bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 21
Acts 21
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
1
Ac wedi i ni ymwahanu oddiwrthynt a chodi hwyl, deuthom ar union hynt i Gôs, a thrannoeth i Rodos, ac oddiyno i Batara;
2
a chawsom long yn croesi i Phoenice, ac aethom arni a chodi hwyl.
3
Ac wedi cael cipolwg ar Gyprus gadawsom hi ar yr aswy, a ni’n hwylio i Syria, a thiriasom yn Nhyrus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho’i chargo.
4
Ac wedi i ni gael y disgyblion arosasom yno saith niwrnod; a hwythau, dywedyd yr oeddynt wrth Baul trwy yr Ysbryd am beidio â rhoi ei droed yng Nghaersalem.
5
Ond wedi i ni orffen y dyddiau, aethom ymaith ar ein taith, a hwynt oll ynghyd â gwragedd a phlant yn ein hebrwng hyd y tu allan i’r ddinas; a phenlinio a wnaethom ar y traeth, a gweddïo,
6
a ffarwelio â’n gilydd; ac aethom ar fwrdd y llong, a hwythau, dychwelasant adref.
7
A chwblhau’r fordaith a wnaethom ninnau, a chyrraedd o Dyrus i Ptolemais; ac wedi i ni gyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt.
8
A thrannoeth aethom ymaith a deuthom i Gesarea; ac aethom i mewn i dŷ Phylip yr efengylwr, un o’r saith, ac arosasom gydag ef.
9
Ac yr oedd gan hwn bedair merch ddibriod, yn proffwydo.
10
Ac a ni’n tario ddyddiau lawer, fe ddaeth un i lawr o Iwdea, proffwyd a’i enw Agabus;
11
ac fe ddaeth atom, a chymryd gwregys Paul, ac wedi iddo rwymo ei draed ei hun a’i ddwylo fe ddywedodd, “Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân — ‘Y gŵr biau y gwregys hwn, fe’i rhwyma’r Iddewon ef yng Nghaersalem, ac fe’i traddodant i ddwylo cenedlddynion.’ ”
12
A phan glywsom hyn, dechreuasom ni a gwŷr y lle ddeisyf nad elai i fyny i Gaersalem.
13
Yna atebodd Paul, “Beth a wnewch, yn wylo ac yn dryllio fy nghalon? Myfi yn wir, parod ydwyf nid yn unig i’m rhwymo ond hyd yn oed i farw yng Nghaersalem er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.”
14
A chan na ellid ei berswadio, tawsom gyda dywedyd, “Ewyllys yr Arglwydd a wneler.”
15
Ac wedi’r dyddiau hynny ymbaratoi a wnaethom, a mynd i fyny i Gaersalem;
16
ac fe aeth rhai o’r disgyblion o Gesarea gyda ni, a’n dwyn i’r tŷ yr oeddem i letya ynddo, tŷ Mnason, gŵr o Gyprus, disgybl o’r dechrau.
17
Ac wedi i ni ddyfod i Gaersalem croeso llawen a gawsom gan y brodyr.
18
A thrannoeth aeth Paul gyda ni at Iago, a deuthai’r holl henuriaid yno.
19
Ac wedi iddo’u cyfarch hwynt, fe adroddai bob yn un ac un y pethau a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.
20
Hwythau, wedi clywed, dechreuasant ogoneddu Duw; a dywedasant wrtho, “Ti weli, frawd, pa sawl myrddiwn y sydd o gredinwyr ymhlith yr Iddewon, ac y maent oll yn selog dros y Gyfraith;
21
a chawsant wybod amdanat ti dy fod yn dysgu gwrthgiliad oddiwrth Foesen i’r holl Iddewon sydd ymysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt am beidio ag enwaedu ar eu plant a rhodio yn ôl eu defodau.
22
Beth amdani, ynteu? Y maent yn siŵr o glywed dy fod wedi dyfod.
23
Gwna, felly, yr hyn a ddywedwn wrthyt. Y mae gennym bedwar gŵr sydd o dan adduned ohonynt eu hunain.
24
Cymer y rhain, ac ymlanha gyda hwynt, a thâl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau, ac fe wybydd pawb nad oes dim yn yr hyn y cawsant ei glywed amdanat, ond dy fod dithau hefyd yn cerdded dan gadw’r Gyfraith.
25
Am y cenedlddynion a gredodd, anfonasom ni atynt gan ordeinio iddynt ymogelyd rhag yr hyn a aberthwyd i ddelwau a rhag gwaed a rhag y peth a dagwyd a rhag anniweirdeb.”
26
Yna fe gymerth Paul y gwŷr, a thrannoeth ymlanhau gyda hwynt a mynd i mewn i’r Deml, i roi rhybudd am orffen dyddiau’r glanhad, sef y dydd pan offrymwyd yr offrwm dros bob un ohonynt.
27
Ond pan oedd y saith niwrnod ar eu dwyn i ben, fe ganfu’r Iddewon o Asia ef yn y Deml, a chynhyrfu’r holl dorf a wnaethant a rhoi eu dwylo arno,
28
gan weiddi, “Wŷr Israel, help! Hwn yw’r dyn sy’n dysgu pawb ym mhobman yn erbyn y Bobl a’r Ddeddf a’r Lle hwn; mwy na hynny, hyd yn oed Groegiaid a ddug ef i mewn i’r Deml, a halogi’r Lle santaidd hwn.”
29
Canys yr oeddynt cyn hynny wedi gweled Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, a meddylient mai i’r Deml yr oedd Paul yn ei ddwyn.
30
A chyffrowyd yr holl ddinas, ac ymdyrru a wnaeth y bobl, ac wedi ymaflyd ym Mhaul fe’i llusgent tu allan i’r deml, ac yn union fe gaewyd y drysau.
31
Ac a hwynt yn ceisio’i ladd ef, aeth gair i fyny at gapten y fintai fod Caersalem oll yn ymderfysgu,
32
a chymerth yntau yn y fan filwyr a chanwriaid, a rhedeg i lawr atynt; hwythau, pan welsant y capten a’r milwyr, peidiasant â churo Paul.
33
Yna fe ddynesodd y capten, ac ymaflyd ym Mhaul, a gorchymyn ei rwymo â dwy gadwyn; a holai pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneuthur.
34
A bloeddient hyn ac arall yn y dyrfa; a chan na allai gael gwybod yn sicr oherwydd y dwndwr gorchmynnodd ei ddwyn i’r castell.
35
A phan ddaeth at y grisiau, bu raid ei gario gan y milwyr oherwydd trais y dyrfa,
36
canys dilynai lliaws y bobl dan weiddi, “Ymaith ag ef!”
37
A phan oedd ar ei ddwyn i mewn i’r castell, fe ddywed Paul wrth y capten, “A gaf fi air gennyt?” Eb yntau, “A fedri di Roeg?
38
Nid tydi felly yw yr Eifftiwr, a gododd derfysg cyn y dyddiau hyn, ac a ddug allan i’r diffeithwch y pedair mil dagerwyr?”
39
Dywedodd Paul, “Gŵr o Iddew wyf fi, o Darsus yng Nghilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac atolwg i ti, caniatâ i mi lefaru wrth y bobl.”
40
Ac wedi iddo ganiatau, safodd Paul ar y grisiau ac amneidiodd â’i law ar y bobl, ac wedi iddo gael distawrwydd mawr fe’u hanerchodd yn yr iaith Hebraeg, gan ddywedyd:
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28