bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 3
Acts 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
1
Yr oedd Pedr ac Ioan yn esgyn i’r Deml erbyn yr awr weddi, y nawfed,
2
ac yr oeddid yn dwyn rhyw ŵr, a oedd gloff o groth ei fam, yr hwn a osodent beunydd wrth ddôr y Deml, a elwid Prydferth, i geisio elusen gan y rhai a gyrchai i’r Deml;
3
pan welodd hwn Bedr ac Ioan ar fynd i mewn i’r Deml, gofynnai am gael elusen.
4
Ac wedi i Bedr syllu arno, ynghyd ag Ioan, fe ddywedodd, “Edrych arnom.”
5
Daliai yntau sylw arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.
6
Ond dywedodd Pedr, “Arian ac aur nid oes gennyf, ond yr hyn sydd gennyf, hynny a roddaf iti; yn enw Iesu Grist y Nasaread, rhodia.”
7
A chan afael ynddo gerfydd ei law ddehau cododd ef; ac yn y fan aeth ei draed a’i fferau’n gadarn,
8
a chan neidio i fyny safodd a dechreuodd gerdded, ac aeth gyda hwynt i mewn i’r Deml, dan rodio a neidio a moli Duw.
9
A gwelodd yr holl bobl ef yn rhodio ac yn moli Duw,
10
ac adwaenent ef mai hwn oedd yr un a eisteddai i elusena wrth Borth Prydferth y Deml, a llannwyd hwynt â braw a syndod am yr hyn a ddigwyddasai iddo.
11
A thra oedd ef yn dal ei afael ym Mhedr ac Ioan rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i’r fan a elwir Colofnfa Solomon, yn frawychedig.
12
A phan welodd Pedr, atebodd i’r bobl, “Wŷr Israel, paham y rhyfeddwch at hyn? A phaham y syllwch arnom ni fel pe trwy ein nerth ni ein hunain neu’n duwioldeb y gwnaethem iddo gerdded?
13
Duw Abraham ac Isaac ac Iacob, Duw ein tadau, a ogoneddodd ei was ef Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi ac a wadasoch ger bron Pilat, wedi i hwnnw benderfynu ei ryddhau.
14
Eithr chwi, gwadasoch y Sant a’r Cyfiawn, a mynasoch roddi i chwi ŵr o lofrudd;
15
awdur bywyd a laddasoch, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, yr hyn yr ŷm ni’n dystion ohono.
16
A thrwy ffydd yn ei enw ef y cadarnhawyd, drwy ei enw, hwnyma, a welwch ac a adwaenoch, a’r ffydd sydd drwyddo ef a roddes iddo lwyr wellhâd fel hyn yn eich gwydd chwi oll.
17
Ac yn awr, frodyr, gwn mai mewn anwybod y gwnaethoch, fel eich llywodraethwyr hwythau;
18
ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau’r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Grist.
19
Edifarhewch, ynteu, a throwch fel y dilëer eich pechodau, fel y delo tymhorau adfywiant oddi ger bron yr Arglwydd
20
ac y danfono’r Crist a ragordeiniwyd i chwi, Iesu,
21
yr hwn y mae’n rhaid i’r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai y llefarodd Duw amdanynt drwy enau ei broffwydi santaidd erioed.
22
Moesen yn un a ddywedodd, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd Dduw i chwi o blith eich brodyr, megis myfi; ef a wrandewch ym mhob peth a lefaro wrthych.
23
A phob enaid na wrandawo’r proffwyd hwnnw a lwyr ddifethir o blith y bobl.
24
A’r holl broffwydi hefyd o Samwel a’r rhai dilynol, cynifer ag a lefarodd, cyhoeddasant hwythau y dyddiau hyn.
25
Chwi yw meibion y proffwydi a’r cyfamod a wnaeth Duw â’ch tadau, pan ddywedodd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau’r ddaear.
26
I chwi’n gyntaf y cyfododd Duw ei was, a’i ddanfon i’ch bendithio drwy eich troi bob un oddiwrth ei ddrygioni.”
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28