bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 5
Acts 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
1
Ond rhyw ŵr, a’i enw Ananias, ynghyd â’i wraig Saffira, a werthodd eiddo,
2
ac a gadwodd beth o’r tâl, a’i wraig hithau’n gwybod, ac fe ddug gyfran a’i gosod wrth draed yr apostolion.
3
Ond dywedodd Pedr, “Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon i dwyllo’r Ysbryd Glân a chadw peth o’r tâl am y tir?
4
O adael iddo, onid gennyt ti yr arhosai? Ac o’i werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl? Pa fodd y gosodaist dy fryd ar y weithred yma? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw.”
5
Ac wrth glywed y geiriau hyn, syrthiodd Ananias a threngodd; ac aeth ofn mawr ar bawb a glywai.
6
A chyfododd y gwŷr ifainc a’i amdoi, a dygasant ef allan a’i gladdu.
7
A bu ysbaid o ryw deirawr, a daeth ei wraig i mewn, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai.
8
A chyfarchodd Pedr hi, “Dywed wrthyf, ai am hyn a hyn y gwerthasoch y tir?” Dywedodd hithau, “Ie, am hyn a hyn.”
9
Ebe Pedr wrthi, “Paham y cydsyniwyd gennych i brofi Ysbryd yr Arglwydd? Dyma draed y rhai a gladdodd dy ŵr wrth y drws, a dygant dithau allan.”
10
A syrthiodd yn y fan wrth ei draed, a threngodd; ac wedi i’r gwŷr ifainc fynd i mewn cawsant hi’n farw, a dygasant hi allan a’i chladdu gyda’i gŵr.
11
Ac aeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywai am hyn.
12
A thrwy ddwylo’r apostolion gwneid arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; ac yr oeddynt i gyd yn unfryd yng Ngholofnfa Solomon;
13
ond o’r lleill ni feiddiai neb ymlynu wrthynt, eithr mawrygai’r bobl hwynt,
14
a chwanegid fwyfwy rai’n credu yn yr Arglwydd, luoedd o wŷr a gwragedd.
15
Yn wir, dygent y cleifion hyd yn oed allan i’r heolydd a’u gosod ar welyau a matrasau, fel y caffai pe na bai ond cysgod Pedr, wrth fynd heibio, ddisgyn ar rywun ohonynt.
16
Ac ymgynullai hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Caersalem, gan ddwyn cleifion a rhai a flinid gan ysbrydion aflan, ac iacheid hwynt oll.
17
A chyfododd yr archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef, sef sect y Sadwceaid, wedi eu llanw ag eiddigedd,
18
a dodasant eu dwylo ar yr apostolion, a rhoesant hwynt dan warchod cyhoeddus.
19
Ond angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac wedi eu dwyn hwynt allan
20
dywedodd, “Ewch, a sefwch yn y Deml, a lleferwch wrth y bobl yr holl bethau ynglŷn â’r bywyd hwn.”
21
Wedi clywed, aethant tua thoriad dydd i mewn i’r Deml a dechreuasant ddysgu. Wedi i’r archoffeiriad ddyfod, a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Sanhedrin, sef holl gyngor meibion Israel, ac anfonasant i’r carchardy i’w cyrchu hwynt.
22
Ond wedi i’r gweision gyrraedd ni chawsant hwynt yn y carchar, ac wedi dychwelyd mynegasant,
23
gan ddywedyd, “Cawsom y carchardy wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a’r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb i mewn.”
24
A phan glywodd pennaeth y Deml a’r archoffeiriaid y geiriau yma, yr oeddynt mewn penbleth amdanynt beth a ddeuai o hyn.
25
Ond daeth rhywun a mynegodd iddynt, “Dyma’r gwŷr, a ddodasoch yn y carchar, yn y Deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl!”
26
Yna aeth y pennaeth gyda’r gweision, a’u dwyn hwynt, — heb drais, canys ofnent y bobl rhag eu llabyddio;
27
ac wedi eu dwyn gwnaethant iddynt sefyll yn y Sanhedrin. A holodd yr archoffeiriad hwynt,
28
gan ddywedyd, “Rhoesom orchymyn pendant i chwi i beidio â dysgu am yr enw hwn, a dyma chwi wedi llanw Caersalem â’ch dysgeidiaeth, a cheisiwch ddwyn arnom ni waed y dyn hwn.”
29
Ac atebodd Pedr a’r apostolion a dywedyd, “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.
30
Cyfododd Duw ein tadau Iesu, a lofruddiasoch chwi gan ei grogi ar bren;
31
hwn a ddyrchafodd Duw â’i law ddehau yn flaenor ac iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau;
32
ac yr ŷm ni’n dystion o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân, a roddes Duw i’r sawl a ufuddhao iddo.”
33
Pan glywsant hwythau, ffyrnigent a mynnent eu lladd hwynt.
34
Ond cyfododd rhyw Pharisead yn y Sanhedrin a’i enw Gamaliel, athro’r Gyfraith, gŵr parchus gan yr holl bobl, ac archodd roi’r dynion allan am ychydig,
35
a dywedodd wrthynt, “Wŷr Israel, cymerwch ofal am y dynion hyn pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur.
36
Canys cyn y dyddiau hyn cyfododd Thewdas, gan ddywedyd ei fod yn rhywun, ac fe lynodd nifer o ddynion wrtho, ynghylch pedwar cant; a lladdwyd ef, a gwasgarwyd pawb a’i pleidiai, ac aethant yn ddim.
37
Ar ei ôl ef cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r cyfrifiad, a thynnodd bobl ymaith ar ei ôl; darfu amdano yntau hefyd, a chwalwyd pawb a’i pleidiai.
38
Ac yn awr meddaf wrthych, peidiwch â’r dynion hyn a gedwch iddynt; oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn neu’r gwaith hwn, fe’i dymchwelir;
39
eithr os o Dduw y mae, ni ellwch eu dymchwelyd hwynt; fe all y’ch ceir chwi yn ymladd â Duw.”
40
A chytuno ag ef a wnaethant, ac wedi galw’r apostolion a’u fflangellu, gorchmynasant na lefarent am enw’r Iesu, a’u gollwng ymaith.
41
Hwythau, aent i ffwrdd yn llawen o ŵydd y Sanhedrin am eu cyfrif yn deilwng i dderbyn amarch er mwyn yr enw;
42
a phob dydd yn y Deml ac o dŷ i dŷ ni pheidient â dysgu a chyhoeddi’r efengyl am y Crist, Iesu.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28