bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 26
Acts 26
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
1
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Caniateir i ti lefaru am danat dy hun. Yna Paul, gan estyn ei law, a wnaeth ymddiffyniad:
2
Am yr holl bethau o'r rhai y'm cyhuddir gan Iuddewon, O Frenhin Agrippa, tybiwyf fy hun yn ddedwydd pan ar fedr gwneyd ymddiffyniad ger dy fron di heddyw;
3
yn enwedig gan dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau ac hefyd a'r cwestiynau sydd yn mhlith yr Iuddewon; o herwydd paham yr wyf yn deisyf arnat fy ngwrando yn amyneddgar.
4
Fy muchedd yn wir gan hyny o'm mebyd, yr hon fu o'r dechreuad yn mhlith fy nghenedl ac yn Jerusalem, a wyr yr holl Iuddewon,
5
gan fy adwaen o'r blaen o'r cychwyn, os ewyllysiant dystiolaethu, mai yn ol y blaid fanylaf o'n Crefydd y bu'm fyw yn Pharisead.
6
Ac yn awr am obaith yr Addewid a wnaed i'n Tadau gan Dduw yr wyf yn sefyll i' m barnu;
7
i'r hon Addewid y mae ein Deuddeg‐Llwyth, gan wasanaethu Duw mewn dyfalwch nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am y gobaith hwn y'm cyhuddir gan Iuddewon, O Frenhin.
8
Paham y bernir yn anghredadwy yn eich plith chwi os yw Duw yn cyfodi y meirw?
9
Myfi yn wir a dybiais ynof fy hun y dylaswn wneuthur llawer o bethau yn wrthwynebol i Enw Iesu y Nazarëad.
10
Yr hyn hefyd a wnaethum yn Jerusalem: a llawer o'r Saint hefyd a gauais i i fyny mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr Arch‐offeiriaid; a phan yn cael eu rhoddi i farwolaeth, mi a roddais bleidlais yn eu herbyn.
11
A thrwy yr holl Synagogau yn fynych yr oeddwn yn eu cospi, ac yn eu gorfodi i gablu; a chan fod yn ynfyd dros ben yn eu herbyn, yr oeddwn yn eu herlid hyd y nod i ddinasoedd tu allan i'n gwlad.
12
A thra wrth y pethau hyn, a myfi yn myned i Damascus gydag awdurdod a chommissiwn yr Arch‐offeiriaid,
13
ar ganol dydd yn y ffordd y gwelais, O Frenhin, Oleuni o'r Nef, tu hwnt i ddysglaerdeb yr haul, yn dysglaerio o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn myned gyda mi.
14
A phan yr oeddem oll wedi syrthio ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn y briod‐iaith Hebraeg, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Caled i ti wingo yn erbyn y symbylau.
15
A minau a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn ei erlid.
16
Eithr cyfod i fyny, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod yn wâs ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;
17
gan dy wared oddiwrth y Bobl ac oddiwrth y Cenhedloedd, at y rhai yr wyf Fi yn dy anfon di,
18
i agoryd eu llygaid, fel y troant o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran yn mhlith y rhai Sancteiddiedig, trwy ffydd yr hon sydd ynof Fi.
19
O ganlyniad, ni fu'm anufydd i'r weledigaeth nefol:
20
eithr i'r rhai yn Damascus yn gyntaf, a Jerusalem, a thrwy holl wlad Judea, ac i'r Cenhedloedd y traethais y dylent edifarhâu a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch.
21
O achos y pethau hyn, Iuddewon a'm daliasant yn y Deml, ac a geisiasant fy lladd.
22
Am hyny, wedi cael y cymhorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll, gan dystiolaethu i fach a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na'r pethau a ddywedasai y Prophwydi a Moses fel ar fedr dyfod i ben:
23
fod y Crist i ddyoddef, a' i fod Ef y cyntaf, trwy Adgyfodiad y Meirw, i gyhoeddi goleuni i'r Bobl ac i'r Cenhedloedd hefyd.
24
Ac fel yr oedd efe yn y modd hyn yn ymddiffyn ei hun, Ffestus a ddywed a llef uchel, Anmhwyllo ydwyt, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy droi i anmhwylledd.
25
Ond Paul a ddywed, Nid wyf yn anmhwyllo, Ardderchocaf Ffestus, eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu llefaru allan.
26
Canys gŵyr y brenhin am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd yr wyf yn llefaru yn hyf: canys yr wyf yn argyhoeddedig nad oes dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; canys nid mewn congl y gwnaed hyn.
27
A ydwyt yn credu, O Frenhin Agrippa, y Prophwydi? Gwn dy fod yn credu.
28
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Gydag ychydig ti a fynit fy narbwyllo fel i' m gwneuthur i yn Gristion!
29
Eithr Paul a ddywed, Mi a ddymunwn gan Dduw, pa un bynag ai gydag ychydig neu gyda llawer, ddyfod nid yn unig tydi, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrando heddyw, yn gyfryw ag yr wyf fi, ond y rhwymau hyn.
30
A chyfododd y Brenhin, a'r Rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt:
31
ac wedi ymneillduo, llefarasent wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid yw y dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau neu rwymau.
32
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yn rhydd, pe na fuasai iddo apelio at Cesar.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28