bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 7
Acts 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
1
A dywedodd yr archoffeiriad, “Ai felly y mae’r pethau hyn?”
2
Eb yntau, “Frodyr a thadau, gwrandewch. Ymddangosodd Duw’r gogoniant i’n tad Abraham, ac yntau ym Mesopotamia, cyn iddo ymgartrefu yn Charran,
3
a dywedodd wrtho, ‘Ymadaw â’th wlad a’th gystlwn, a thyred i’r wlad a ddangoswyf iti.’
4
Yna ymadawodd â gwlad y Chaldeaid ac ymgartrefodd yn Charran. Ac oddiyno wedi marw ei dad fe’i symudodd ef i’r wlad hon, y trigwch chwi ynddi yn awr;
5
eto ni roddes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo droedfedd; addo a wnaeth ei rhoddi’n feddiant iddo ac i’w had ar ei ôl ac yntau heb blentyn.
6
A llefarodd Duw fel hyn: ‘Bydd ei had yn ddyfodiaid mewn gwlad ddieithr, a cheithiwant hwynt a’u drygu bedwar can mlynedd;
7
eithr y genedl a wasanaethant hwy, myfi a’i barn,’ medd Duw, ‘ac wedi hynny deuant allan, ac addolant fi yn y lle hwn.’
8
A rhoddes iddo gyfamod enwaediad, ac felly y ganed iddo Isaac ac yr enwaedodd arno yr wythfed dydd, ac i Isaac Iacob, ac i Iacob y deuddeg patriarch.
9
A chenfigennodd y patrieirch wrth Ioseff a gwerthasant ef i’r Aifft; eithr yr oedd Duw gydag ef,
10
ac achubodd ef o’i holl gyfyngderau, a pheri iddo ffafr a doethineb ger bron Pharo, brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn lywodraethwr dros yr Aifft a’i holl dŷ.
11
A daeth newyn dros yr holl Aifft a Chanaan a chyfyngder mawr, ac ni allai ein tadau gael porthiant.
12
Ond wedi i Iacob glywed bod ŷd yn yr Aifft anfonodd ein tadau ni allan y tro cyntaf;
13
a’r ail dro fe’i datguddiodd Ioseff ei hun i’w frodyr, a daeth yn hysbys i Pharo genedl Ioseff.
14
Ac anfonodd Ioseff i alw ato Iacob ei dad a’i holl gystlwn, hyd bymtheng enaid a thrigain,
15
ac aeth Iacob i lawr i’r Aifft. A bu farw ef a’n tadau,
16
a dygwyd hwy drosodd i Sichem a’u gosod yn y bedd a brynasai Abraham am arian gan feibion Emmor yn Sichem.
17
Ac fel yr agoshâi amser yr addewid a ganiatasai Duw i Abraham,
18
cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft, hyd oni chyfododd brenin gwahanol dros yr Aifft, na wyddai ddim am Ioseff.
19
Hwnyma drwy ddichell yn erbyn ein cenedl ni a ddrygodd ein tadau, gan beri diymgeleddu eu babanod fel na byddent byw.
20
A’r pryd hyn y ganed Moesen, a thlws oedd ef gan Dduw; a magwyd ef dri mis yn nhŷ ei dad;
21
ac wedi ei ddiymgeleddu cymerth merch Pharo ef, a’i ddwyn i fyny yn fab iddi ei hun.
22
A hyfforddwyd Moesen yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, a nerthol oedd yn ei eiriau a’i weithredoedd.
23
Ac yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, clywodd ar ei galon ymweled â’ i frodyr, meibion Israel.
24
Ac wrth ganfod un yn cael cam fe’i hamddiffynnodd, a dialodd gam yr hwn a drechid, drwy daro’r Eifftiwr.
25
Tybiai y deallai ei frodyr fod Duw trwyddo ef yn estyn gwaredigaeth iddynt; hwythau, ni ddeallasant.
26
Trannoeth eto yr ymddangosodd iddynt, a hwythau’n ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddywedyd, ‘Wŷr, brodyr ydych! Paham y gwnewch gam â’ch gilydd?’
27
Ond yr hwn a wnâi gam â’i gymydog, fe’i cilgwthiodd gan ddywedyd, ‘Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr drosom ni?
28
Ai fy nifetha innau a fynni di, y modd y difethaist yr Eifftiwr ddoe?’
29
A ffodd Moesen ar y gair hwn, a daeth yn ddyfodiad yng ngwlad Madiam, lle y ganed iddo ddau fab.
30
Ac ymhen deugain mlynedd ymddangosodd iddo yn niffeithwch mynydd Sina angel mewn fflam dân o berth;
31
a Moesen, pan ganfu, bu ryfedd ganddo’r weledigaeth; a phan ddynesodd i edrych, daeth llais yr Arglwydd,
32
‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham ac Isaac ac Iacob,’ Ac aeth dychryn ar Foesen, ac ni feiddiai edrych.
33
A dywedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Datod dy esgidiau oddi am dy draed, canys y man y sefi, tir santaidd yw.
34
Gwelais, do, gwelais ddrygu fy mhobl yn yr Aifft, a’u griddfan a glywais, a disgynnais i’w gwared hwynt; ac yn awr tyred, anfonaf di i’r Aifft.’
35
Y Moesen hwn, a wrthodasent, gan ddywedyd, ‘Pwy a’th osododd di yn lywodraethwr ac yn farnwr?’ hwn a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr trwy law’r angel a ymddangosodd iddo yn y berth.
36
Hwn a’u dug hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aifft ac yn y Môr Coch ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.
37
Hwn yw’r Moesen a ddywedodd wrth feibion Israel, ‘Proffwyd a gyfyd Duw i chwi o blith eich brodyr, yr un modd â minnau.’
38
Hwn, yn y gynulleidfa yn y diffeithwch, a ddaeth rhwng yr angel a lefarai wrtho ar fynydd Sina a’n tadau ni, ac a dderbyniodd eiriau byw i’w rhoddi i chwi;
39
ac ni fynnodd ein tadau ymddarostwng iddo, ond ei gilgwthio a throi o’u calonnau i’r Aifft,
40
gan ddywedyd wrth Aaron, ‘Gwna i ni dduwiau i ymdaith o’n blaen; oblegid y Moesen yma, a’n dug ni allan o’r Aifft, ni wyddom ni beth ddaeth ohono.’
41
A gwnaethant lo yn y dyddiau hynny ac offrwm aberth i’r ddelw, a chaent hwyl ar gynnyrch eu dwylo.
42
A throes Duw, a’u gadael i addoli llu’r ffurfafen, fel y mae’n ysgrifenedig yn Llyfr y Proffwydi: A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau y deugain mlynedd yn y diffeithwch, chwi dŷ Israel?
43
Na, cymerasoch babell Moloch a seren y duw Rhomffa, y llunau a wnaethoch i’w haddoli. Ac alltudiaf innau chwi y tu hwnt i Fabilon.
44
Gyda’n tadau yn y diffeithwch yr oedd y babell dystiolaeth, fel y gorchmynasai yr hwn a lefarai wrth Foesen ei gwneuthur yn ôl y patrwm a welsai; hon,
45
ein tadau ar eu tro a’i dug i mewn gydag Iesu yn ystod goresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, — felly hyd ddyddiau Dafydd.
46
Cafodd ef ffafr ger bron Duw, a cheisiodd gael llunio trigfan i Dduw Iacob.
47
Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo.
48
Eto ni thrig y Goruchaf yng ngwaith llaw; megis y dywed y proffwyd,
49
Y nef sydd orsedd imi, a’r ddaear sydd droedfainc i’m traed; Pa dŷ a adeiledwch i mi, medd yr Arglwydd, neu pa fan fydd fy ngorffwysfa.
50
Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?
51
Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthdaro yn erbyn yr Ysbryd Glân; fel eich tadau, felly chwithau.
52
Pa un o’r proffwydi nas erlidiodd eich tadau? Ie, a lladd y rhai a ragfynegodd am ddyfod y Cyfiawn; a chwithau’n awr, bradychwyr a llofruddion fuoch iddo,
53
chwi a dderbyniodd y ddeddf yn gyfarwyddyd angylion, ac nis cadwasoch.”
54
Wrth glywed y pethau hyn ffyrnigent yn eu calonnau, ac ysgyrnygent eu dannedd arno.
55
Yntau, ac ynddo’r Ysbryd Glân ei lond, syllodd tua’r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu’n sefyll ar ddeheulaw Duw,
56
a dywedodd, “Dyma fi’n cael golwg ar y nefoedd yn agored a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.”
57
Gwaeddasant hwythau â llef uchel, a chau eu clustiau, a rhuthio’n unfryd arno;
58
ac wedi ei fwrw allan o’r ddinas dechreuasant ei labyddio. A dododd y tystion eu dillad wrth draed gŵr ifanc o’r enw Saul.
59
A llabyddient Steffan, ag yntau’n galw ac yn dywedyd, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.”
60
A chan benlinio gwaeddodd â llef uchel, “Arglwydd, na osod yn eu herbyn y pechod hwn.” Ac wedi dywedyd hyn, fe hunodd.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28