bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 1
Acts 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
1
Yr hanes cyntaf a roddais, Theophilus, am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneuthur a’u dysgu
2
hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny wedi iddo roi gorchmynion drwy’r Ysbryd Glân i’r apostolion a etholasai;
3
iddynt hwy y dangosodd ei hun hefyd yn fyw wedi ei ddioddefaint drwy brofion lawer, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain niwrnod a llefaru’r pethau a oedd am deyrnas. Dduw.
4
Ac wrth gyd-ymgynnull, gorchmynnodd iddynt nad ymadawent o Gaersalem, ond disgwyl addewid y Tad, “a glywsoch,” eb ef, “gennyf fi;
5
canys â dwfr y bedyddiodd Ioan, ond fe’ch bedyddir chwi â’r Ysbryd Glân cyn pen llawer o ddyddiau.”
6
Hwythau felly wedi dyfod ynghyd, gofynnent iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, ai yn yr amser hwn yr adferi’r deyrnas i Israel?”
7
Dywedodd wrthynt, “Nid eiddoch chwi ydyw gwybod amseroedd neu brydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn ei awdurdod ei hun,
8
eithr chwi gewch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddyfod arnoch, a byddwch imi’n dystion yng Nghaersalem ac yn holl Iwdea a Samaria a hyd eithaf y ddaear.”
9
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a hwythau’n edrych, fe’i dygwyd i fyny, a chipiodd cwmwl ef o’u golwg hwynt.
10
Ac fel yr oeddynt yn syllu tua’r nef, ac yntau’n myned, dyna ddau ŵr yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd gwynion,
11
a dywedodd y rhain, “Wŷr Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? Yr Iesu hwn a gymerwyd i fyny oddiwrthych i’r nef, felly y daw, y modd y gwelsoch ef yn myned i’r nef.”
12
Yna dychwelasant i Gaersalem o’r mynydd a elwir Mynydd Olewydd, sydd yn agos i Gaersalem, daith Saboth.
13
Ac wedi iddynt ddyfod yno, aethant i fyny i’r llofft lle’r oeddynt yn aros, Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Phylip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot ac Iwdas fab Iago.
14
Y rhai hyn oll oedd yn dyfal barhau yn unfryd mewn gweddi gyda rhai gwragedd a Mair, mam yr Iesu, a chyda’i frodyr.
15
Ac yn y dyddiau hynny cyfododd Pedr ymysg y brodyr a dywedyd (yr oedd torf o bobl, tua chant ac ugain i gyd),
16
“Frodyr, rhaid oedd cyflawni’r ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân drwy enau Dafydd am Iwdas, a fu’n arweinydd i’r rhai a ddaliodd Iesu;
17
canys cyfrifid ef yn ein plith ni, a digwyddodd iddo’i gyfran o’r swyddogaeth hon.”
18
(Yn awr prynasai hwn gae o’r tâl am ei ddrygwaith, ac wedi ymchwyddo holltodd yn ei ganol, a llifodd ei holl ymysgaroedd allan.
19
A daeth yn hysbys i holl drigolion Caersalem, nes galw’r cae hwnnw yn eu hiaith hwy Aceldama, sef Cae’r Gwaed.)
20
“Canys ysgrifennwyd yn Llyfr y Salmau Eled ei dyddyn yn anghyfannedd ac na bydded a drigo ynddo, ac Cymered arall ei swydd ef.
21
Felly o’r gwŷr a fu’n cydymdaith â ni yr holl amser y bu’r Arglwydd Iesu yn mynd i mewn ac allan yn ein gŵydd,
22
gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddiwrthym, rhaid i un ohonynt ddyfod yn dyst o’i atgyfodiad gyda ni.”
23
A dodasant ddau, Ioseff a enwid Barsabbas, ac a gyfenwid Iwstus, a Mathias.
24
A chan weddïo dywedasant, “Tydi Arglwydd, a ŵyr galonnau pawb, amlyga pwy a ddewisaist, un o’r ddau hyn,
25
i gymryd ei le yn y weinidogaeth hon a’r apostolaeth, y gŵyrodd Iwdas oddiwrthi i fyned i’w le ei hun.”
26
A bwriasant goelbrennau arnynt, a syrthiodd y coelbren ar Fathias, a chyfrifwyd ef gyda’r un apostol ar ddeg.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28