bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Acts 28
Acts 28
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
1
Ac wedi dyfod yn ddiangol, yna y gwybuom mai Melita y gelwir yr ynys.
2
A'r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch anghyffredin: canys cyneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll yn roesawgar, o herwydd y gwlaw oedd yn disgyn ac o herwydd yr oerfel.
3
Ond wedi i Paul gasglu ynghyd rhyw lawer o friw‐wydd, a'u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o achos y gwres, ac a lynodd wrth ei law ef.
4
A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, hwy a ddywedasant y naill wrth y llall, Yn ddios llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, er ei ddyfod yn ddyogel o'r môr, Cyfiawnder ni adawodd iddo fyw.
5
Ond efe yn wir gan hyny a ysgydwodd y bwystfil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.
6
Ond yr oeddent hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymwth yn farw: eithr pan oeddent yn hir‐ddisgwyl, ac yn gweled nad oedd dim niwed yn dygwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.
7
Ac o gylch y lle hwnw yr oedd tiroedd yn perthyn i Benaeth yr ynys, o'r enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletyodd dridiau yn garedig.
8
A dygwyddodd fod tâd Publius yn gorwedd yn glaf o dwymyn a gwaedlif: at yr hwn yr aeth Paul i mewn ac y gweddïodd; a chan ddodi ei ddwylaw arno efe a'i hiachâodd.
9
Ac wedi i hyn gymeryd lle, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chlefydau arnynt, a ddaethant ato ac a wellhawyd:
10
y rhai hefyd a'n hanrhydeddasant ni â llawer o anrhydedd, a phan hwyliasom, hwy a osodasant ar y bwrdd y pethau anghenrheidiol.
11
Ac wedi tri mis ni a hwyliasom mewn llong yn perthyn i Alexandria, yr hon oedd wedi gauafu yn yr ynys, arwydd yr hon ydoedd Yr Efylliaid.
12
Ac wedi ein dyfod i Syracus, arosasom yno dridiau.
13
Ac oddiyno wedi myned o amgylch, ni a gyrhaeddasom i Rhegium: ac ar ol un diwrnod cyfododd deheu‐wynt, ac ni a ddaethom yr eil‐ddydd i Puteoli:
14
lle y cawsom frodyr, a'n hanog i aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.
15
Ac oddiyno y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i'n cyfarfod ni mor bell a Marchnad Appius a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd galon.
16
A phan ddaethom i Rufain, caniatawyd i Paul aros wrtho ei hun gyda y milwr oedd yn ei gadw ef.
17
A dygwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ef ynghyd ato ei hun y rhai oedd benaf o'r Iuddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y Bobl na defodau ein Tadau, eto yn garcharor y'm rhoddwyd o Jerusalem i ddwylaw y Rhufeinwyr:
18
y cyfryw, wedi iddynt fy holi, a ewyllysient fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd dim achos angau ynof.
19
Ond yr Iuddewon yn gwrth‐ddywedyd, fe'm gorfodwyd i apelio at Cesar; nid fel petai genyf ddim i gyhuddo fy nghenedl o hono.
20
Am yr achos hwn gan hyny y gwahoddais chwi, i'ch gweled ac i ymddyddan a chwi; canys o herwydd Gobaith Israel yr wyf fi wedi fy rhwymo â'r gadwyn hon.
21
A hwy a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Judea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddiyno ddim drwg am danat di.
22
Ond yr ydym ni yn ei hystyried yn iawn i glywed genyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: canys yn wir am y sect hon, y mae yn hyspys i ni fod yn mhob man ddywedyd yn ei herbyn.
23
Ac wedi iddynt drefnu diwrnod iddo, daeth llawer o honynt ato i'w lety; i'r rhai yr eglurodd efe gan dystiolaethu Teyrnas Dduw, a'u hargyhoeddi ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Moses, ac o'r Prophwydi, o'r bore hyd yr hwyr.
24
A rhai yn wir a argyhoeddwyd gan y pethau a ddywedwyd, a rhai ni chredasant.
25
Ac a hwy yn anghytun a'u gilydd, hwy a ymadawsant, a Phaul yn dywedyd un gair, Da y llefarodd yr Yspryd Glân trwy Esaiah y Prophwyd wrth eich Tadau,
26
gan ddywedyd, Dos at y Bobl hyn, a dywed, Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch o gwbl; A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch o gwbl:
27
Canys brashawyd calon y Bobl hyn, Ac a'u clustiau yn drwm y clywsant, A'u llygaid a gauasant, Rhag canfod o honynt â'u llygaid, A chlywed â'u clustiau, A deall â'u calon, A throi o honynt drachefn, Ac iachâu o honof hwynt.
28
Bydded hyspys i chwi gan hyny fod yr Iachawdwriaeth hon o eiddo Duw wedi ei danfon i'r Cenhedloedd: a hwy a wrandawant.
30
Ac efe a arosodd ddwy flynedd gyfan yn ei dy ardrethol ei hun, ac a roesawodd bawb a oedd yn myned i mewn ato,
31
gan bregethu Teyrnas Dduw, a dysgu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddirwystr.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28