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r Milwriad, gan ddywedyd, Beth yr wyt ar fedr ei wneuthur? canys Rhufeiniwr yw y dyn hwn.
27
A'r Milwriad a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniwr wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie.
28
A'r Milwriad a atebodd, A swm mawr y cefais i y ddinas‐fraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, Ond myfi a anwyd iddi.
29
Yn ebrwydd gan hyny y ciliodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef, a'r Milwriad hefyd a ofnodd pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniwr, a'i fod ef wedi ei rwymo.
30
A thranoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod yn sicr am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iuddewon, efe a'i gollyngodd yn rhydd, ac a orchymynodd i'r Arch‐offeiriad a'r holl Sanhedrin ddyfod ynghyd, ac wedi dwyn Paul i waered, efe a'i gosododd ger eu bron.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28