bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 13
Acts 13
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
1
Ac yr oedd yn Antioch, yn yr Eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon: Barnabas, a Symeon yr hwn a elwir Niger, a Lucius y Cyreniad, Manaen hefyd, brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Saul.
2
Ac a hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch yn awr i mi Barnabas a Saul i'r gwaith i'r hwn yr wyf wedi eu galw.
3
Yna wedi ymprydio, a gweddio, a dodi eu dwylaw arnynt, hwy a'u gollyngasant ymaith.
4
Hwythau yn wir gan hyny, wedi eu danfon allan gan yr Yspryd Glân, a aethant i waered i Seleucia; ac oddiyno hwy a hwyliasant ymaith i Cyprus.
5
A phan gyrhaeddasant Salamis, hwy a fynegasant Air Duw yn Synagogau yr Iuddewon: ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd fel eu cynorthwywr.
6
Ac wedi myned trwy yr holl ynys hyd Paphos, hwy a gawsant un Magiad, gau‐brophwyd, Iuddew,
7
o'r enw Bar‐Iesu, yr hwn oedd gyda'r Rhaglaw, Sergius Paulus, gwr deallus. Hwn wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd glywed Gair Duw.
8
Eithr Elymas y Magiad (canys felly y cyfieithir ei enw ef) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi y Rhaglaw oddiwrth y Ffydd.
9
Eithr Saul, yr hwn hefyd yw Paul, wedi ei lanw o'r Yspryd Glân, ac wedi edrych yn graff arno,
10
a ddywedodd, O tydi, yn gyflawn o bob twyll ac o bob ystryw, Mab Diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di a gŵyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd?
11
Ac yn awr, wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall, heb weled yr haul am dymhor. Ac yn y man syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, ac efe, gan fyned o amgylch, a geisiodd rai i'w arwain gerfydd ei law.
12
Yna pan welodd y Rhaglaw yr hyn a wnaethid, efe a gredodd, gan ei daro a syndod at ddysgeidiaeth yr Arglwydd.
13
Ac wedi morio ymaith o Paphos, Paul a'r rhai oedd gydag ef a ddaethant i Perga yn Pamphylia: ac Ioan, gan ymadael oddiwrthynt, a ddychwelodd i Jerusalem.
14
Eithr hwy, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antioch yn Pisidia; a hwy a aethant i'r Synagog ar y dydd Sabbath, ac a eisteddasant.
15
Ac ar ol darllen y Gyfraith a'r Prophwydi, Llywodraethwyr y Synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, O wyr Frodyr, os oes genych air o gynghor i'r bobl, traethwch.
16
A Phaul a gyfododd, a chan amneidio a' i law a ddywedodd, O wyr o Israeliaid, a'r rhai sydd yn ofni Duw, gwrandewch:
17
Duw y bobl hyn, Israel, a ddewisodd iddo ei hun ein Tadau, ac a ddyrchafodd y bobl pan yn preswylio yn ngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dygodd efe hwynt allan o honi.
18
Ac ynghylch deugain mlynedd y meithrinodd efe hwynt yn yr Anialwch.
19
Ac wedi iddo ddyfetha saith genedl yn ngwlad Canaan, efe a roddodd eu gwlad iddynt yn etifeddiaeth am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain;
20
ac ar ol y pethau hyn efe a roddodd Farnwyr hyd Samuel y Prophwyd.
21
Ac o'r amser hyny y gofynasant am frenhin, a Duw a roddodd iddynt Saul, mab Cis, gwr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd.
22
Ac wedi iddo ei symud ef, efe a gyfododd Dafydd iddynt i fod yn frenhin; i'r hwn hefyd y tystiolaethodd, ac a ddywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gwr yn ol fy nghalon, yr hwn a wna fy holl ewyllys.
23
O hâd hwn, Duw, yn ol addewid, a ddygodd i Israel Iachawdwr, Iesu;
24
gwedi i Ioan rag‐bregethu, o flaen ei Ddyfodiad ef, Fedydd Edifeirwch i holl bobl Israel.
25
Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pa beth dybiwch chwi wyf fi? nid myfi yw efe; ond wele y mae un yn dyfod ar fy ol i, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddatod esgidiau ei draed.
26
O wyr frodyr, meibion cenedl Abraham, a'r rhai sydd yn eich plith yn ofni Duw, i ni y mae Gair yr Iachawdwriaeth hon wedi ei anfon allan:
27
canys y rhai sydd yn preswylio yn Jerusalem, a'u llywodraethwyr, heb adnabod hwn na lleisiau y Prophwydi, y rhai a ddarllenir bob Sabbath gan ei farnu a' u cyflawnasant.
28
Ac heb gael ynddo achos angeu, hwy a ddeisyfasant ar Pilat ar iddo gael ei ladd.
29
A phan orphenasant bob peth oedd wedi ei ysgrifenu am dano, hwy a'i cymerasant ef i lawr oddiar y pren, ac a'i dodasant ef mewn bedd.
30
Eithr Duw a'i cyfododd ef o feirw;
31
ac efe a welwyd am ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerusalem, y rhai yn awr ydynt ei dystion ef wrth y bobl.
32
Ac yr ydym ni yn pregethu i chwi yr Addewid a wnaethpwyd i'r Tadau,
33
fod Duw wedi ei chyflawni i'n plant, gan gyfodi yr Iesu; fel y mae yn ysgrifenedig yn yr ail Salm, Fy Mab ydwyt ti, Myfi heddyw wyf wedi dy genhedlu (2:7).
34
A'i fod wedi ei gyfodi ef o feirw, ddim mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y mae wedi ddywedyd, Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd a wnaed yn sicr i Dafydd,
35
Oherwydd hefyd y mae yn dywedyd mewn un arall, Ni roddi dy Sanct i weled llygredigaeth (Salm 16:10).
36
Canys Dafydd yn wir, wedi gwasanaethu ei genhedlaeth ei hun yn ol Cynghor Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth.
37
Eithr yr hwn a gyfododd Duw ni welodd lygredigaeth.
38
Am hyny, bydded hyspys i chwi, O wyr frodyr, mai trwy hwn y dadgenir i chwi faddeuant pechodau.
39
Ac oddiwrth yr holl bethau oddiwrth y rhai ni allech yn Nghyfraith Moses gael eich cyfiawnhau, yn hwn, pob un sydd yn credu, a gyfiawnheir,
40
Edrychwch gan hyny na ddel yr hyn a ddywedwyd yn y Prophwydi,
41
Gwelwch, O ddirmygwyr a rhyfeddwch, a diflanwch o'r golwg; Canys yr wyf fi yn gweithredu gweithred yn eich dyddiau; Gweithred na chredwch o gwbl er i un ei dadgan yn llawn i chwi.
42
Ac fel yr oeddent yn myned allan, hwy a atolygasant am i'r geiriau hyn gael eu llefaru wrthynt ar y Sabbath dylynol.
43
A phan ollyngwyd y gynulleidfa, llawer o'r Iuddewon ac o'r Proselytiaid duwiol‐frydig a ganlynasant Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a'u cymhellasant i barhâu yn ngras Duw.
44
A'r Sabbath dyfodol bron yr holl ddinas a gasglwyd ynghyd i wrandaw Gair yr Arglwydd.
45
Eithr yr Iuddewon yn gweled y torfeydd, a lanwyd o eiddigedd, ac a wrth‐ddywedasant y pethau a leferid gan Paul, ac a gablasant.
46
Eithr Paul a Barnabas a lefarasant yn hyf, ac a ddywedasant, Yr oedd anghenrhaid i lefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf. Hefyd, gan eich bod yn ei wthio oddiwrthych, ac yn barnu eich hun yn anheilwng o fywyd tragywyddol, wele, yr ydym ni yn troi at y Cenhedloedd;
47
canys felly y mae yr Arglwydd wedi gorchymyn i ni, Yr wyf wedi dy osod i fod yn oleuni'r Cenhedloedd, Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear. (Es 49:6).
48
A'r Cenhedloedd yn clywed hyn a lawenychasant, ac a ogoneddasant Air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol a gredasant.
49
A Gair yr Arglwydd a ledaenwyd trwy yr holl wlad.
50
A'r Iuddewon a gymhellasant yn mlaen y gwragedd defosiynol o safle anrhydeddus a phrif ddynion y ddinas a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwynt allan o'u terfynau.
51
Ond hwy, wedi ysgwyd ymaith lwch eu traed yn eu herbyn hwynt, a ddaethant i Iconium.
52
A'r dysgyblion a lanwyd o lawenydd ac o'r Yspryd Glân.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28