bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 12
Acts 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
1
Ac ynghylch y tymhor hwnw y gosododd Herod y Brenhin ei ddwylaw i ddrygu rhai o'r Eglwys.
2
Ac efe a laddodd Iago, brawd Ioan, a'r cleddyf.
3
A phan welodd fod y peth yn boddloni yr Iuddewon, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd. A dyddiau y bara dilefeinllyd oeddynt.
4
Yr hwn hefyd, wedi iddo ei ddal, a osododd efe yn ngharchar, ac a'i traddododd i bedwar gwarchodlu ‐o‐bedwar o filwyr i'w gadw; gan fwriadu ar ol y Pasc ei ddwyn ef allan at y bobl.
5
Gan hyny yn wir Petr oedd yn cael ei wylio yn y carchar: ond gweddi a wnaed yn daer gan yr Eglwys at Dduw am dano ef.
6
A phan oedd Herod ar fedr ei ddwyn ef allan, y noson hono yr oedd Petr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn: ceidwaid hefyd o flaen y drws oeddynt yn gwylio y carchar.
7
Ac wele, Angel yr Arglwydd a safodd yn ymyl, a goleuni a ddysglaeriodd yn y gell: ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i deffrôdd ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys: a'i gadwyni ef a syrthiasant ymaith oddi am ei ddwylaw.
8
A dywed yr Angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac efe a wnaeth felly. A dywed wrtho, Gwisg dy gochl am danat, a chanlyn fi.
9
A chan fyned allan efe a ganlynodd, ac ni wyddai fod yr hyn a wnaethid trwy yr Angel yn wirioneddol, eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.
10
Ac wedi myned heibio y gyntaf wyliadwriaeth a'r ail, hwy a ddaethant at y porth haiarn, yr hwn sydd yn arwain i'r Ddinas, yr hwn a agorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi myned allan, hwy a aethant yn mlaen ar hyd un heol: ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymaith oddiwrtho.
11
A Phetr wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir i'r Arglwydd anfon allan ei Angel, ac a'm cymerodd allan o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iuddewon.
12
Ac wedi iddo amgyffred y peth, efe a ddaeth i dy Mair mam Ioan, yr hwn a gyfenwir Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu ac yn gweddio.
13
Ac wedi iddo guro drws y porth, morwynig a ddaeth i ymwrando o'r enw Rhoda;
14
ac wedi adnabod llais Petr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd, eithr hi a redodd i mewn ac a fynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.
15
Ond hwy a ddywedasant wrthi, Yr wyt yn ynfyd. Hithau a daerodd yn sicr mai felly yr oedd. Ond hwy a ddywedasant, ei angel ef ydyw.
16
A Phetr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agoryd, hwy a'i gwelsant ef ac a synasant.
17
Ac wedi amneidio arnynt â llaw i dewi, efe a adroddodd iddynt y modd y dygodd yr Arglwydd ef allan o'r carchar: dywedodd hefyd, Mynegwch i Iago ac i'r brodyr y pethau hyn. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall.
18
A phan aeth yn ddydd, yr oedd cynhwrf nid bychan yn mhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Petr.
19
A Herod wedi ceisio am dano, ac heb ei gael ef, a holodd y ceidwaid, ac a orchymynodd eu harwain ymaith i farwolaeth. Ac efe a aeth i waered o Judea i Cesarea, ac a arosodd yno.
20
Ac yr oedd efe wedi ymgynddeiriogi yn erbyn y Tyriaid a'r Sidoniaid: ac yn unfryd hwy a ddaethant o'i flaen ef; ac wedi enill ffafr Blastus, ystafellydd y brenhin, hwy a ddeisyfasant heddwch, o herwydd bod eu gwlad yn cael ei hymborth o wlad y brenhin.
21
Ac ar ddiwrnod penodedig, Herod, wedi ymwisgo â gwisg frenhinol, ac wedi eistedd ar y faingc, a areithiodd iddynt.
22
A'r bobl a floeddiasant, Llais Duw ac nid dyn ydyw.
23
Ac yn y man Angel yr Arglwydd a'i tarawodd ef, am na roisai y gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
24
A Gair Duw a gynyddodd ac a amlhawyd.
25
A Barnabas a Saul a ddychwelasant o Jerusalem, wedi cyflawni eu gwasanaeth, gan gymeryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28