bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 5
Acts 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
1
Eithr rhyw wr a'i enw Ananias, gyda Sapphira ei wraig, a werthodd feddiant,
2
ac a ddarn‐guddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefyd yn y gyfrinach, ac a ddyg ryw gyfran, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion.
3
Eithr Petr a ddywedodd, Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon di i dwyllo yr Yspryd Glân, ac i ddarn‐guddio peth o werth y tir?
4
Tra yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd dan dy awdurdod di? paham y gosodaist y mater hwn yn dy galon? ni ddywedaist gelwydd wrth ddynion ond wrth Dduw.
5
Ac Ananias, wedi clywed y geiriau hyn a syrthiodd i lawr ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glywsant.
6
A'r gwyr ieuengaf a gyfodasant ac a'i hamdoasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant ef.
7
A bu megys yspaid tair awr, a'i wraig, heb wybod yr hyn oedd wedi dygwydd, a ddaeth i mewn.
8
A Phetr a atebodd iddi, Dywed i mi, ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? A hi a ddywedodd, Ië, er cymaint.
9
A Phetr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy wr di ydynt wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.
10
Ac yn y man hi a syrthiodd i lawr wrth ei draed ef, ac a drengodd. Ac wedi dyfod i mewn, y gwyr ieuainc a'i cawsant hi yn farw, ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a' i claddasant yn ymyl ei gwr.
11
A daeth ofn mawr ar yr holl Eglwys, ac ar bawb a glybu y pethau hyn.
12
A thrwy ddwylaw yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer yn mhlith y bobl, ac yr oeddent oll o un fryd yn Nghyntedd Solomon.
13
Eithr ni feiddiai neb o'r gweddill lynu wrthynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau,
14
ac ychwanegwyd credinwyr yn fwy at yr Arglwydd, lliaws o wyr a gwragedd hefyd;
15
hyd oni ddygent y cleifion hyd y nod i'r prif‐heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel, pan ddelai Petr heibio, y byddai o leiaf i'w gysgod gysgodi rhyw un o honynt.
16
A deuai ynghyd hefyd y lliaws o'r dinasoedd o amgylch Jerusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a'r rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.
17
Eithr yr Arch‐offeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Saduceaid), ac a lanwyd o genfigen,
18
ac a osodasant ddwylaw ar yr Apostolion ac a'i rhoisant yn y carchar cyhoeddus.
19
Ond angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau y carchar, ac a'i dyg hwynt allan, ac a ddywedodd,
20
Ewch, a sefwch a lleferwch yn y Deml wrth y bobl holl eiriau y Bywyd hwn.
21
A phan glywsant hyn, hwy a aethant gyda'r wawr i'r Deml, ac a ddysgasant. Eithr yr Archoffeiriad wedi cyrhaedd, a'r rhai oedd gydag ef, a alwasant ynghyd y Sanhedrin, a holl Senedd plant Israel, ac a ddanfonasant i'r carchardy, i'w dwyn hwy ger bron.
22
Ond pan gyrhaeddodd yr is‐swyddogion, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr wedi dychwelyd hwy a fynegasant, gan ddywedyd,
23
Ni a gawsom y carchar wedi ei gau gyda phob dyogelwch, a'r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau: eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.
24
A phan glybu cadben y Deml a'r Arch‐offeiriaid y geiriau hyn yr oeddent mewn dyryswch yn eu cylch, i ba beth y deuai hyn.
25
Ac fe ddaeth rhyw un, ac a fynegodd iddynt, Wele, y gwyr a ddodasoch chwi yn y carchar, y maent yn y Deml, yn sefyll ac yn dysgu y bobl.
26
Yna y Cadben, gyda'r is‐swyddogion, a aeth ymaith, ac a'u dyg hwy, nid gyda thrais, canys yr oeddent yn ofni y bobl, rhag eu llabyddio.
27
Ac wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen y Sanhedrin. A'r Arch‐offeiriad a ofynodd iddynt, gan ddywedyd,
28
Gorchymynasom i chwi yn bendant na ddysgech yn yr enw hwn: ac wele, yr ydych wedi llanw Jerusalem â'ch dysgeidiaeth, ac yr ydych yn amcanu dwyn gwaed y dyn hwn arnom ni.
29
Eithr Petr a'r Apostolion gan ateb a ddywedasant, Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.
30
Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch â'ch dwylaw eich hunain, gan ei grogi ar bren.
31
Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw yn Dywysog ac Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.
32
Ac yr ydym ni yn dystion o'r pethau hyn, a'r Yspryd Glân, yr hwn a roddes Duw i'r rhai sydd yn ufuddhau iddo.
33
Eithr hwy, wedi clywed hyn, a dorwyd i'r byw, ac a ddymunent eu lladd hwynt.
34
Eithr safodd i fyny yn y Sanhedrin ryw Pharisead, o'r enw Gamaliel, Dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, ac a archodd osod y dynion allan am enyd fechan;
35
ac a ddywedodd wrthynt, Chwi wyr o Israel, edrychwch arnoch chwi eich hunain mewn perthynas i'r dynion hyn, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur.
36
Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un, â'r hwn yr ymunodd rhifedi o wyr, tua phedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a aethant i'r dim.
37
Ar ol hyn y cyfododd Judas y Galilead yn nyddiau y Cofrestriad, ac a drodd bobl ar ei ol: yntau hefyd a ddarfu am dano, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a chwalwyd.
38
Ac yn awr dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: canys os yw y cynghor hwn neu y weithred hon o ddynion, dymchwelir hwynt:
39
ond os o Dduw y mae, ni fyddwch alluog i'w dymchwelyd; rhag eich cael hefyd yn ymladd yn erbyn Duw.
40
A hwy a wrandawsant arno; ac wedi galw yr Apostolion atynt, a'u curo, hwy a orchymynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith.
41
Hwythau yn wir gan hyny a aethant o wydd y Sanhedrin, gan lawenychu am gael eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch ar ran yr Enw.
42
A phob dydd, yn y Deml a chartref, ni pheidiasant a dysgu a phregethu Iesu fel y Crist.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28