bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 6
Acts 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
1
Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Helenistiaid yn erbyn yr Hebreaid am esgeuluso eu gweddwon hwynt yn y ddarpariaeth feunyddiol.
2
A galwodd y deuddeg y lliaws disgyblion atynt, a dywedyd, “Nid da ein bod ni’n gadael gair Duw a gweini wrth fyrddau;
3
edrychwch, frodyr, am saith o wŷr o’ch plith ag iddynt air da, yn llawn ysbryd a doethineb, i ni i’w gosod ar hyn o orchwyl;
4
a ninnau, parhau a wnawn yn ddyfal mewn gweddi ac yng ngwasanaeth y gair.”
5
A bu dda gan yr holl liaws y gair, ac etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd a’r Ysbryd Glân, a Phylip a Phrochorus a Nicanor a Thimon a Pharmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia;
6
y rhain a osodasant ger bron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant eu dwylo arnynt.
7
A chynyddai gair Duw, ac amlhâi nifer y disgyblion yng Nghaersalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ymostyngai i’r ffydd.
8
A Steffan, yn llawn gras a nerth, a wnâi ryfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl.
9
A chyfododd rhai o wŷr Synagog y Libertiniaid a’r Cyreniaid a’r Alecsandriaid (fel y gelwid hi), ac o wŷr Cilicia ac Asia, gan ymddadlau â Steffan;
10
ac ni allent wrthsefyll y doethineb a’r ysbryd y llefarai drwyddo.
11
Yna annos gwŷr a wnaethant i ddywedyd, “Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus am Foesen a Duw.”
12
A chynhyrfu’r bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion a wnaethant, a dyfod arno a’i gipio a’i ddwyn i’r Sanhedrin;
13
gosodasant gau dystion hefyd i ddywedyd, “Ni phaid y dyn yma â llefaru pethau yn erbyn y Lle santaidd hwn a’r Gyfraith;
14
canys clywsom ef yn dywedyd y dymchwelai Iesu’r Nasaread yma y Lle hwn ac y newidiai’r defodau a draddododd Moesen i ni.”
15
A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel petai wyneb angel.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28