bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 26
Acts 26
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
1
Ac ebe Agripa wrth Baul, “Caniateir i ti siarad drosot dy hun.” Yna fe estynnodd Paul ei law, a dechrau ei amddiffyn ei hun.
2
“Am yr holl bethau yr achwynir yn fy erbyn gan Iddewon, frenin Agripa, fe’m hystyriaf fy hun yn ddedwydd o gael fy amddiffyn fy hun heddiw ger dy fron di,
3
yn enwedig am dy fod yn gyfarwydd yn yr holl ddefodau a chwestiynau Iddewig; gan hynny, crefaf arnat fy ngwrando yn amyneddgar.
4
Fy muchedd, ynteu, o febyd, fy mywyd o’r dechrau, ymhlith fy nghenedl y bu ac yng Nghaersalem, fel y gŵyr pob Iddew;
5
adwaenant fi erioed; gwyddant, o mynnant dystiolaethu, mai yn ôl y sect fanylaf o’n crefydd y bûm i fyw yn Pharisead.
6
(Hyd yn oed yn awr, oblegid gobaith yn yr addewid i’n tadau ni, a wnaed gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu —
7
addewid y mae ein deuddeg llwyth ni trwy wasnaethu yn ymroddgar nos a dydd yn gobeithio ei chyrraedd. Ac am y gobaith hwn yr achwynir arnaf, O frenin, gan Iddewon!
8
Paham y bernir yn anghredadwy gennych chwi fod Duw yn cyfodi’r meirw?)
9
Beth bynnag, tybiais i ynof fy hun y dylwn weithio llawer yn erbyn enw Iesu, y Nasaread;
10
a hyn a wneuthum yng Nghaersalem, a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi cael yr awdurdod oddiwrth yr Archoffeiriaid, a phan oeddid am eu difetha rhoddais fy mhleidlais yn eu herbyn;
11
ac yn yr holl synagogau lawer gwaith y cosbais hwynt a cheisio eu gorfodi i gablu, ac a mi’n ynfyd wrthynt dros fesur erlidiwn hwynt hyd yn oed i’r dinasoedd tu allan.
12
Pan oeddwn yn teithio ynglŷn â hyn i Ddamascus gydag awdurdod a chennad yr Archoffeiriaid,
13
ganol dydd ar y ffordd mi welais, O frenin, oleuni o’r nef yn disgleirio o’m hamgylch i a’r rhai oedd yn teithio gyda mi, goruwch disgleirdeb yr haul.
14
Syrthiasom oll i’r llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf yn yr iaith Hebraeg, ‘Saul, Saul, paham y’m herlidi? Garw i ti yw gwingo yn erbyn symbylau.’
15
Dywedais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd, ‘Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid;
16
eithr cyfod a saf ar dy draed; canys i hyn yr ymddangosais i ti — i’th ragordeinio di yn was, ac yn dyst o’r hyn a welaist ohonof ac o’r hyn a welir ohonof gennyt,
17
gan dy ddethol di allan o’r Bobl ac o’r Cenhedloedd,
18
y rhai yr wyf yn dy anfon atynt i agoryd eu llygaid, i droi ohonynt o dywyllwch i oleuni ac oddiwrth awdurdod Satan at Dduw, fel y caffont faddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a santeiddiwyd trwy ffydd — eu ffydd ynof fi.’
19
O achos hyn, frenin Agripa, ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol,
20
eithr i’r rhai yn Namascus yn gyntaf ac yng Nghaersalem, a thrwy holl wlad Iwdea, a hefyd i’r Cenhedloedd y cyhoeddwn edifarhau a throi at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd teilwng o’u hedifeirwch.
21
Oherwydd hyn y daliodd yr Iddewon fi yn y Deml, a cheisio fy llofruddio.
22
Swcwr a gefais oddiwrth Dduw hyd y dydd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a mân, heb ddywedyd dim yn wahanol i’r pethau y dywedodd y proffwydi eu bod i ddigwydd, a Moesen hefyd,
23
os i ddioddef y mae’r Crist, os ef yn gyntaf o atgyfodiad y meirw sydd i fynegi goleuni i’r Bobl ac i’r Cenhedloedd.”
24
Ac fel yr oedd ef yn ei amddiffyn ei hun felly, ebe Ffestus â llef uchel, “Yr wyt yn ynfyd, Paul; dy fawr ddysg sy’n dy yrru yn ynfyd.”
25
Ebe Paul, “Nid wyf yn ynfyd, ardderchocaf Ffestus, eithr geiriau gwirionedd a phwyll yr wyf yn eu traethu.
26
Yn wir, gŵyr y brenin am y pethau hyn, ac wrtho ef y llefaraf yn hy; canys ni chredaf fod dim un o’r pethau hyn yn ddieithr iddo, canys nid mewn congl y gwnaed hyn.
27
Yr wyt yn credu’r proffwydi, frenin Agripa? Gwn dy fod yn credu.”
28
Ebe Agripa wrth Baul, “Drwy ychydig y ceisi fy mherswadio i i’m gwneuthur yn Gristion!”
29
Ebe Paul, “Mi ddymunwn gan Dduw, pa un ai drwy ychydig ai drwy lawer, nid am danat ti yn unig ond am bawb sy’n fy ngwrando heddiw, am iddynt ddyfod yn gyfryw ag yr wyf finnau — oddieithr y rhwymau hyn.”
30
Yna cododd y brenin a’r rhaglaw, Bernice hefyd a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt,
31
ac wedi iddynt ymneilltuo, ymddiddan â’i gilydd a dywedyd: “Nid yw’r dyn yma yn gwneuthur dim yn haeddu marwolaeth neu rwymau.”
32
Ac ebr Agripa wrth Ffestus, “Gallasai’r dyn yma fod wedi ei ollwng yn rhydd, pe nad apeliasai at Gesar.”
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28