bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 16
Acts 16
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
1
Cyrhaeddodd hefyd hyd Dderbe a Lystra; a dyna ddisgybl yno, a’i enw Timotheus, mab i wraig o Iddewes grediniol, a’i dad yn Roegwr;
2
a châi air da gan y brodyr yn Lystra ac Iconium.
3
Dymunodd Paul i hwn fynd ymaith gydag ef, a chymerth ef, ac enwaedu arno o achos yr Iddewon a oedd yn y lleoedd hynny; canys gwyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad.
4
Ac wrth deithio trwy’r dinasoedd, cyflwynent i’r bobl i’w cadw y gorchmynion a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem.
5
Ymgryfhau, ynteu, a wnâi’r eglwysi yn y ffydd, a mynd fwyfwy eu rhif beunydd.
6
A hwythau, aethant trwy wlad Phrygia a Galatia, wedi gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân lefaru’r gair yn Asia,
7
ac wedi dyfod hyd at Fysia ceisient gyrchu Bithynia, ond ni adodd ysbryd Iesu iddynt.
8
Ac aethant heibio i Fysia, a dyfod i lawr i Droas.
9
Ac ymddangosodd gweledigaeth i Baul liw nos, — rhyw ŵr o Facedonia oedd yn sefyll ac yn deisyf arno ac yn dywedyd, “Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni.”
10
A phan ganfu’r weledigaeth, yn ebrwydd ceisiasom fynd ymaith i Facedonia, gan gasglu bod inni wŷs oddiwrth Dduw i bregethu’r newydd da iddynt.
11
Wedi hwylio, ynteu, o Droas, aethom ar union hynt i Samothrace, a thrannoeth i Nea Polis,
12
ac oddiyno i Philippi; hon yw dinas bennaf rhanbarth Macedonia, a threfedigaeth Rufeinig. Buom yn y ddinas hon yn treulio rhai dyddiau.
13
Ac ar ddydd Saboth aethom tu allan i’r porth i lan yr afon, lle y tybiem fod Lle Gweddi; ac wedi eistedd, dechrau llefaru wrth y gwragedd a ddeuthai ynghyd.
14
A rhyw wraig, a’i henw Lydia, un a werthai borffor, o ddinas Thyatira, ac a addolai Dduw, oedd yn gwrando; ac agorodd yr Arglwydd galon hon i ddal ar yr hyn a leferid gan Baul.
15
Ac wedi ei bedyddio, hi a’i theulu, cymhellodd ni, gan ddywedyd, “Os barnasoch fod gennyf ffydd yn yr Arglwydd, dowch i mewn, ac arhoswch yn fy nhŷ i.” A hi orfu arnom.
16
A digwyddodd, a ni’n cyrchu at y Lle Gweddi, i ryw eneth gyfarfod â ni, a chanddi ysbryd taflu llais, yr hon a ddygai i’w meistriaid fusnes fawr trwy ddarogan.
17
Canlynai hon Baul a ninnau, a gwaeddai gan ddywedyd, “Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, a mynegant i chwi ffordd iechydwriaeth.”
18
A hyn a wnâi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul, wedi llwyr flino, a droes, a dywedyd wrth yr ysbryd, “Gorchmynnai i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan ohoni.” A daeth allan ar un waith.
19
A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu busnes ymaith, daliasant Baul a Silas a’u llusgo i’r farchnadfa ger bron yr awdurdodau;
20
ac wedi eu dwyn o flaen yr ynadon, dywedasant, “Y mae’r dynion hyn yn llwyr gythryblu ein dinas ni; Iddewon ydynt,
21
a chyhoeddant ddefodau nad yw rydd i ni, sydd Rufeinwyr, eu derbyn na’u gwneuthur.”
22
A chyfododd y dyrfa gyda’i gilydd yn eu herbyn, ac wedi peri rhwygo’u dillad gorchmynnai’r ynadon eu gwialenodio;
23
ac wedi rhoi ergydion lawer iddynt bwriasant hwynt yng ngharchar, gan erchi i geidwad y carchar eu cadw yn ddiogel;
24
hwnnw, wedi derbyn gorchymyn felly, bwriodd hwynt i’r carchar nesaf i mewn, a sicrhau eu traed yn y cyffion.
25
Eithr tua hanner nos yr, oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a’r carcharorion yn gwrando arnynt;
26
ac yn ddisymwth bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau’r carchar, ac agorodd yr holl ddrysau yn y fan, a datodwyd rhwymau pawb.
27
A deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau’r carchar yn agored tynnodd ei gleddyf, ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybied ffoi o’r carcharorion.
28
Ond llefodd Paul â llef uchel, gan ddywedyd, “Na wna ddim drwg i ti dy hun, canys yr ydym yma i gyd.”
29
Ac wedi gofyn am olau, rhuthrodd i mewn, a syrthiodd yn ddychrynedig ger bron Paul a Silas;
30
ac wedi eu dwyn hwynt allan, eb ef, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneuthur, i’m cadw?”
31
Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe’th gedwir, ti a’th deulu.”
32
A thraethasant air Duw iddo ef ynghyd â phawb a oedd yn ei dŷ.
33
Ac fe’u cymerth hwynt yr amser hynny o’r nôs, a golchodd eu briwiau, ac fe’i bedyddiwyd ef a phawb o’r eiddo, yn y fan;
34
ac wedi eu dwyn hwynt i fyny i’w dŷ rhoddes ford o’u blaen, a gorfoleddodd gyda’i holl deulu am ei fod yn credu yn Nuw.
35
Ac wedi ei dyfod yn ddydd anfonodd yr ynadon y rhingylliaid, a dywedyd, “Gollyngwch y dynion hyn.”
36
A mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Baul: “Anfonodd yr ynadon i’ch gollwng chwi; yn awr, ynteu, dowch ymaith, ac ewch mewn tangnefedd.”
37
Ac ebe Paul wrthynt, “Fflangellasant ni ar gyhoedd heb ein barnu, a ninnau’n Rhufeinwyr, a bwriasant ni yng ngharchar; ac yn awr y maent am ein bwrw ni allan yn ddirgel, aie? Nage’n wir! Eithr deuent hwy eu hunain, a’n dwyn ni allan.”
38
A mynegodd y rhingylliaid y geiriau hyn i’r ynadon; ac ofnasant pan glywsant mai Rhufeinwyr oeddynt;
39
a deuthant a deisyfu arnynt, ac wedi eu dwyn hwynt allan gofynasant iddynt fynd ymaith o’r ddinas.
40
Ac wedi dyfod allan o’r carchar aethant i mewn i dŷ Lydia; a gwelsant y brodyr, a’u hannog; ac aethant ymaith.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28