bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 28
Acts 28
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
1
Ac wedi i ni ddyfod yn ddiogel y gwybuom mai Melita y gelwid yr ynys. Ac fe ddangosodd
2
y brodorion i ni garedigrwydd anghyffredin; cynnau tân a wnaethant, a’n cymell ni ato oherwydd y glaw a’n goddiweddodd ac oherwydd yr oerfel.
3
Ac fe gasglodd Paul beth wmbredd o danwydd, ac wedi iddo’u dodi ar y tân fe ddaeth gwiber allan gan y gwres, a glynu wrth ei law ef.
4
A phan welodd y brodorion yr anifail ynghrog wrth ei law ef, dywedent wrth ei gilydd, “Yn sicr llofrudd yw’r dyn yma, ac er ei ddyfod yn ddiogel o’r môr ni adodd Cyfiawnder iddo fyw.”
5
Beth bynnag, ysgydwodd yntau’r anifail ymaith i’r tân, ac ni chafodd ddim drwg.
6
Disgwylient hwythau iddo ddechrau chwyddo neu syrthio’n sydyn yn gorff; ond a hwy’n hir ddisgwyl ac yn gweled nad oedd dim neilltuol yn digwydd iddo, newid eu meddwl a wnaethant, a dywedyd ei fod yn dduw.
7
Ac yn y gymdogaeth honno yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Poplius, yr hwn a’n derbyniodd ni ac a’n lletyodd dridiau yn gymwynasgar.
8
A digwyddodd bod tad Poplius yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o gryd a chan waedlif; ac fe ddaeth Paul ato, ac wedi iddo weddïo a dodi ei ddwylo arno fe’i hiachaodd.
9
Ac wedi gwneuthur hyn y lleill hefyd oedd dan afiechyd yn yr ynys a ddeuai ato, ac fe’u meddyginiaethid; hwythau,
10
anrhydeddasant ni ag anrhydeddau lawer, ac wrth i ni gychwyn ymaith fe’n llwythasant ni â phethau ar gyfer ein rheidiau.
11
Ac wedi tri mis cychwynasom ymaith mewn llong a aeafasai yn yr ynys, llong o Alecsandria, a’r Dioscwri yn arwydd arni.
12
Ac wedi i ni dirio yn Syracwsae, arosasom, yno dridiau, ac oddiyno wedi bwrw ymaith deuthom i Regium.
13
Ac ar ôl un diwrnod cododd deheuwynt, a’r ail ddydd deuthom i Bwteoli;
14
yno cawsom frodyr, a dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; ac felly y deuthom i Rufain.
15
Ac wedi i’r brodyr oddiyno glywed amdanom, deuthant i gyfarfod â ni hyd Farchnad Appius a’r Tair Tafarn; a phan welodd Paul hwynt, fe ddiolchodd i Dduw a chymerth galon.
16
A phan aethom i mewn i Rufain, fe ganiatawyd i Baul drigo wrtho’i hun gyda’r milwr oedd yn ei wylied.
17
Ac ar ôl tridiau y galwodd ynghyd y rhai a oedd yno’n flaenaf o’r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd fe ddywedai wrthynt, “Er na wneuthum i, frodyr, ddim yn erbyn y Bobl na defodau’r tadau, fe’m traddodwyd yn garcharor o Gaersalem i ddwylo’r Rhufeinwyr; a hwythau,
18
wedi iddynt fy holi, ewyllysient fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd ddim achos marwolaeth ynof.
19
Ond a’r Iddewon yn dywedyd yn erbyn, fe orfuwyd arnaf apelio at Gesar, nid am fod gennyf, ddim i’w achwyn ar fy nghenedl.
20
O achos hyn, ynteu, y’ch cymhellais chwi i ymweled ac ymddiddan â mi; canys oherwydd gobaith Israel y mae gennyf y gadwyn hon amdanaf.”
21
Dywedasant hwythau wrtho, “Ni dderbyniasom ddim llythyrau amdanat ti o Iwdea, ac ni ddaeth neb o’r brodyr yma i fynegi na llefaru dim sy ddrwg amdanat ti.
22
Ond iawn y tybiwn glywed gennyt ti beth yr wyt yn ei synied, oblegid am y sect hon hysbys yw i ni y dywedir yn ei herbyn ym mhobman.”
23
A phennu diwrnod a wnaethant iddo, a deuthant ato i’w lety yn dyrfa, ac iddynt yr esboniai, gan ddwys dystiolaethu am deyrnas Dduw, a cheisio eu perswadio ynghylch yr Iesu allan o Gyfraith Moesen ac o’r Proffwydi o fore tan hwyr.
24
A rhai a gredai yr hyn a ddywedid, a rhai ni chredent;
25
ac a hwy mewn anghytgord â’i gilydd, ymadael yr oeddynt, a Phaul yn dywedyd un gair: “Gwych y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Esaias y proffwyd wrth eich tadau chwi, gan ddywedyd:
26
Dos at y bobl yma a dywed, Clywch, ie, clywch, ac ni ddeëllwch ddim, a gwelwch, ie, gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;
27
canys brashawyd calon y bobl yma, ac â’u clustiau, trwm y clywsant, a’u llygaid hwynt a gaeasant; rhag byth y canfyddont â’u llygaid, ac â’u clustiau y clywont, ac â’u calon y deallont ac y trônt, ac yr iachawyf hwynt.
28
Bydded hysbys, felly, i chwi mai i’r Cenhedloedd yr anfonwyd yr iechydwriaeth Duw yma; fe wrandawant hwy.”
30
Ac fe arhosodd ddwy flynedd gyfan mewn llety preifat a rentai, ac fe dderbyniai bawb a ddeuai i mewn ato,
31
gan gyhoeddi teyrnas Dduw a dysgu am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28