bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 7
Acts 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
1
A dywedodd yr Arch‐offeiriad, A ydyw y pethau hyn felly?
2
Ac efe a ddywedodd, O Wyr Frodyr a Thadau, gwrandewch. Duw y Gogoniant a ymddangosodd i'n Tad Abraham pan yn Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Haran,
3
ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o'th wlad, ac oddiwrth dy dylwyth, a dos ymaith i wlad a ddangoswyf i ti.
4
Yna y daeth efe allan o wlad y Caldeaid, ac a breswyliodd yn Haran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, perodd Duw iddo ymfudo i'r wlad hon, yn yr hon yr ydych chwi yn awr yn trigo:
5
ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo, led troed: ac efe a addawodd ei rhoddi iddo i'w meddianu, ac i'w Hâd ar ei ol, pan nad oedd plentyn iddo.
6
A llefarodd Duw fel hyn: Y byddai ei Had ef yn ymdeithydd mewn gwlad ddyeithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant bedwar can mlynedd.
7
A'r genedl i'r hon y byddant gaeth‐weision, a farnaf Fi, medd Duw: ac wedi y pethau hyn y deuant allan, ac a'm gwasanaethant I yn y lle hwn.
8
Ac efe a roddodd iddo Gyfamod yr Enwaediad: ac felly efe a genedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd; ac Isaac, Jacob; a Jacob y Deuddeg Patriarch.
9
A'r Patriarchiaid gan genfigenu wrth Joseph, a'i gwerthasant i'r Aipht: a Duw oedd gydag ef,
10
ac a'i dygodd allan o'i holl orthrymderau, ac a roddodd iddo ffafr a doethineb yn ngolwg Pharaoh, brenhin yr Aipht: ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dy.
11
A daeth newyn dros yr holl Aipht a Chanaan, a gorthrymder mawr: a'n Tadau ni chawsant luniaeth.
12
Ond pan glybu Jacob fod yd i'w gael yno, efe a anfonodd allan ein Tadau i'r Aipht y waith gyntaf.
13
A'r ail waith y gwnaed Joseph yn adnabyddus i'w frodyr: a theulu Joseph a wnaed yn hyspys i Pharaoh.
14
A Joseph a anfonodd, ac a gyrchodd Jacob ei dad, a'i holl dylwyth, yn bymtheg enaid a thri ugain.
15
A Jacob a aeth i waered i'r Aipht, ac a fu farw, efe, a'n Tadau,
16
a hwy a ddygwyd trosodd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er gwerth arian oddiwrth feibion Hamor yn Sichem.
17
Ond fel yr oedd amser yr addewid yn agoshau, yr hon a addawodd Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aipht,
18
hyd nes y cyfododd brenhin gwahanol ar yr Aipht, yr hwn nid adnabu Joseph.
19
Yr hwn, gan ymddwyn yn ddichellgar at ein cenedl ni, a ddrwg‐driniodd ein Tadau, fel i achosi i'w babanod gael eu bwrw allan fel na chedwid hwy yn fyw.
20
Yn y tymhor hwn y ganwyd Moses, ac efe oedd dlws ddigymhar; ac efe a fagwyd dri mis yn nhy ei dad.
21
Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharaoh a'i cymerodd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun.
22
A Moses a addysgwyd yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid; ac yr oedd efe yn alluog yn ei eiriau a'i weithredoedd.
23
A phan yr oedd efe ar gyrhaedd ei ddeugeinfed flwyddyn, daeth i'w galon ef i ymweled a'i frodyr ef, meibion Israel.
24
Ac yn gweled un yn cael cam, efe a amddiffynodd ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro yr Aiphtiwr.
25
Ac yr oedd efe yn tybied fod ei frodyr yn deall fod Duw trwy ei law ef yn rhoddi iddynt ymwared; ond hwy ni ddeallasant.
26
A'r dydd canlynol yr ymddangosodd efe iddynt a hwy yn ymrafaelio, ac a ymdrechodd eu cymodi mewn heddwch, gan ddywedyd, O wyr, brodyr ydych: paham y gwnewch gam â'ch gilydd?
27
Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam a'i gymydog a'i gwthiodd ef ymaith, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?
28
A fyni di fy lladd i, y modd y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe?
29
A Moses a ffôdd ar y gair hwn, ac a fu ymdeithydd yn ngwlad Midian, lle y cenedlodd ddau o feibion.
30
Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, Angel a ymddangosodd iddo yn Anialwch Mynydd Sinai mewn fflam dân mewn perth.
31
A Moses, pan welodd, a ryfeddodd at y weledigaeth: ac efe yn neshâu i sylwi yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd,
32
Myfi yw Duw dy Dadau, Duw Abraham ac Isaac a Jacob. A Moses wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiodd sylwi yn fanwl.
33
A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Datod sandalau dy draed: canys y lle yr wyt yn sefyll arno sydd dir sanctaidd.
34
Gan weled y gwelais ddrwg‐driniaeth fy mhobl sydd yn yr Aipht, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynais i'w gwaredu. Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aipht.
35
Y Moses hwn yr hwn a wadasant, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn Llywodraethwr a Barnwr? hwn y mae Duw wedi ei anfon yn Llywodraethwr ac yn Waredwr gyda llaw yr Angel a ymddangosodd iddo yn y Berth.
36
Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aipht, ac yn y Môr Coch, ac yn yr Anialwch ddeugain mlynedd.
37
Hwn yw y Moses a ddywedodd wrth feibion Israel, Prophwyd a gyfyd Duw i chwi o'ch brodyr, fel myfi.
38
Hwn yw efe a fu yn yr Eglwys yn yr Anialwch gyda yr Angel a ymddiddanodd ag ef yn Mynydd Sinai a chyda ein Tadau; yr hwn a dderbyniodd oraclau bywiol i'w rhoddi i ni:
39
i'r hwn nid ewyllysiai ein Tadau fod yn ufudd, eithr gwthiasant ef ymaith, a throisant yn ol yn eu calonau i'r Aipht,
40
gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau y rhai a ant o'n blaen: canys y Moses hwn, yr hwn a'n harweiniodd ni allan o wlad yr Aipht, ni wyddom ni beth a ddygwyddodd iddo.
41
A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hyny, ac a ddygasant aberth i'r eilun, a llawenychasant yn ngweithredoedd eu dwylaw.
42
A Duw a drôdd, ac a'u rhoddodd hwy i fyny i wasanaethu llu y nef, megys y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr y Prophwydi, A offrymasoch i mi anifeiliaid lladdedig ac aberthau Ddeugain mlynedd yn yr Anialwch, O Dy Israel?
43
A chymerasoch i fyny Dabernacl Moloch, A Seren y duw Rephan, Y lluniau a wnaethoch, i'w haddoli hwynt: A mi a'ch caeth‐gludaf chwi tu hwnt i Babylon.
44
Tabernacl y Dystiolaeth oedd gan ein Tadau yn yr Anialwch, fel y trefnodd yr hwn a ddywedai wrth Moses i'w wneuthur yn ol y portreiad a welsai.
45
Yr hwn hefyd a ddarfu i'n Tadau ni, wedi ei dderbyn yn olynol, ddwyn i mewn gyda Josua, pan yn cymeryd meddiant o diriogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrodd Duw allan o flaen gwyneb ein Tadau, hyd ddyddiau Dafydd;
46
yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ofynodd am gael trigfa i Dduw Jacob.
47
Ond Solomon a adeiladodd iddo Dy.
48
Ond nid yw y Goruchaf yn preswylio mewn tai o waith dwylaw: fel y mae y Prophwyd yn dywedyd,
49
Y Nef yw fy Ngorsedd, A'r Ddaear yw Troedfainc fy nhraed: Pa fath dy a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd: Neu pa beth yw lle fy Nghorphwysfa i?
50
Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?
51
O rai gwar‐galed a dienwaededig o galonau a chlustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu yr Yspryd Glân: megys eich Tadau, felly chwithau.
52
Pa un o'r Prophwydi ni ddarfu i'ch Tadau chwi ei erlid? A lladdasant y rhai a ragfynegasant Ddyfodiad yr Un Cyfiawn, i'r hwn y buoch chwi yn fradwyr a llofruddion;
53
y rhai a dderbyniasoch y Gyfraith fel trefniadau angylion, ac nis cadwasoch.
54
Ac wrth glywed y pethau hyn, hwy a dorwyd i'r byw yn eu calonau, ac a ysgyrnygasant ddanedd arno.
55
Ac o hyd yn gyflawn o'r Yspryd Glân, ac yn edrych yn graff i'r Nef, efe a welodd Ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar Ddeheulaw Duw,
56
ac a ddywedodd, Wele, yr wyf yn gweled y Nefoedd wedi eu llawn‐agoryd, a Mab y Dyn yn sefyll ar Ddeheulaw Duw.
57
Ond hwy a waeddasant â llef uchel, ac a gauasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno,
58
ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r tystion a ddodasant eu llaes‐wisgoedd uchaf wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul.
59
A hwy a labyddiasant Stephan, ac efe yn galw ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy Yspryd.
60
Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi dywedyd hyn, efe a hunodd.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28