bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 10
Acts 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
1
A rhyw ŵr yng Nghesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fintai a elwid mintai’r Eidal,
2
gŵr defosiynol, a oedd ynghyd â’i holl deulu yn ofni Duw, un a wnâi elusenau lawer i’r bobl ac a weddïai ar Dduw’n wastadol,
3
gwelodd mewn gweledigaeth yn eglur tua’r nawfed awr o’r dydd angel Duw yn dyfod i mewn ato ac yn dywedyd wrtho, “Cornelius.”
4
Yntau a syllodd arno, a chan frawychu a ddywedodd, “Beth sydd, Arglwydd?” A dywedodd wrtho, “Esgynnodd dy weddïau a’th elusenau yn offrwm coffa ger bron Duw;
5
ac yn awr anfon wŷr i Ioppa a gyr am Simon, un a gyfenwir Pedr;
6
y mae hwn yn lletya gyda rhyw Simon, barcer, sydd â’i dŷ ar lan y môr.”
7
Ac wedi i’r angel a lefarai wrtho ymadael, galwodd ddau o’r gweision tŷ a milwr defosiynol, un o’i weision agos,
8
ac wedi adrodd y cwbl iddynt anfonodd hwynt i Ioppa.
9
A thrannoeth, a’r rhain ar eu taith ac yn dynesu at y ddinas, fe esgynnodd Pedr i ben y tŷ i weddïo tua’r chweched awr.
10
Ac fe aeth yn newynog, a dymunai gael bwyd; ac wrth eu bod yn paratoi daeth arno lewyg,
11
ac y mae’n gweled y nef yn agored a rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr, a ollyngid wrth bedair congl tua’r ddaear;
12
ac ynddo yr oedd holl bedwarcarnolion ac ymlusgiaid y ddaear ac adar y nef.
13
A daeth llef ato, “Cyfod, Pedr, lladd a bwyta.”
14
A dywedodd Pedr, “Na, na, Arglwydd; canys ni fwyteais erioed ddim cyffredin ac aflan;”
15
Ac meddai’r llef drachefn eilwaith wrtho, “Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.”
16
A hyn a fu deirgwaith, ac yna cymerwyd y llestr i fyny i’r nef.
17
Ac fel yr oedd Pedr mewn penbleth ynddo’i hun beth a allai’r weledigaeth a welsai fod, dyma’r gwŷr a anfonwyd gan Gornelius, wedi iddynt ofyn am dŷ Simon, yn dyfod a sefyll yn y cyntedd,
18
ac wedi galw gofynasant a oedd Simon a gyfenwid Pedr yn lletya yno.
19
A thra oedd Pedr yn synfyfyrio ar y weledigaeth dywedodd yr Ysbryd, “Dyma ddau ŵr yn dy geisio;
20
da di, cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt heb amau dim, oherwydd myfi a’u hanfonodd hwynt.”
21
Ac wedi i Bedr ddisgyn at y gwŷr fe ddywedodd, “Dyma fi, yr hwn a geisiwch; beth yw’r achos am eich dyfod?”
22
Dywedasant hwythau, “Cornelius, canwriad, gŵr cyfiawn, sy’n ofni Duw ac sydd â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd oddiuchod gan angel santaidd i ddanfon amdanat i’w dŷ ac i glywed pethau gennyt.”
23
Felly gwahoddodd hwynt i mewn a’u lletya. A thrannoeth cyfododd ac aeth ymaith gyda hwynt, ac aeth rhai o’r brodyr oedd yn Ioppa gydag ef.
24
Ac ail trannoeth aeth i mewn i Gesarea. A Chornelius oedd yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion agos.
25
Ac wedi i Bedr ddyfod i mewn, fe gyfarfu Cornelius ag ef, a syrthio wrth ei draed, a’i addoli.
26
Ond cyfododd Pedr ef, gan ddywedyd, “Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.”
27
Ac aeth i mewn dan ymddiddan ag ef, a chael llawer wedi ymgynnull,
28
ac meddai wrthynt, “Gwyddoch chwi mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymgyfeillach neu ymweled ag estron; eto dangosodd Duw i mi na alwn neb dyn yn gyffredin neu aflan.
29
Am hynny y deuthum yn ddinâg, pan yrrwyd amdanaf. Gofynnaf, felly, paham y gyrasoch amdanaf.”
30
Ac ebe Cornelius, “Pedwar diwrnod i’r awr hon yr oeddwn ar weddi’r nawfed awr yn fy nhŷ, a dyna ŵr yn sefyll ger fy mron mewn gwisg ddisglair,
31
ac medd ef, ‘Cornelius, clywyd dy weddi di a galwyd dy elusenau i gof gan Dduw;
32
anfon, gan hynny, i Ioppa, a galw am Simon, a gyfenwir Pedr; y mae hwnnw’n lletya yn nhŷ Simon, barcer, ar lan y môr.’
33
Felly ar unwaith yr anfonais atat, a thithau, gwelaist yn dda ddyfod. Yn awr, ynteu, yr ŷm i gyd yma ger bron Duw, i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd.”
34
Ac agorodd Pedr ei enau, a dywedodd, “Deallaf yn wir nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb,
35
eithr ym mhob cenedl y neb a’i hofno ef ac a weithredo gyfiawnder, derbyniol yw ganddo.
36
Ei air a anfonodd i feibion Israel, gan gyhoeddi efengyl tangnefedd trwy Iesu Grist; Arglwydd pawb yw ef.
37
Gwyddoch chwi’r hanes a fu drwy holl Iwdea, — i ddechrau, yng Ngalilea wedi’r bedydd a gyhoeddodd Ioan, — am Iesu o Nasareth,
38
y modd yr eneiniodd Duw ef â’r Ysbryd Glân ac â nerth, yr hwn a aeth o gwmpas gan wneuthur daioni ac iacháu pawb a oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef.
39
A ninnau, tystion ydym o’r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon a Chaersalem; a’i ladd a wnaethant, gan ei grogi ar bren.
40
Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, a pheri gallu ei weled,
41
nid gan yr holl bobl ond gan dystion a ragetholasid gan Dduw, nyni, y rhai a fu’n cydfwyta ac yn cydyfed ag ef wedi iddo atgyfodi o feirw.
42
Ac fe orchmynnodd i ni gyhoeddi i’r bobl a dwys dystiolaethu mai hwn a benodwyd gan Dduw yn farnwr byw a meirw.
43
I hwn y tystia’r holl broffwydi, gael o bawb a gredo ynddo faddeuant pechodau trwy ei enw.”
44
A Phedr eto’n llefaru’r pethau hyn, disgynnodd yr Ysbryd Glân ar bawb a glywai’r gair.
45
A synnodd y credinwyr enwaededig, a ddeuthai gyda Phedr, am fod tywallt dawn yr Ysbryd Glân hyd yn oed ar y cenhedloedd;
46
canys clywent hwynt yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna atebodd Pedr,
47
“A all neb warafun y dŵr i fedyddio’r rhai hyn, a gafodd yr Ysbryd Glân fel ninnau?”
48
A gorchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros rai dyddiau.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28