bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 12
Acts 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
1
A’r pryd hynny y dododd Herod y brenin ei ddwylo i ddrygu rhai o aelodau’r eglwys.
2
Ac fe laddodd Iago, brawd Ioan, â’r cleddyf.
3
A phan welodd mai da oedd gan yr Iddewon, aeth rhagddo a dal Pedr hefyd. (Dyddiau’r bara croyw oedd hi.)
4
Ac wedi ei ddal fe’i dododd yng ngharchar, a’i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i’w warchod, gan arofun wedi’r Pasg ei ddwyn ymlaen yng ngŵydd y bobl.
5
Felly yr oedd Pedr dan warchod yn y carchar; ond gweddïo a wnâi’r eglwys yn ddyfal ar Dduw er ei fwyn.
6
A phan oedd Herod ar fedr ei ddwyn ger bron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws oedd yn gwarchod y carchar.
7
A dyna angel yr Arglwydd yn dyfod a sefyll, a goleuni a ddisgleiriodd yn y gell; a chan daro ystlys Pedr fe’i deffrôdd, gan ddywedyd, “Cyfod ar frys;” a syrthiodd ei gadwyni oddiar ei ddwylo.
8
A dywedodd yr angel wrtho, “Ymwregysa a dod dy sandalau amdanat;” ac fe wnaeth felly. Ac eb ef wrtho, “Bwrw dy fantell amdanat, a chanlyn fi.”
9
Ac aeth allan a’i ganlyn; ac ni wyddai mai gwir oedd yr hyn a wneid gan yr angel, eithr tybiai mai gweledigaeth a welai.
10
Ac aethant heibio i’r wyliadwriaeth gyntaf a’r ail, a dyfod at y porth haearn a oedd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a agorodd iddynt ohono’i hun; ac aethant allan a mynd rhagddynt ar hyd un heol; yna’n ebrwydd aeth yr angel ymaith oddiwrtho.
11
A daeth Pedr ato’i hun, a dywedyd, “Yn awr gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i o law Herod ac o’r cwbl a ddisgwyliai pobl yr Iddewon.”
12
Ac wedi iddo ddeall aeth i dŷ Mair, mam Ioan a gyfenwid Marc, lle yr oedd cryn nifer wedi ymgasglu ac yn gweddïo.
13
Ac wedi iddo guro wrth ddrws y porth, daeth morwyn, a’i henw Rhoda, i’w ateb;
14
a phan adnabu lais Pedr nid agorodd y porth gan lawenydd, eithr rhedodd i mewn a mynegi bod Pedr yn sefyll o flaen y porth.
15
Hwythau, dywedasant wrthi, “Yr wyt yn ynfyd.” Ond taeru a wnâi hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, “Ei angel yw.”
16
Daliai Pedr ati i guro; ac wedi agor gwelsant ef, a synasant.
17
Ac wedi iddo amneidio arnynt â’i law i dewi, fe adroddodd iddynt pa fodd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar; ac fe ddywedodd, “Mynegwch hyn i Iago a’r brodyr.” Ac aeth ymaith a chyrchu i le arall.
18
Ac wedi iddi fynd yn ddydd yr oedd cyffro nid bychan ymhlith y milwyr, beth tybed a ddeuthai o Bedr.
19
Ac wedi i Herod ei geisio a bod heb ei gael, cwestiynodd y gwylwyr a gorchmynnodd fynd â hwynt i’w lladd; ac aeth i lawr o Iwdea i Cesarea, a thario yno.
20
Ac yr oedd iddo chwerw ymryson â phobl Tyrus a Sidon; a deuthant hwythau’n, unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, gwas ystafell y brenin, ceisient heddwch am fod i’w gwlad hwynt ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
21
Ac ar ddiwrnod penodedig eisteddodd Herod ar ei orsedd, a gwisg frenhinol amdano, a dechreuodd areithio wrthynt;
22
a bloeddiai’r bobl, “Llais duw ydyw, nid llais dyn.”
23
Ac yn y fan fe drawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw; ac fe’i hyswyd gan bryfed, a threngodd.
24
A gair yr Arglwydd oedd yn cynyddu ac yn amlhau.
25
Ac fe ddychwelodd Barnabas a Saul o Gaersalem wedi iddynt gyflawni eu swydd, gan gymryd gyda hwynt Ioan, a gyfenwid Marc.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28