bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 17
Acts 17
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
1
Wedi iddynt deithio trwy Amffipolis ac Apolonia, deuthant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon.
2
Ac yn ôl arfer Paul fe aeth i mewn atynt, ac am dri Saboth anerchodd hwynt allan o’r ysgrythurau,
3
gan esbonio a dyfynnu profion bod yn rhaid i’r Crist ddioddef a chyfodi o feirw, ac mai “dyma’r Crist, — yr Iesu a gyhoeddaf fi i chwi.”
4
A chredodd rhai ohonynt a bwrw eu coelbren gyda Phaul a Silas, — o’r Groegiaid a addolai Dduw liaws mawr, ac o’r gwragedd blaenaf nid ychydig.
5
Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dyhirod o blith segurwyr y sgwâr a chasglu torf, peri terfysg a wnaent yn y ddinas; ac ymosodasant ar dŷ Iason, a cheisio eu dwyn hwynt allan ger bron y bobl.
6
A phan nas cawsant hwynt dechreuasant lusgo Iason a rhai brodyr o flaen y Politarchiaid, gan lefain, “Y rhain, a droes y byd wyneb i waered, yma hefyd y deuthant,
7
a rhoes Iason lety iddynt; a’r rhain i gyd, ymddygant yn groes i ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd mai un arall, Iesu, sydd frenin.”
8
A chyffrowyd y dyrfa a’r Politarchiaid pan glywsant hyn,
9
eithr wedi cael mechnïaeth gan Iason a’r lleill gollyngasant hwynt.
10
A danfonodd y brodyr Baul a Silas yn ebrwydd o hyd nos i Ferea, ac wedi iddynt gyrraedd aethant i synagog yr Iddewon.
11
Yr oedd y rhain yn fwy boneddigaidd na’r rhai yn Thesalonica, a derbyniasant y gair gyda phob parodrwydd, gan chwilio’r ysgrythurau beunydd i weld a oedd hyn felly.
12
Llawer ohonynt, felly, a gredodd, ac o’r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wŷr, nid ychydig.
13
Ond wedi i Iddewon Thesalonica ddyfod i wybod cyhoeddi o Baul air Duw ym Merea hefyd, deuthant yno i derfysgu a chyffroi’r torfeydd.
14
Ar hynny danfonodd y brodyr Baul yn ebrwydd, i gyrchu tua’r môr; ac arhosodd Silas a Thimotheus yno.
15
A’r rhai a hebryngai Baul, dygasant ef hyd Athen, ac wedi iddynt dderbyn siars i Silas a Thimotheus i ddyfod ato gyntaf y gallent, aethant ymaith.
16
A thra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddid ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod.
17
Felly anerchai yn y synagog yr Iddewon a’r rhai a addolai Dduw, ac ymddiddan yn y sgwâr bob dydd â’r rhai a hapiai fod yno.
18
A rhai hefyd o’r athronwyr, Epicwriaid a Stoiciaid, a ddadleuai ag ef, a dywedai rhai, “Beth a fynnai’r chwiwleidr yma ei ddywedyd?” Ac ebr eraill, “Ymddengys mai pregethwr duwiau dieithr yw.” Canys traethu’r newydd da yr oedd am yr Iesu a’r atgyfodiad.
19
A chymerasant afael arno, a’i ddwyn at yr Areopagus, gan ddywedyd, “A allwn gael gwybod beth yw’r ddysgeidiaeth newydd hon a draethir gennyt ti?
20
Canys rhyw bethau anghyffredin a ddygi i’n clustiau ni. Dymunwn, felly, gael gwybod beth yw meddwl y pethau hyn.”
21
(Nid oedd gan yr holl Atheniaid a’r dieithriaid ar ymweliad hamdden i ddim arall ond i adrodd neu glywed rhywbeth newydd sbon.)
22
A safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, a dywedyd: “Wŷr Athen, gwelaf ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddol.
23
Canys wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich cysegrfannau cefais hyd yn oed allor ag arni’n ysgrifenedig, I DDUW ANHYSBYS. Yr hyn, ynteu, a addolwch heb ei adnabod, hynny a gyhoeddaf fi i chwi.
24
Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, hwnnw, ac yntau’n Arglwydd nef a daear, ni phreswylia mewn temlau o waith llaw;
25
nis gwasanaethir chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen dim, yr hwn a rydd ei hun i bawb fywyd ac anadl a’r cwbl oll.
26
Gwnaeth hefyd o un bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan bennu cyfnodau gosodedig a therfynau eu preswylfod,
27
i geisio ohonynt Dduw, os gallant rywfodd ymbalfalu amdano a’i gael, ac yntau’n wir heb fod nepell oddiwrth neb un ohonom.
28
Oblegid ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod, fel y dywedodd, yn wir, rai o’ch beirdd chwi: ‘Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.’
29
A ni, felly, yn hiliogaeth Duw ni ddylem dybied bod y Duwdod yn debig i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn.
30
Yn awr, edrychodd Duw heibio i amserau’r anwybod, ond bellach cyhoedda i ddynion fod i bawb ym mhobman edifarhau,
31
am iddo osod diwrnod y barn ef y byd mewn cyfiawnder trwy ŵr a benododd, ac fe roes brawf i bawb wrth ei atgyfodi o feirw.”
32
A phan glywsant am atgyfodiad meirwon, gwawdiai rhai; ond dywedai eraill, “Fe’th wrandawn eto drachefn am hyn.”
33
Felly aeth Paul ymaith o’u mysg;
34
ond ymlynodd rhai gwŷr wrtho a chredu, ac yn eu plith Dionysius, aelod o’r Areopagus, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28