bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 15
Acts 15
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
1
A rhai wedi dyfod i waered o Judea a ddysgasant y brodyr: Onid enwaedir chwi yn ol defod Moses, ni ellwch eich hachub.
2
A phan yr oedd ymryson a dadleu nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a drefnasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill o honynt, i fyny i Jerusalem at yr Apostolion a'r Henuriaid, ynghylch y cwestiwn hwn.
3
A hwy, wedi eu hebrwng gan yr Eglwys a dramwyasant trwy Phœnicia a Samaria, gan adrodd yn fanwl droedigaeth y Cenhedloedd; a hwy a barasant lawenydd mawr i'r holl frodyr.
4
Ac wedi cyrhaedd i Jerusalem, hwy a roesawyd gan yr Eglwys a'r Apostolion a'r Henuriaid, a hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt.
5
Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oeddent wedi credu, gan ddywedyd, Y mae yn rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw Cyfraith Moses.
6
A'r Apostolion a'r Henuriaid a ymgynullasant ynghyd i weled ynghylch y pwnc hwn;
7
ac wedi llawer o ymddadleu, Petr a gyfododd ac a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, yr ydych yn gwybod ddarfod i Dduw er y dyddiau cyntefig yn eich plith ddewis i'r Cenhedloedd glywed Gair yr Efengyl trwy fy ngenau a chredu.
8
A Duw, Adnabyddwr calonau, a dystiolaethodd iddynt, gan roddi yr Yspryd Glân, megys ag i ninau;
9
ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan lanhau trwy ffydd eu calonau hwynt.
10
Yn awr gan hyny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i osod iau ar war y Dysgyblion, yr hon nid oedd ein Tadau na ninau yn alluog ei dwyn.
11
Ond trwy ras yr Arglwydd Iesu yr ydym ni yn credu y'n hachubir, yr un modd a hwythau hefyd.
12
A thawodd y lliaws, a gwrandawsant ar Barnabas a Paul yn adrodd pa fath arwyddion a rhyfeddodau a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.
13
Ac ar ol iddynt dewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, O wyr frodyr, gwrandewch arnaf fi:
14
Symeon a adroddodd y modd ar y cyntaf yr ymwelodd Duw i gymeryd o'r Cenhedloedd bobl i'w enw.
15
Ac a hyn y cytuna geiriau y Prophwydi, megys y mae yn ysgrifenedig,
16
Ar ol y pethau hyn y dychwelaf, Ac yr ad‐adeiladaf babell Dafydd, yr hon sydd wedi syrthio; A'i hadfeilion a ad‐adeiladaf, Ac a'i gosodaf hi yn syth i fyny:
17
Fel y byddo i'r gweddill o ddynion geisio yr Arglwydd, A'r holl Genhedloedd ar y rhai y gelwir fy enw, Medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn,
18
y rhai ydynt hyspys o'r dechreuad.
19
Gan hyny, fy marn i yw: Peidio blino y rhai o'r Cenhedloedd sydd yn troi at Dduw;
20
eithr ysgrifenu atynt i ymgadw oddiwrth halogrwydd yr eilunod a godineb, ac oddiwrth y peth a dagwyd, ac oddiwrth waed.
21
Canys y mae gan Moses er Cenhedlaethau Cyntefig yn mhob dinas rai a'i pregethant ef, gan gael ei ddarllen yn y Synagogau bob Sabbath.
22
Yna y gwelwyd yn dda gan yr Apostolion a'r Henuriaid ynghyda'r holl Eglwys, wedi dewis gwyr o'u plith eu hunain, eu danfon i Antioch gyda Phaul a Barnabas, sef Judas yr hwn a gyfenwir Barsabbas, a Silas, blaenoriaid yn mhlith y brodyr;
23
gan ysgrifenu trwy eu llaw hwynt: Yr Apostolion a'r Henuriaid, brodyr, at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antioch a Syria a Cilicia, yn anfon anerch:
24
Yn gymaint a chlywed o honom i rai a aethant allan oddiwrthym ni eich cythryblu chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau, i'r rhai ni roisom orchymyn;
25
ni a welsom yn dda, a dyfod o honom yn unfrydol, wedi dewis gwyr, i'w danfon atoch chwi gyda'n hanwyliaid Barnabas a Paul,
26
gwyr sydd wedi rhoddi fyny eu bywydau ar ran enw ein Harglwydd Iesu Grist.
27
Yr ydym wedi danfon, gan hyny, Judas a Silas, a hwynt‐hwy trwy leferydd ydynt yn mynegu yr un pethau.
28
Canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd Glân a chenym ninau, na ddodid arnoch unrhyw faich mwy na'r pethau anghenrheidiol hyn:
29
Ymgadw oddiwrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a phethau a dagwyd, a godineb: os cedwch eich hunain oddiwrth y pethau hyn, da y gwnewch. Byddwch iach.
30
Gan hyny yn wir, wedi eu gollwng ymaith, hwy a ddaethant i Antioch; ac wedi cynull y lliaws ynghyd, hwy a drosglwyddasant y llythyr;
31
ac wedi ei ddarllen, hwy a lawenychasant am y calondid a gawsant.
32
A Judas a Silas, a hwythau yn brophwydi, trwy lawer o ymadrodd a galonogasant y brodyr, ac a'u cadarnhasant.
33
Ac wedi treulio rhyw amser, hwy a ollyngwyd mewn tangnefedd oddiwrth y brodyr at y rhai a'u danfonasant.
35
A Paul a Barnabas oeddent yn aros yn Antioch, gan ddysgu a phregethu Gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd.
36
Ac wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn ar unwaith ac ymwelwn a'r brodyr yn mhob dinas yn y rhai y cyhoeddasom Air yr Arglwydd, i weled pa fodd y mae arnynt.
37
A Barnabas a fynai gymeryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a elwid Marc.
38
Eithr ni thybiai Paul yn iawn gymeryd gyda hwynt hwnw, yr hwn a wrth‐giliodd oddiwrthynt o Pamphylia, ac nid aeth gyda hwynt i'r gwaith.
39
A chyfododd cweryl llym, fel yr ymwahanasant oddiwrth eu gilydd; a Barnabas wedi cymeryd Marc gydag ef, a fordwyodd i Cyprus;
40
a Paul wedi dewis Silas, a aeth allan, wedi ei gyflwyno i ras yr Arglwydd gan y brodyr.
41
Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhâu yr eglwysi.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28