bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 10
Acts 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
1
A rhyw wr yn Cesarea, o'r enw Cornelius, Canwriad o'r gatrawd a elwid yr Italaidd,
2
gwr duwiol ac yn ofni Duw ynghyd a'i holl dy, yn gwneuthur elusenau lawer i'r bobl, ac yn gweddio ar Dduw yn wastadol,
3
a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.
4
Ac wedi iddo graffu arno a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddiau a'th elusenau a ddaethant i fyny yn goffadwriaeth gerbron Duw.
5
Ac yn awr, anfon wyr i Joppa, a danfon am un Simon, yr hwn a gyfenwir Petr:
6
y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer, ty yr hwn sydd wrth y mor.
7
Ac mor gynted ag yr ymadawodd yr Angel a lefarodd wrtho, efe a alwodd ar ddau o weision ei dy, a milwr duwiol o'r rhai oedd yn glynu wrtho;
8
ac wedi adrodd yr oll iddynt, efe a'u hanfonodd hwynt ymaith i Joppa.
9
A thranoeth, fel yr oeddent hwy yn ymdeithio, ac yn neshâu at y ddinas, Petr a aeth i fyny ar nen y ty i weddio, ynghylch y chweched awr:
10
a daeth arno chwant bwyd, ac a ddymunai fwyta: ond fel yr oeddent yn parotoi, daeth arno lewyg:
11
ac y mae yn gweled y Nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn megys llen‐llian fawr, wedi ei gollwng i lawr wrth ei phedair congl ar y ddaear:
12
yn yr hwn yr oedd holl anifeiliaid pedwar‐troediog ac ymlusgiaid y ddaear, ac ehediaid y nef.
13
A daeth llef ato, Cyfod, Petr, lladd a bwyta.
14
Eithr Petr a ddywedodd, Na wnaf er dim, Arglwydd; canys ni fwyteais erioed ddim cyffredin ac aflan.
15
A daeth llef drachefn, yr ail waith, ato, Yr hyn a lanhaodd Duw, na wna di yn gyffredin.
16
A hyn a wnaed dair gwaith; ac yn ebrwydd y cymerwyd y llestr i fyny i'r nef.
17
Ac fel yr oedd Petr yn petruso yn ddirfawr ynddo ei hun beth a allasai y weledigaeth a welodd fod, wele, y gwyr oedd wedi eu hanfon gan Cornelius, wedi ymofyn am dy Simon, a safasant wrth y porth.
18
Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lletya yno.
19
A Phetr yn dwys ystyried ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Yspryd wrtho, Wele dri o wyr yn dy geisio di.
20
Eithr cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amheu dim: o herwydd myfi sydd wedi eu hanfon hwynt.
21
A Phetr wedi disgyn at y gwyr, a ddywedodd, Wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio: pa beth yw yr achos o herwydd yr hwn yr ydych bresenol?
22
A hwy a ddywedasant, Cornelius, Canwriad, gwr cyfiawn ac yn ofni Duw, a thystiolaeth dda iddo gan holl genedl yr Iuddewon, a gyfarwyddwyd gan Angel sanctaidd i ddanfon am danat ti i'w dy, ac i glywed geiriau genyt.
23
Gan hyny efe a'u gwahoddodd i mewn ac a'u lletyodd. A thranoeth efe a gyfododd, ac a aeth allan gyda hwynt, a rhai o'r brodyr o Joppa a aethant gydag ef.
24
A thranoeth efe a aeth i mewn i Cesarea: ac yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a'i gyfeillion mynwesol.
25
A bu fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a addolodd.
26
Eithr Petr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finau hefyd.
27
A than ymgymdeithasu ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi dyfod ynghyd:
28
ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mor anghyfreithlawn yw i wr o Iuddew ymlynu wrth, neu ddyfod at, un o genedl arall: a Duw a ddangosodd i mi na alwn i neb rhyw ddyn yn gyffredin neu aflan:
29
am hyny, hefyd, yn ddinag y daethum pan anfonwyd am danaf. Yr wyf yn gofyn gan hyny am ba reswm yr anfonasoch am danaf?
30
A Chornelius a ddywedodd, Y pedwerydd diwrnod yn ol, a chyfrif hyd yr awr hon, yr oeddwn yn gweddio ar y nawfed awr yn fy nhy: ac wele, safodd gwr ger fy mron mewn gwisg ddysglaer,
31
a dywed, Cornelius, gwrandâwyd dy weddi, a chofiwyd dy elusenau ger bron Duw.
32
Am hyny anfon i Joppa, a galw yma Simon, yr hwn a gyfenwir Petr; y mae efe yn lletya yn nhy Simon, barcer, ar lan y môr.
33
Yn ddioed gan hyny, myfi a anfonais atat: tithau hefyd a wnaethost yn dda wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, yr ydym ni oll yn bresenol gerbron Duw i wrandaw yr holl bethau sydd wedi eu gorchymyn i ti gan yr Arglwydd.
34
A Phetr a agorodd ei enau ac a ddywedodd, Mewn gwirionedd yr wyf yn canfod nad yw Duw dderbyniwr wyneb:
35
ond yn mhob cenedl yr hwn sydd yn ei ofni ef ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef.
36
Chwi a wyddoch y gair yr hwn a ddanfonodd efe i Feibion Israel, gan efengylu tangnefedd trwy Iesu Grist (efe yw Arglwydd pawb),
37
— chwi a wyddoch y mater a gyhoeddwyd trwy holl Judea, gan ddechreu o Galilea ar ol y Bedydd a bregethodd Ioan:—
38
chwi a wyddoch Iesu o Nazareth, y modd yr eneiniodd Duw ef â'r Yspryd Glân a gallu: yr hwn a aeth trwy y wlad, gan wneuthur daioni ac iachâu pawb oedd wedi eu gormesu gan y Diafol; oblegyd yr oedd Duw gydag ef.
39
Ac yr ydym ni yn dystion o'r holl bethau a wnaeth efe yn ngwlad yr Iuddewon ac yn Jerusalem; yr hwn hefyd a laddasant gan ei grogi ar bren.
40
Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddodd i gael ei wneuthur yn amlwg,
41
nid i'r holl bobl, eithr i dystion a rag‐benodwyd gan Dduw, i ni, y rhai a gyd‐fwytasom ac a gyd‐yfasom gydag ef ar ol ei adgyfodi ef o feirw.
42
Ac efe a orchymynodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu yn eglur mai efe yw yr hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.
43
I hwn y mae yr holl brophwydi yn tystiolaethu, y derbyn pob un a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
44
A thra yr oedd Petr yn llefaru y pethau hyn, syrthiodd yr Yspryd Glân ar bawb, a oedd yn clywed y Gair.
45
A'r rhai o'r Enwaediad a oeddent yn credu a synasant, cynifer ag a ddaethant gyda Phetr, am fod dawn yr Yspryd Glân wedi ei dywallt ar y Cenhedloedd hefyd.
46
Canys yr oeddent yn eu clywed hwy yn llefaru a thafodau, ac yn mawrygu Duw.
47
Yna yr atebodd Petr, A all neb, o bosibl, luddias y Dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd Glân fel ninau?
48
Ac efe a orchymynodd eu bedyddio yn enw Iesu Grist. Yna y gofynasant iddo aros yn mlaen rai dyddiau.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28