bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 2
Acts 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
1
Ac yn ystod dydd y Pentecost yr oeddynt oll ynghyd gyda’i gilydd,
2
ac fe ddaeth yn sydyn o’r nef drwst megis gwynt cryf yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle’r oeddynt yn eistedd,
3
ac ymddangosodd iddynt yn ymwahanu dafodau megis o dân, ac eisteddodd ar bob un ohonynt,
4
a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill, yn ôl fel y rhoddai’r Ysbryd iddynt ddatgan.
5
Ac yr oedd yng Nghaersalem yn trigo Iddewon, gwŷr duwiol o bob cenedl dan y nef;
6
ac wedi dyfod y sŵn hwn ymgynullodd y lliaws ac ymddrysu, canys clywodd pob un hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun;
7
a synnent a rhyfeddent, gan ddywedyd, “Wel! Onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sy’n llefaru?
8
A pha fodd yr ŷm ni, bob un, yn eu clywed yn ein hiaith ein hunain, yr hon y’n ganed ni ynddi?
9
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid a thrigolion Mesopotamia, Iwdea a Chapadocia, Pontus ac Asia,
10
Phrygia a Phamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Chyrene, a’r ymwelwyr o Rufain, Iddewon a phroselytiaid,
11
Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein tafodau ni am orchestion Duw.”
12
A synnai pawb ac ymgythryblent, gan ddywedyd y naill wrth y is llall, “Beth yw ystyr hyn?”
13
Ond eraill yn wawdlyd a ddywedai, “Llawn ydynt o win newydd.”
14
A safodd Pedr ynghyd â’r un ar ddeg, a chododd ei lais ac anerchodd hwynt, “Wŷr Iwdea, a thrigolion Caersalem oll, bydded hyn hysbys i chwi, a rhowch glust i’m geiriau.
15
Nid yw’r rhain yn wir, fel y tybiwch chwi, yn feddw; canys y drydedd awr o’r dydd yw hi;
16
eithr dyma a ddywedwyd drwy’r proffwyd Ioel,
17
Ac yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o’m hysbryd ar bob cnawd; a phroffwyda’ch meibion a’ch merched, a’ch gwŷr ifainc, gweledigaethau a welant, a’ch hynafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant;
18
hyd yn oed ar fy nghaethweision a’m caethforynion yn y dyddiau hynny y tywalltaf o’m Hysbryd, a phroffwydant.
19
A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion ar y ddaear isod, gwaed a thân a tharth mwg;
20
yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn dyfod dydd yr Arglwydd, y dydd mawr ac amlwg;
21
a phawb a alwo ar enw’r Arglwydd a gedwir.
22
Wŷr Israel, gwrandewch y geiriau hyn; Iesu’r Nasaread, gŵr arddeledig gan Dduw i chwi trwy rymusterau a rhyfeddodau ac arwyddion, a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich mysg, fel y gwyddoch eich hunain, hwn,
23
wedi ei fradychu yn ôl arfaeth osodedig Duw a’i ragwybodaeth, a hoeliasoch chwi drwy law rhai anwir ac a laddasoch;
24
ond cyfododd Duw ef, gan atal gwewyr Angau, oherwydd nid oedd bosibl i hwnnw’i ddal yn ei afael.
25
Canys dywed Dafydd amdano, Gwelwn yr Arglwydd ger fy mron yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgydwer.
26
Am hynny y llawenychodd fy nghalon ac y gorfoleddodd fy nhafod, ie, a’m cnawd hefyd, ar obaith y pabella;
27
canys ni adewi fy enaid yn Hades, ac ni edi i’th sant weled llygredigaeth.
28
Hysbysaist imi ffyrdd bywyd, llenwi fi o lawenydd â’th wyneb.
29
Frodyr, rhydd yw dywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, canys bu farw a chladdwyd ef, ac y mae ei fedd yn ein plith hyd y dydd hwn;
30
ac ef yn broffwyd, ynteu, ac yn gwybod i Dduw dyngu wrtho ar lw y gosodai o ffrwyth ei lwynau ar ei orsedd,
31
gan ragweled llefarodd am atgyfodiad y Crist, nis gadawyd ef yn Hades ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.
32
Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, peth yr ydym ni oll yn dystion ohono.
33
Felly, wedi ei ddyrchafu â deheulaw Duw ac wedi cael yr addewid am yr Ysbryd Glân gan y Tad, tywalltodd y peth hwn a welwch chwi ac a glywch.
34
Canys nid Dafydd a esgynnodd i’r nefoedd, ond dywed ef ei hun, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw
35
hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed.
36
Gwybydded yn sicr, felly, holl dŷ Israel i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”
37
Wedi iddynt glywed, dwysbigwyd eu calon, a dywedasant wrth Bedr a’r lleill o’r apostolion, “Beth a wnawn, frodyr?”
38
Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, a chwi gewch yr Ysbryd Glân yn rhodd;
39
canys i chwi y mae’r addewid ac i’ch plant ac i bawb y sydd ymhell, gynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato.”
40
Ac â geiriau eraill yn ychwaneg y dwys dystiolaethodd, ac anogai hwynt gan ddywedyd, “Dihengwch rhag y genhedlaeth ŵyrgam hon.”
41
Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd yn y dydd hwnnw tua thair mil o eneidiau.
42
Ac yr oeddynt yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn nhorri’r bara ac yn y gweddïau.
43
A deuai ar bob enaid ofn, a rhyfeddodau ac arwyddion lawer a wneid drwy’r apostolion.
44
Ac i bawb gyda’i gilydd a gredodd yr oedd popeth yn gyffredin,
45
a gwerthent eu meddiannau a’u heiddo, a’u rhannu rhwng pawb yn ôl fel y byddai ar neb angen;
46
a beunydd gan ddyfalbarhau yn unfryd yn y Deml, a thorri bara o dŷ i dŷ, y cyfranogent o’r lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon,
47
gan foli Duw a chael ffafr gan yr holl bobl. A chwanegai’r Arglwydd beunydd y rhai oedd yn cael eu cadw, bawb at ei gilydd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28