bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 27
Acts 27
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
1
A phan benderfynwyd ar hwylio ohonom i’r Eidal, rhoent Baul a rhai carcharorion eraill yng ngofal canwriad, a’i enw Iwlius, o’r fintai Ymerodrol.
2
Ac wedi i ni fynd ar long o Adramyttium, a oedd ar fedr hwylio i’r lleoedd ar hyd glannau Asia, codasom hwyl, a chyda ni Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica.
3
A thrannoeth tiriasom yn Sidon, ac fe ymddug Iwlius yn garedig tuagat Baul a rhoi cennad iddo i fynd at ei gyfeillion a chael bod dan ofal.
4
Ac oddiyno, wedi codi angor, hwyliasom yng nghysgod Cyprus am fod y gwyntoedd yn ein herbyn;
5
ac wedi i ni hwylio dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, cyraeddasom Fyra yn Lycia.
6
Ac yno fe gafodd y canwriad long o Alecsandria, a oedd ar ei thaith i’r Eidal, ac fe’n gosododd ni arni.
7
Am gryn ddyddiau araf hwylio yr oeddem, a braidd y deuthom ar gyfer Cnidus, ac am na adai’r gwynt inni, hwyliasom yng nghysgod Crete ar gyfer Salmône,
8
a braidd trwy hwylio gyda’r tir y deuthom i ryw le a elwid Porthladdoedd Teg, a cherllaw iddo yr oedd dinas Lasea.
9
A chan fod cryn amser wedi treiglo a bod morio bellach yn beryglus, oherwydd yr oedd hyd yn oed yr Ympryd eisoes wedi mynd heibio, fe gynghorai Paul hwynt,
10
gan ddywedyd wrthynt; “Wŷr, gwelaf fod difrod a mawr golled, nid yn unig i’r llwyth ac i’r llong ond i’n bywydau ni hefyd, i ganlyn y fordaith.”
11
Ond gwrandawai’r canwriad yn hytrach ar y peilat a’r capten nag ar ddim a ddywedai Paul.
12
A chan fod y porthladd yn anghymwys i aeafu ynddo, fe roes y rhan fwyaf farn dros hwylio oddiyno, i gyrraedd, os gallent rywfodd, Phoenix, a gaeafu yno — porthladd yng Nghrete yn edrych tua’r dehau-orllewin a’r gogledd-orllewin.
13
A phan araf chwythodd deheuwynt, tybiasant iddynt gael eu hamcan, â chodasant angor a chadw gyda thir Crete, yn agos i’r lan.
14
Ond cyn hir fe ruthrodd i lawr o’r tir wynt tymhestlog, a elwir Ewracwilo;
15
cipiwyd y llong, a chan na allai ddal yng ngwrthwyneb i’r gwynt, ildio a wnaethom, a gyrru o’i flaen.
16
Ac wedi rhedeg yng nghysgod rhyw ynys fechan, a elwir Cawda, prin y gallasom gael meddiant o’r bâd,
17
ac wedi ei godi defnyddio cynorthwyon a wnaethant i amwregysu’r llong; ac a hwythau’n ofni rhag eu bwrw ar y Syrtis, gostyngasant y teclyn, a mynd gyda’r llif felly.
18
Ac a ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, dechreuasant drannoeth daflu o’r llong,
19
a’r trydydd dydd lluchio ymaith a wnaethant â’u dwylo eu hunain daclau’r llong.
20
A phan nad ymddangosai na haul na sêr dros ddyddiau lawer, a thymestl fawr yn gwasgu arnom, o hynny allan dwyn oddiarnom yr oeddid bob gobaith am ein cadw.
21
A phan fu hir eisiau bwyd, yna cododd Paul yn eu canol hwynt a dywedyd: “Wŷr, chwi ddylasech wrando arnaf fi, a pheidio â chychwyn allan o Grete, ac arbed y difrod hwn a’r golled.
22
Hyd yn oed yn awr cynghoraf chwi i ymwroli, canys ni bydd dim colli bywyd yn eich plith chwi, ond yn unig y llong;
23
canys fe safodd yn fy ymyl neithiwr angel y Duw piau fi a’r hwn yr wyf yn ei addoli,
24
a dywedyd, ‘Paid ag ofni, Paul; ger bron Cesar y mae’n rhaid i ti sefyll, a dyma Dduw wedi rhoddi i ti y rhai oll sy’n morio gyda thi.’
25
Felly ymwrolwch, wŷr; canys yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, y modd y dywedwyd i mi.
26
Ond ar ryw ynys y mae’n rhaid ein bwrw ni.”
27
A phan ddaeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ni’n ymdroi ym môr Hadria, tua chanol nos fe dybiai’r morwyr fod rhyw wlad yn dynesu.
28
A phlymio a wnaethant a chael ugain gwryd; ac wedi symud ychydig, plymio drachefn a chael pymtheg gwryd.
29
Ac a hwy’n ofni rhag efallai ein bwrw ar leoedd geirwon, bwriasant bedair angor o’r starn, a dyheu a wnaent am iddi ddyddhau.
30
A’r morwyr yn ceisio ffoi o’r llong ac wedi gollwng y bâd i’r môr dan esgus mynd i estyn angorau o’r pen blaen,
31
fe ddywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, “Onid erys y rhain yn y llong, ni ellwch chwi gael eich cadw.”
32
Yna fe dorrodd y milwyr raffau’r bâd, a gadasant iddo gwympo ymaith.
33
A hyd onid oedd hi ar ddyddhau, anogai Paul bawb i gymryd peth lluniaeth, gan ddywedyd, “Erbyn heddiw ers pedwar diwrnod ar ddeg yr ydych yn dal ar eich cythlwng i ddisgwyl, heb gymryd dim.
34
Felly yr wyf yn dymuno arnoch gymryd peth lluniaeth, oblegid y mae hynny y mhlaid eich achubiaeth; canys i ddim un ohonoch ni chollir blewyn oddiar ei ben.”
35
Ac wedi iddo ddywedyd hyn fe gymerth fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, ac wedi iddo dorri fe ddechreuodd fwyta.
36
Ac ymwroli a wnaeth pawb a chymryd hwythau hefyd beth lluniaeth.
37
(Yr oeddem i gyd yn y llong yn rhyw un ar bymtheg a thrigain o eneidiau.)
38
Ac wedi iddynt gael eu gwala o luniaeth, ysgafnhaent y llong trwy fwrw yr ŷd allan i’r môr.
39
A phan ddaeth hi yn ddydd, nid adwaenent y tir, ond canfyddent ryw gilfach ac iddi draeth, ac ymgynghori a allent ddwyn y llong i mewn iddi yn ddiogel.
40
A thorri ymaith yr angorau a wnaethant, a’u gadael yn y môr; yr un pryd datod cyplau’r llywiau, a chodi’r hwyl flaen i’r awel, a chyfeirio tua’r traeth.
41
Ond wedi iddynt syrthio ar le rhwng dau fôr gyrasant y llong i dir, ac fe lynodd y pen blaen, a safodd, yn ddiysgog, ond y starn oedd yn ymddatod dan y grym.
42
A chyngor y milwyr a fu lladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio ymaith a dianc.
43
Ond gan yr ewyllysiai’r canwriad achub Paul, fe rwystrodd iddynt eu dymuniad, a gorchmynnodd i’r rhai a fedrai nofio ymdaflu allan yn gyntaf,
44
a mynd ymaith tua’r tir, ac yna’r lleill, rhai ar ystyllod ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong ac felly y darfu i bawb ddyfod yn ddiogel i’r tir.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28