bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 11
Acts 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
1
A chlywodd yr apostolion a’r brodyr a oedd yn Iwdea dderbyn hyd yn oed o’r cenhedloedd air Duw.
2
A phan aeth Pedr i fyny i Gaersalem, fe ddechreuodd teulu’r enwaediad ymryson ag ef,
3
gan ddywedyd iddo fyned i mewn at wŷr dienwaededig ac iddo fwyta gyda hwynt.
4
Ac fe ddechreuodd Pedr esbonio iddynt o’r bron,
5
gan ddywedyd, “Yr oeddwn i yn ninas Ioppa yn gweddïo, a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr a ollyngid wrth bedair congl o’r nef, a daeth hyd ataf;
6
ac wrth syllu arni dechreuais amgyffred, a gwelais bedwarcarnolion y ddaear a’r bwystfilod a’r ymlusgiaid ac adar y nef;
7
clywais hefyd lef yn dywedyd wrthyf, ‘Cyfod, Pedr; lladd a bwyta.’
8
Ac meddwn i, ‘Na, na, Arglwydd; canys dim cyffredin neu aflan nid aeth erioed i’m genau.’
9
Atebodd eilwaith lef o’r nef, ‘Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.’
10
A hyn a fu deirgwaith, a thynnwyd y cyfan i fyny’n ôl i’r nef.
11
Ac ar unwaith dyna dri gŵr yn dyfod a sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Gesarea ataf.
12
Ac fe ddywedodd yr Ysbryd wrthyf am fyned gyda hwynt heb wahaniaethu ddim. Ac fe aeth gyda ni hefyd y chwe brawd hyn, ac aethom i mewn i dŷ’r gŵr.
13
Ac fe fynegodd i ni pa fodd y gwelsai’r angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dywedyd, ‘Anfon i Ioppa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr,
14
yr hwn a lefara wrthyt bethau y’th achubir di a’th holl deulu drwyddynt.’
15
Ac wrth fy mod yn dechrau llefaru, disgynnodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy, megis arnom ninnau ar y cyntaf.
16
A chofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedai, ‘A dwfr y bedyddiodd Ioan, ond chwi, fe’ch bedyddir â’r Ysbryd Glân.’
17
Os rhoddodd Duw, ynteu, iddynt hwy yr unrhyw ddawn ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu lluddias Duw?”
18
Wedi clywed hyn distewi a wnaethant a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Felly hyd yn oed i’r cenhedloedd y rhoddes Duw yr edifeirwch i fywyd.”
19
Y rhai a wasgarasid, ynteu, oherwydd y cyfyngder a godasai ynglŷn â Steffan, teithiasant hyd Phoenice a Chyprus ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond yn unig wrth Iddewon.
20
Ond yr oedd rhai ohonynt yn wŷr o Gyprus a Chyrene, a hwy, wedi dyfod i Antiochia, dechreuasant lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan draethu’r newydd da am yr Arglwydd Iesu.
21
Ac yr oedd llaw’r Arglwydd gyda hwynt, a nifer mawr a gredasai a droes at yr Arglwydd.
22
A daeth y gair amdanynt i glustiau’r eglwys a oedd yng Nghaersalem, ac anfonasant Farnabas hyd Antiochia;
23
wedi iddo ef gyrraedd a gweled gras Duw, bu lawen ganddo, ac anogai bawb o lwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd;
24
canys yr oedd yn ŵr da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd. A chwanegwyd cryn dyrfa i’r Arglwydd.
25
Ac fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael fe’i dug i Antiochia.
26
Ac am flwyddyn gyfan yr ymgynullasant gyda’r eglwys ac y dysgasant gryn dyrfa, ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion gyntaf yr enw “Cristnogion.”
27
Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Gaersalem i Antiochia.
28
A chyfododd un ohonynt, a’i enw Agabus, ac arwyddo trwy’r Ysbryd fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl fyd — yr hwn a fu yn amser Clawdius.
29
A phenderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt yn ôl ei fodd, anfon at wasanaeth y brodyr a oedd yn trigo yn Iwdea.
30
A hyn a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28