bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 22
Acts 22
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
1
“Frodyr a thadau, clywch fy amddiffyn wrthych yr awron.”
2
Pan glywsant mai yn yr iaith Hebraeg yr oedd yn eu hannerch, rhoesant dawelwch mwy.
3
“Gŵr o Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus Cilicia, wedi fy nghodi yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy addysgu yn ôl manylrwydd Cyfraith y tadau, yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw;
4
erlidiais y Ffordd hon hyd angau, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd,
5
fel y tystiai i mi yr Archoffeiriaid a holl Gyngor yr henuriaid; oddiwrthynt hwy y derbyniais lythyrau at y brodyr yn Namascus, ac yr oeddwn ar y ffordd, i ddwyn y rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Gaersalem i’w cosbi.
6
Ond pan oeddwn ar y ffordd ac yn dynesu at Ddamascus, tua chanol dydd yn sydyn fe fflachiodd o’r nef oleuni mawr o’m hamgylch;
7
syrthiais i’r llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf, ‘Saul, Saul, paham y’m herlidi?’
8
Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu y Nasaread wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’ A’r rhai oedd gyda mi,
9
gwelsant y goleuni, ond llais yr hwn a lefarai wrthyf nis clywsant.
10
A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cyfod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt am bob peth yr ordeiniwyd i ti ei wneuthur.’
11
A chan na welwn ddim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe’m dygwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus.
12
A rhyw Ananias, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, ac iddo air da gan yr holl Iddewon a drigai yno, a ddaeth ataf,
13
a chan sefyll yn ymyl fe ddywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, cymer dy olwg yn ôl.’ A minnau, yr awr honno, cefais fy ngolwg yn ôl, ac edrychais arno.
14
A dywedodd yntau: ‘Duw ein tadau a’th ddewisodd di i wybod ei ewyllys ac i weled yr un Cyfiawn ac i glywed llef o’i enau ef;
15
canys ti fyddi’n dyst iddo wrth bob dyn am yr hyn a welaist ac a glywaist.
16
Ac yn awr paham yr oedi? Cyfod, a bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw.’
17
A digwyddodd, wedi i mi ddychwelyd i Gaersalem, pan oeddwn yn gweddïo yn y Deml, imi fyned mewn llewyg
18
a’i weled ef yn dywedyd wrthyf, ‘Brysia, a dos yn glau allan o Gaersalem, oherwydd ni dderbyniant gennyt ti dystiolaeth amdanaf fi.’
19
A dywedais innau, ‘Arglwydd, gwyddant hwy mai myfi oedd yn carcharu ac yn fflangellu, o synagog i synagog, y rhai a gredai ynot ti;
20
a phan oeddid yn tywallt gwaed Steffan, dy ferthyr, yr oeddwn i fy hun yn sefyll yn ymyl, ac yn cymeradwyo, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdai.’
21
A dywedodd wrthyf, ‘Dos, canys danfonaf fi di at y Cenhedloedd ymhell.’ ”
22
Gwrandawsent arno hyd y gair hwn, ac yna codasant eu llef gan ddywedyd, “Ymaith â’r fath un oddiar y ddaear! Nid gweddus ei fod yn fyw.”
23
Ac fel yr oeddynt yn gweiddi ac yn ysgytio eu dillad ac yn taflu llwch i’r awyr,
24
gorchmynnodd y capten ei ddwyn i mewn i’r castell, gan ddywedyd am ei holi ef trwy fflangellu, er mwyn cael gwybod am ba reswm y llefent felly yn ei erbyn.
25
Ond pan estynasant ef â’r careiau, dywedodd Paul wrth y canwriad a safai ger llaw, “Ai rhydd i chwi fflangellu dyn sydd yn Rhufeiniwr, a heb ei farnu?”
26
Pan glywodd y canwriad, aeth at y capten, ac fe’i mynegodd iddo, gan ddywedyd, “Beth yr wyt ti am ei wneuthur? Rhufeiniwr yw y dyn yma.”
27
Ac aeth y capten ato, a dywedyd wrtho, “Dywed i mi, ai Rhufeiniwr wyt ti?” Eb yntau, “Ie.”
28
Ac atebodd y capten, “A swm mawr y cefais i y ddinasfraint hon.” Ac ebe Paul, “Minnau, fe’m ganed â hi.”
29
Yn union gan hynny fe ymneilltuodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi; ac ofnodd hyd yn oed y capten, pan wybu mai Rhufeiniwr oedd, a’i fod yntau wedi ei rwymo.
30
A thrannoeth, ac ef yn dymuno gwybod yn sicr pa gyhuddiad, a ddygid gan yr Iddewon fe’i gollyngodd ef, a gorchmynnodd i’r Archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin ymgynnull, ac fe ddug Paul i lawr, a’i osod ger eu bron.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28