bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 20
Acts 20
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
1
Ac wedi i’r cythrwfl beidio, danfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog wrth ffarwelio aeth ymaith i gyrchu i Facedonia.
2
Ac wedi myned drwy’r parthau hynny a’u hannog hwynt â llawer gair, daeth i Roeg;
3
ac wedi iddo dreulio tri mis, gan i’r Iddewon wneuthur cynllwyn yn ei erbyn, ac yntau ar fedr hwylio i Syria, daeth i’w feddwl ddychwelyd trwy Facedonia.
4
A chydymdeithiodd ag ef Sopater, mab Pyrrhus, o Ferea, ac o’r Thesaloniaid Aristarchus a Secwndus, a Gaius o Dderbe a Thimotheus, ac o Asia Tychicus a Throffimus.
5
Yr oedd y rhain, wedi iddynt gyrraedd yno, yn aros amdanom yn Nhroas;
6
ninnau, hwyliasom wedi dyddiau’r bara croyw o Philippi, a deuthom atynt i Droas ymhen pum niwrnod, ac yno treuliasom saith niwrnod.
7
Ac ar y dydd cyntaf wedi’r Saboth, a ni wedi ymgynnull i dorri bara, dechreuodd Paul eu hannerch (yr oedd ar fedr mynd ymaith drannoeth), ac estynnodd ei araith hyd ganol nos.
8
Yr oedd lampau ddigon yn y llofft, lle yr oeddem wedi ymgynnull;
9
A rhyw ŵr ifanc, a’i enw Ewtychus, oedd yn eistedd yn y ffenestr, a chysgadrwydd trwm yn ei lethu tra oedd Paul yn llefaru’n faith; ac fe’i gorthrymwyd gan gwsg, a syrthiodd o’r drydedd lofft i lawr, ac fe’i codwyd yn gorff.
10
Ac aeth Paul i lawr, a syrthio arno, ac wedi ymaflyd amdano fe ddywedodd, “Peidiwch â brawychu; canys y mae ei fywyd ynddo.”
11
Ac wedi mynd i fyny a thorri’r bara a’i brofi ac ymddiddan dalm hyd doriad dydd, yna aeth ymaith.
12
A dygasant y llanc yn fyw, ac, fe’u cysurwyd hwynt yn anghyffredin.
13
Aethom ni o’i flaen i’r llong a hwyliasom tuag Assos, gan fwriadu cymryd Paul i fyny oddiyno, canys felly yr oedd ef wedi cyfarwyddo, gan fwriadu myned ei hun dros y tir.
14
A phan ddaeth i gyfarfod â ni yn Assos, cymerasom ef i fyny, a deuthom i Fitylene,
15
ac wedi morio oddiyno drannoeth cyraeddasom gyferbyn â Chios, a thradwy croesi a wnaethom i Samos, a’r dydd wedyn deuthom i Filetus.
16
Canys barnasai Paul yn dda hwylio heibio i Effesus, rhag bod iddo dreulio amser yn Asia; canys brysio yr oedd i fod yng Nghaersalem, os oedd bosibl, erbyn dydd y Sulgwyn.
17
Ond fe ddanfonodd o Filetus i Effesus a galwodd ato henuriaid yr eglwys.
18
A phan gyraeddasant ato, fe ddywedodd wrthynt, “Gwyddoch chwi pa fodd y bûm i gyda chwi yr holl amser o’r diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia,
19
yn gwasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd a dagrau a threialon, y rhai, a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon;
20
y modd nad ateliais ddim a fyddai fuddiol heb ei gyhoeddi i chwi, a’ch dysgu chwi yn gyhoeddus ac o dŷ i dŷ,
21
gan ddwys dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am yr edifeirwch tuagat Dduw a ffydd yn ein Harglwydd, Iesu.
22
Ac yn awr dyma fi, yn rhwym fy ysbryd, yn cyrchu i Gaersalem, heb wybod yr hyn a gyferfydd â mi yno,
23
oddieithr bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu’n groyw i mi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.
24
Ond ni chyfrifaf mo’m bywyd yn werthfawr i mi fy hun, er mwyn gorffen fy rhedegfa a’r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i ddwys dystiolaethu am efengyl gras Duw.
25
Ac yn awr dyma fi’n gwybod na welwch chwi mwyach fy wyneb, chwi oll y bûm i ’n teithio yn eich plith gan gyhoeddi’r deyrnas;
26
felly tystiaf i chwi y dydd heddiw, glân ydwyf oddiwrth waed pawb,
27
canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.
28
Gofelwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y’ch dododd yr Ysbryd Glân chwi yn eu plith yn arolygwyr; bugeiliwch eglwys Dduw a enillodd ef â’i waed ei hun.
29
Gwn i y daw wedi fy ymadawiad fleiddiaid blinderus i’ch plith, nad arbedant y praidd,
30
ac o’ch plith chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws i dynnu’r disgyblion ymaith ar eu hôl.
31
Gan hynny byddwch yn effro, gan gofio na pheidiais dros dair blynedd nos a dydd â rhybuddio pob un gyda dagrau.
32
Ac yr awron cyflwynaf chwi i’r Arglwydd ac i air ei ras, a ddichon adeiladu a rhoddi’r etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a santeiddiwyd.
33
Arian neu aur neu ddillad neb ni chwenychais;
34
gwyddoch chwi eich hunain i’r dwylo hyn wasanaethu i’m rheidiau i ac i’r rhai a oedd gyda mi.
35
Ym mhob peth dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae’n rhaid cynorthwyo’r gweiniaid, a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono, ‘Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.’ ”
36
Ac wedi iddo ddywedyd hyn fe benliniodd, a gweddïodd gyda hwynt oll.
37
Ac wylo llawer a wnaeth pawb, a syrthio ar wddw Paul a’i gusanu,
38
gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai, nad oeddynt mwyach i weled ei wyneb. Ac aethant i’w hebrwng ef i’r llong.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28