bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 8
Acts 8
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
1
A dechreuodd erlid mawr y dydd hwnnw ar yr eglwys yng Nghaersalem; ac fe’u gwasgarwyd oll trwy gylchoedd Iwdea a Samaria, oddieithr yr apostolion.
2
Claddodd gwŷr duwiol Steffan, ac wylofain yn uchel amdano.
3
Ond difrodai Saul yr eglwys, gan fynd i mewn o dŷ i dŷ, a chan lusgo ymaith wŷr a gwragedd fe’u traddodai i garchar.
4
Y rhai a wasgarwyd, ynteu, teithiasant gan draethu’r newydd da.
5
Aeth Phylip i lawr i ddinas Samaria, a dechreuodd gyhoeddi iddynt y Crist.
6
A daliai’r torfeydd yn unfryd ar yr hyn a ddywedai Phylip, wrth glywed ohonynt a gweled yr arwyddion a wnâi;
7
canys llawer o’r rhai oedd ag ysbrydion aflan ynddynt — gan lefain â llef uchel deuent allan, a llawer parlysedig a chloff a iachawyd;
8
a bu llawenydd mawr yn y ddinas honno.
9
Ac yr oedd eisoes ryw ŵr a’i enw Simon yn y ddinas, yn swyna, ac yn synnu cenedl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef yn rhywun mawr;
10
a daliai pawb sylw arno, o fawr i fân, gan ddywedyd, “Hwn yw’r Gallu Duw a elwir Mawr.”
11
Dalient sylw arno am fod syndod arnynt er ys talm at ei swynion.
12
Eithr wedi iddynt gredu Phylip a’i newydd da am deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, bedyddid hwynt, yn wŷr a gwragedd.
13
A Simon ei hun yntau a gredodd, ac wedi ei fedyddio bu ddyfal ei lynu wrth Phylip, ac wrth weled gwneuthur arwyddion a grymusterau mawr, fe synnai.
14
Ac wedi i’r apostolion yng Nghaersalem glywed i Samaria dderbyn gair Duw anfonasant atynt Bedr ac Ioan;
15
a hwythau, wedi dyfod i lawr, gweddïasant drostynt am iddynt gael yr Ysbryd Glân.
16
Canys nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt; wedi eu bedyddio yn unig yr oeddynt i enw yr Arglwydd Iesu.
17
Yna dodent eu dwylo arnynt, a chaent hwythau’r Ysbryd Glân.
18
Ac wedi i Simon weled mai trwy arddodiad dwylo’r apostolion y rhoid yr ysbryd, fe ddug iddynt dâl,
19
gan ddywedyd, “Rhowch i minnau’r gallu yma, gael o’r neb y dodwyf fy nwylo arno yr Ysbryd Glân.”
20
Ond dywedodd Pedr wrtho, “I goll â thydi a’th arian, am iti feddwl meddiannu dawn Duw trwy dâl!
21
Nid oes i ti ran na chyfran yn hyn o beth, canys dy galon nid yw’n union ger bron Duw.
22
Edifarha, ynteu, am dy ddrygioni hwn, ac erfyn ar Dduw a faddeuir i ti feddylfryd dy galon;
23
canys gwelaf dy fod yn fustl o chwerwder ac yn sypyn o anwiredd.”
24
Atebodd Simon, a dywedodd, “Erfyniwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd na ddêl arnaf ddim o’r hyn a ddywedasoch.”
25
Hwythau, wedi iddynt ddwys dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant yn ôl i Gaersalem, a chyhoeddi’r newydd da yn llawer o bentrefi’r Samariaid.
26
Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Phylip, gan ddywedyd, “Cyfod a dos tua’r dehau dros y ffordd sy’n mynd i lawr o Gaersalem i Gasa.” (Ffordd unig yw hon.)
27
A chyfododd a mynd; a dyna ŵr o Ethiop, eunuch, un o wyrda Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ben ar ei holl drysor hi; deuthai i Gaersalem i addoli,
28
ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, a darllenai’r proffwyd Esaias.
29
A dywedodd yr Ysbryd wrth Phylip, “Dos ac ymwasg â’r cerbyd yna.”
30
A rhedodd Phylip ato, a chlywodd ef yn darllen Esaias y proffwyd, a dywedodd, “A wyt ti’n deall yr hyn a ddarlleni?”
31
Dywedodd yntau, “Pa fodd, tybed, y gallaf, oni’m cyfarwydda rhywun?” Ac fe ddymunodd ar Phylip ddyfod i fyny ac eistedd gydag ef.
32
A hon oedd yr adran ysgrythur a ddarllenai: Fel dafad i’r lladdfa y dygwyd ef, ac fel oen ger bron a’i cneifia, yn fud, felly nid egyr ei enau.
33
Am ei ostyngeiddrwydd ei brawf a omeddwyd iddo; ei genhedlaeth, pwy a’i traetha? canys cipir ei fywyd oddiar y ddaear.
34
Atebodd yr eunuch a dywedodd wrth Phylip, “Atolwg i ti, am bwy y dywed y proffwyd hyn? Amdano’i hun, neu am rywun arall?”
35
Ac agorodd Phylip ei enau, a chan ddechrau â’r ysgrythur honno fe draethodd iddo’r newydd da am yr Iesu.
36
Ac a hwynt yn mynd ar hyd y ffordd, deuthant at ryw ddŵr, ac medd yr eunuch, “Dyma ddŵr; beth sy’n lluddias fy medyddio?”
38
Ac fe orchmynnodd i’r cerbyd aros, ac aethant i lawr ill dau i’r dŵr, Phylip a’r eunuch, ac fe’i bedyddiodd.
39
A phan ddeuthant i fyny o’r dŵr, cipiodd Ysbryd yr Arglwydd Phylip, ac ni welodd yr eunuch mono mwyach; canys âi i’w ffordd yn llawen.
40
Eithr Phylip a gafwyd yn Asotus, a chan deithio cyhoeddai’r newydd da yn yr holl ddinasoedd nes ei ddyfod i Gesarea.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28