bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 4
Acts 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
1
A hwy’n llefaru wrth y bobl daeth yr archoffeiriaid a phennaeth y Deml a’r Sadwceaid arnynt,
2
yn ymboeni am eu bod yn dysgu’r bobl ac yn cyhoeddi ynglŷn â’r Iesu yr atgyfodiad o feirw,
3
a gosodasant eu dwylo arnynt a’u rhoi dan warchod hyd drannoeth; canys yr oedd hi yn awr yn hwyr.
4
Ond llawer o’r rhai a glywsai’r gair a gredodd, ac aeth rhif y gwŷr yn rhyw bum mil.
5
A thrannoeth y bu cyfarfod o’u llywodraethwyr hwynt a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion yng Nghaersalem
6
(a hefyd Annas, yr archoffeiriad, a Chaiaffas ac Ioan ac Alecsander a chynifer ag a oedd o’r teulu archoffeiriadol),
7
ac wedi eu gosod hwynt yn y canol holent, “Ym mha nerth neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?”
8
Yna Pedr, wedi ei lanw â’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, “Lywodraethwyr y bobl a henuriaid,
9
os ŷm ni heddiw ar brawf am gymwynas i ddyn claf, pa fodd y mae hwn yn iach,
10
bydded hysbys i chwi oll ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist y Nasaread, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y saif hwn ger eich bron yn iach.
11
Hwn yw’r maen a ddiystyriwyd gennych chwi yr adeiladwyr, ac a ddaeth yn ben y gongl.
12
Ac nid yw’r Iechydwriaeth yn neb arall, ac nid oes yn wir o dan y nef, wedi ei roi ymhlith dynion, enw arall y mae’n rhaid ein hiacháu drwyddo.”
13
Ac wrth sylwi ar hyfder Pedr ac Ioan, ac wedi deall mai dynion anllythrennog a dinod oeddynt, rhyfeddent; adwaenent hwynt eu bod gyda’r Iesu,
14
ac a hwy’n gweled y dyn a iachawyd yn sefyll gyda hwynt ni allent wrthddwedyd ddim.
15
Ac wedi erchi iddynt fynd allan o’r Sanhedrin, dechreuasant ymgynghori â’i gilydd,
16
gan ddywedyd, “Beth a wnawn i’r dynion hyn? canys amlwg yw i bawb sy’n preswylio yng Nghaersalem ddyfod trwyddynt hwy arwydd hysbys, ac ni allwn ei wadu;
17
eithr rhag ei daenu ymhellach ymhlith y bobl, bygythiwn hwynt nad ydynt i lefaru mwyach am yr enw hwn wrth neb pwy bynnag.”
18
A galwasant hwynt, a’u gorchymyn nad ynganent o gwbl ac na ddysgent am enw’r Iesu.
19
Ond atebodd Pedr ac Ioan iddynt, “Ai iawn yw ger bron Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi;
20
canys ni allwn ni na ddywedom yr hyn a welsom ac a glywsom.”
21
Hwythau, wedi eu bygwth ymhellach, gollyngasant hwynt, heb gael dim modd i’w cosbi hwynt, oherwydd y bobl, canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a ddigwyddasai;
22
canys dros ddeugain mlwydd oed oedd y dyn y gwnaethid yr arwydd iachaol hwn arno.
23
Ac wedi eu gollwng aethant at eu cyfeillion, a mynegasant y cyfan a ddywedodd yr archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt.
24
Hwythau, wedi clywed, codasant yn unfryd lef at Dduw, a dywedasant, “O Benarglwydd, tydi a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a phob peth sydd ynddynt,
25
ti a ddywedodd drwy’r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd, dy was, ein tad ni, Paham yr ymgynddeiriogodd y cenhedloedd, ac y dyfeisiodd y bobloedd bethau ofer?
26
Ymddangosodd brenhinoedd y ddaear, a’r llywodraethwyr a ymgasglodd ynghyd yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Eneiniog ef.
27
Canys ymgasglodd yn wir yn y ddinas hon yn erbyn dy Was santaidd Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat ynghyd â’r cenhedloedd a phobloedd Israel,
28
i wneuthur yr hyn y rhagluniodd dy law a’th gyngor ei ddyfod.
29
Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i’th weision gyda phob hyfder lefaru dy air,
30
tra estynnych di dy law i beri iachâd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy was santaidd, Iesu.”
31
Ac wedi iddynt ymbil, ysgydwyd y lle yr oeddynt wedi ymgasglu, a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a llefarent air Duw yn hy.
32
A’r lliaws o’r rhai a gredodd oedd o un galon ac enaid, ac ni ddywedai undyn fod dim o’i feddiannau yn eiddo iddo, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.
33
Ac â nerth mawr y rhoddes yr apostolion eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll.
34
Ac yn wir nid oedd neb anghenus yn eu plith; canys gwerthai cynifer ag a oedd feddianwyr tiroedd neu dai, a dygent y tâl am yr hyn a werthid,
35
a’i osod wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb, yn ôl fel y byddai ar neb angen.
36
Ioseff, a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (sef, o’i gyfieithu, Mab Anogaeth), Lefiad, Cypriad o enedigaeth,
37
yr hwn bioedd ddarn o dir, a’i gwerthodd, a dug yr arian a’i roddi wrth draed yr apostolion.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28