bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 24
Acts 24
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
Ac wedi pum niwrnod daeth Ananias, yr Archoffeiriad, i lawr gyda rhai henuriaid ac un Tertylus, dadleuydd, a rhoesant hysbysrwydd i’r rhaglaw yn erbyn Paul.
2
Ac wedi ei alw ef ger bron, dechreuodd Tertylus ei gyhuddo gan ddywedyd,
3
“Heddwch mawr a gawn trwot ti, a gwelliannau sydd i’r genedl hon trwy dy ddarbodaeth ym mhob modd ac ym mhob man, a derbyniwn hwynt, ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch.
4
Eithr rhag i mi dy rwystro di ymhellach, yr wyf yn deisyf arnat o’th hynawsedd wrando arnom ar fyr eiriau.
5
Ni gawsom y gŵr yma yn bla, ac yn codi ymrysonau ymhlith yr holl Iddewon trwy’r byd, ac yn ben ar sect y Nasareaid;
6
fe wnaeth gynnig hyd yn oed ar halogi’r Deml,
7
a chymerasom afael ynddo;
8
a thi elli di dy hun, wedi ei holi, gael gwybod ganddo am yr holl bethau hyn y cyhuddwn ni ef amdanynt.”
9
A chyd-ymosododd yr Iddewon hefyd, gan ddywedyd mai felly yr oedd hyn.
10
Ac atebodd Paul, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i lefaru: “Gan wybod dy fod di ers llawer blwyddyn yn farnwr i’r genedl hon, yn hyderus y gwnaf fy amddiffyn amdanaf fy hun,
11
am y gelli wybod nad oes fwy na deuddeng niwrnod er pan euthum i fyny i addoli yng Nghaersalem,
12
ac ni’m cawsant i yn ymddiddan â neb neu yn peri cydfwriad tyrfa nac yn y Deml nac yn y synagogau nac yn y ddinas,
13
ac ni allant roi prawf i ti am y cyhuddiadau a ddygant yn awr yn fy erbyn i.
14
Ond hyn a gyffesaf i ti, mai yn ôl y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr addolaf Dduw ein tadau, gan gredu pob peth sydd yn ôl y Ddeddf ac sy’n ysgrifenedig yn y Proffwydi,
15
a chennyf obaith yn Nuw — yr hyn a dderbyniant hwy eu hunain hefyd — fod atgyfodiad i fod i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.
16
Yn hyn yr wyf finnau hefyd yn ymarfer i fod â chydwybod ddianaf ger bron Duw a dynion yn wastad.
17
Ac ar ôl amryw flynyddoedd i wneuthur elusenau i’m cenedl y deuthum, ac offrymau,
18
ac ynglŷn â’r rhain y’m cawsant i yn y Deml wedi ymlanhau, nid gyda thorf na therfysg;
19
ond rhai Iddewon o Asia, a ddylasai fod yma ger dy fron di i’m cyhuddo i, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn, —
20
neu dyweded y rhain yma pa gamwedd, a gawsant ynof pan sefais ger bron y Sanhedrin,
21
onid am yr un llef honno a waeddais pan safwn yn eu plith, ‘Am atgyfodiad y meirw y’m bernir i heddiw gennych chwi.’ ”
22
Ond gohiriodd Ffelix eu hachos, ac yntau’n gwybod yn lled fanwl am y Ffordd, gan ddywedyd, “Pan ddêl Lysias y capten i lawr, mi benderfynaf eich mater.”
23
A gorchmynnodd i’r canwriad ei gadw, ond cael ohono ysgafnhad, heb rwystro i neb o’r eiddo weini arno.
24
Ac wedi rhai dyddiau fe ddaeth Ffelix gyda Drwsila, ei wraig, yr hon oedd Iddewes, ac fe anfonodd am Baul, ac fe’i gwrandawodd ynghylch y ffydd yng Nghrist Iesu.
25
Ac fel yr oedd yntau yn ymresymu ynghylch cyfiawnder a diweirdeb a’r farn a fyddai, fe ddychrynodd Ffelix ac atebodd, “Ar hyn o bryd dos, ac wedi i mi gael amser cyfleus fe alwaf amdanat.”
26
Yr un pryd gobeithio yr oedd y rhoddid arian iddo gan Baul; oblegid hynny anfonai amdano yn lled fynych, ac ymddiddan ag ef.
27
Ond ymhen ysbaid o ddwy flynedd derbyniodd Ffelix yn olynydd iddo Borcius Ffestus; a chan yr ewyllysiai osod yr Iddewon dan rwymau iddo, gado Paul yn garcharor a wnaeth Ffelix.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28