bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 25
Acts 25
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
1
Yn awr, wedi i Ffestus gyrraedd y dalaith, ar ôl tri diwrnod fe aeth i fyny i Gaersalem o Gesarea,
2
a rhoes yr Archoffeiriaid a’r gwŷr blaenaf o’r Iddewon hysbysrwydd iddo yn erbyn Paul,
3
a deisyfent arno gan ofyn, yn ffafr yn erbyn Paul, am iddo anfon amdano i Gaersalem, a hwythau’n gwneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd.
4
Atebodd Ffestus ar hynny fod Paul ynghadw yng Nghesarea, a’i fod ef ei hun yn bwriadu cychwyn ymaith ar fyr.
5
“Felly,” meddai, “deued i lawr gyda mi y rhai sydd ag awdurdod yn eich plith, ac od oes dim allan o’i le yn y gŵr, cyhuddent ef.”
6
Ac wedi iddo dreulio yn eu plith nid mwy nag wyth neu ddeng niwrnod, fe aeth i lawr i Gesarea, a thrannoeth fe eisteddodd ar y frawdle a gorchymyn dwyn Paul ger bron.
7
Ac wedi iddo ddyfod fe safodd yr Iddewon, a ddeuthai i lawr o Gaersalem, o’i amgylch, gan ddwyn yn ei erbyn lawer o achwynion trwm,
8
na allent eu profi, a Phaul yn ateb: “Ni throseddais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon nac yn erbyn y Deml nac yn erbyn Cesar.”
9
Ond gan y dymunai Ffestus osod yr Iddewon dan rwymau iddo, fe atebodd i Baul a dywedyd: “A fynni di fynd i fyny i Gaersalem, ac yno dy farnu ger fy mron i am y pethau hyn?”
10
A dywedodd Paul: “Sefyll yr wyf fi ger bron brawdle Cesar, lle y dylid fy marnu. I’r Iddewon ni wneuthum i ddim drwg, fel y gwyddost ti yn eithaf da.
11
Os troseddwr wyf ac os gwneuthum i ddim yn haeddu marwolaeth, nid wyf yn gwrthod marw; eithr onid oes dim yn yr hyn y cyhudda y rhain fi, ni all neb fy rhoddi o ffafr iddynt. At Gesar yr wyf yn apelio.”
12
Yna, wedi iddo ymddiddan â’r cyngor, fe atebodd Ffestus: “At Gesar yr apeliaist, ger bron Cesar y cei fynd.”
13
Ac wedi i rai dyddiau fyned heibio daeth Agripa, y brenin, a Bernice i lawr i Gesarea, a chyfarch Ffestus.
14
A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, fe roes Ffestus achos Paul ger bron y brenin, gan ddywedyd, “Y mae yma ryw ŵr a adawyd gan Ffelix yn garcharor, a phan
15
ddeuthum i Gaersalem fe roes Archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon hysbysrwydd i mi yn ei gylch, gan ofyn ei gollfarnu.
16
Atebais iddynt nad arfer Rhufeinwyr oedd rhoi o ffafr neb rhyw ddyn hyd oni chaffai’r cyhuddedig ei gyhuddwyr o flaen ei wyneb, a chael cyfle i’w amddiffyn ei hun ynghylch yr achwyniad.
17
Felly deuthant ynghyd yma, a heb oedi dim eisteddais drannoeth ar y frawdle, a gorchmynnais ddwyn y gŵr ger bron.
18
Ond pan safodd ei gyhuddwyr, dim cyhuddiad ni ddygent o’r drygweithredoedd a ddisgwyliwn i;
19
ond rhyw ddadleuon oedd rhyngddynt ac ef ynghylch eu crefydd eu hunain ac ynghylch rhyw Iesu sydd wedi marw, ond y dywedai Paul ei fod yn fyw.
20
A chan fy mod i ’n anghyfarwydd ag ymofyn am y pethau hyn, gofynnais iddo a fynnai fynd i Gaersalem a’i farnu yno amdanynt.
21
Ond gan i Baul apelio am gael ei gadw i’w brofi gan ei Fawrhydi, gorchmynnais ei gadw hyd oni throsglwyddwn ef i Gesar.”
22
Ac ebe Agripa wrth Ffestus, “Carwn glywed y dyn fy hunan,” “Yfory,” eb yntau, “ti gei ei glywed.”
23
Felly drannoeth, wedi i Agripa a Bernice ddyfod yn fawr eu rhwysg, a myned i mewn i’r llys ynghyd â chapteniaid a gwŷr mawr y ddinas, ar orchymyn Ffestus fe ddygwyd Paul ger bron.
24
Ac ebe Ffestus, “Agripa frenin, a chwi wŷr oll sydd yma gyda ni, gwelwch hwnyma; holl liaws yr Iddewon a ddeisyfodd arnaf yn ei gylch yng Nghaersalem ac yma, gan lefain na ddylai gael byw yn hwy.
25
Minnau, canfûm na wnaethai ef ddim yn haeddu marwolaeth; ond gan iddo ef ei hun apelio at ei Fawrhydi, penderfynais ei anfon.
26
Ond nid oes gennyf ddim sicr i’w sgrifennu amdano at fy Arglwydd; gan hynny, dygais ef ymlaen ger eich bron chwi ac yn enwedig ger dy fron di, frenin Agripa, fel wedi cynnal ymholiad y caffwyf beth i’w sgrifennu.
27
Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, heb arwyddo hefyd yr achwynion sydd yn ei erbyn.”
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28