bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 25
Acts 25
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
1
Ffestus gan hyny, wedi dyfod i'r Dalaeth, ar ol tri diwrnod a aeth i fyny i Jerusalem o Cesarea.
2
A'r Arch‐offeiriaid a gwyr blaenaf yr Iuddewon a achwynasant wrtho yn erbyn Paul;
3
ac a ymbiliasant ag ef, gan geisio ffafr yn ei erbyn, fel y danfonai efe am dano ef i Jerusalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.
4
Gan hyny yn wir Ffestus a atebodd fod Paul dan warchodaeth yn Cesarea, a'i fod ef ei hun ar fedr myned ymaith yno ar fyrder.
5
Gan hyny, eb efe, eled y rhai galluog yn eich mysg i waered gyda mi, ac od oes dim yn y gwr allan o le, bydded iddynt ei gyhuddo ef.
6
Ac wedi treulio yn eu plith rai dyddiau, nid mwy nag wyth neu ddeg, efe a aeth i waered i Cesarea, a thranoeth wedi eistedd ar y faingc, efe a orchymynodd ar i Paul gael ei ddwyn gerbron;
7
ac wedi ei ddyfod, yr Iuddewon a ddaethent i waered o Jerusalem a safasant o'i amgylch, gan ddwyn cyhuddiadau, llawer a thrymion, yn ei erbyn, y rhai ni allent eu profi;
8
a Phaul yn ymddiffyn ei hun: Ni phechais i ddim, eb efe, nac yn erbyn Cyfraith yr Iuddewon, nac yn erbyn y Deml, nac yn erbyn Cesar.
9
A Ffestus yn ewyllysio enill ffafr gyda'r Iuddewon, gan ateb i Paul a ddywedodd, A ewyllysi di fyned i fyny i Jerusalem, i'th farnu yno ynghylch y pethau hyn ger fy mron?
10
Eithr Paul a ddywedodd, Ger bron brawd‐faingc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lle y mae yn rhaid i mi gael fy marnu; ni wnaethum i un cam ag Iuddewon, fel yr wyt ti yn dyfod i wybod yn well.
11
Am hyny os wyf yn gwneuthur cam, ac wedi gweithredu dim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr os nad oes dim o'r pethau o'r rhai y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni all neb fy rhoddi i fyny iddynt. At Cesar yr wyf yn apelio.
12
Yna Ffestus, wedi cyd‐ymddyddan a'r Cynghor, a atebodd, At Cesar yr wyt wedi apelio, at Cesar yr ei.
13
A rhai dyddiau wedi myned heibio, Agrippa y brenhin a Bernice a ddaethant i Cesarea, gan gyfarch Ffestus.
14
Ac fel y treulient yno lawer o ddyddiau, Ffestus a osododd o flaen y brenhin achos Paul, gan ddywedyd, Y mae rhyw wr wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor,
15
ynghylch yr hwn, pan yr oeddwn yn Jerusalem, yr achwynodd yr Arch‐offeiriaid a Henuriaid yr Iuddewon, gan ofyn cael dedfryd yn ei erbyn.
16
I'r rhai yr atebais nad yw arfer i Rufeinwyr i roddi i fyny un dyn, nes i'r cyhuddedig gael y cyhuddwyr wyneb yn wyneb, a chael cyfle i wneyd ymddiffyniad ynghylch y cyhuddiad.
17
Gan hyny, wedi dyfod o honynt ynghyd yma, heb wneyd unrhyw oediad, tranoeth mi a eisteddais ar y faingc, ac a orchymynais ddwyn y gwr gerbron: am yr hwn,
18
pan y safodd y cyhuddwyr i fyny, ni ddygasant ddim achwyn o'r pethau drwg yr oeddwn i yn tybied.
19
Ond rhyw gwestiynau ynghylch eu Crefydd eu hunain oedd ganddynt yn ei erbyn, ac ynghylch rhyw Iesu oedd wedi marw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw.
20
A myfi mewn dyryswch ynghylch gwneyd ymchwiliad i'r pethau hyn, a ddywedais, A fynai efe fyned i Jerusalem a'i farnu yno am y pethau hyn.
21
Ond Paul wedi apelio i gael ei gadw i ddyfarniad Augustus, mi a orchymynais ar iddo gael ei gadw nes y danfonwn ef i fyny at Cesar.
22
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Yr oeddwn fy hun hefyd yn ewyllysio clywed y dyn. Y fory, eb efe, y clywi ef.
23
Tranoeth gan hyny, wedi dyfod o Agrippa a Bernice gyda llawer o rwysg, ac wedi myned i mewn o honynt i'r wrandaw‐fa gyda Milwriaid a gwŷr enwog y Ddinas, ac wedi gorchymyn o Ffestus, Paul a ddygwyd gerbron.
24
A Ffestus a ddywed, O Frenhin Agrippa, a chwi wyr oll sydd yn bresenol gyda ni, chwi a welwch hwn, ynghylch yr hwn holl luaws yr Iuddewon a erfyniasant arnaf yn Jerusalem ac yma, gan lefaru na ddylai efe fyw yn hwy.
25
Eithr mi a ganfyddais na wnaeth efe ddim yn haeddu angau; ond gan iddo ef ei hun apelio at Augustus, penderfynais ei anfon:
26
am yr hwn nid oes genyf unryw beth sicr i'w ysgrifenu at fy arglwydd. Am hyny dygais ef yn mlaen ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, O Frenhin Agrippa, fel, wedi i'r holiad gymeryd lle, y bo genyf rywbeth a ysgrifenaf.
27
Canys ymddengys i mi yn afresymol, pan yn danfon carcharor, i beidio arwyddo hefyd y cwynion yn ei erbyn.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28